Cynghori myfyrwraig Iddewig i 'guddio' ei chrefydd
- Cyhoeddwyd
Mae myfyrwraig Iddewig yn dweud ei bod wedi cael cyngor i beidio dangos arwyddion o'i chrefydd oherwydd y rhyfel rhwng Israel a Hamas ar Lain Gaza.
Dywedodd y ferch 20 oed o Brifysgol Caerdydd, sy'n dymuno aros yn ddienw, ei bod yn teimlo'n ofnus rhag iddi ddod yn darged i gael ei cham-drin.
Yn y cyfamser, dywedodd menyw Gymreig-Balesteinaidd ei bod yn teimlo fel ei bod wedi ei "dad-ddyneiddio" gan yr iaith sy'n cael ei defnyddio.
Ers dechrau'r gwrthdro mae swyddogion Palesteinaidd yn dweud bod dros 4,000 o bobl wedi'u lladd yn Gaza ers i Hamas ymosod ar Israel ar 7 Hydref, gan ladd 1,400.
Dywedodd y fyfyrwraig fod llawer o bobl wedi rhoi'r gorau i wisgo eu kippahs y tu allan gan nad oedden nhw eisiau bod yn darged.
Ychwanegodd bod ei ffrind wedi bod yn "ofnus i ddychwelyd i'r campws" gan ei bod yn pryderu sut y byddai pobl yn ymateb.
'Cymaint o ofn a siomedigaeth'
Wedi ymgynghoriad diweddar, dywedodd yr Undeb Myfyrwyr Iddewig wrth y myfyrwyr hynny sy'n poeni eu bod yn darged am guddio eu crefydd.
Dywedodd Prifysgol Caerdydd bod cymorth ar gael ac bod ganddynt bolisi dim goddefgarwch tuag at hiliaeth, gwrth-semitiaeth ac Islamaffobia.
Dywedodd Alaa Khundakji o Gaerdydd, sy'n 36 oed ac yn Gymraes-Balesteinaidd, bod yr awyrgylch yn y DU wedi gwneud pethau tipyn gwaeth.
Bu'n rhaid i deulu Alaa symud i dde Gaza oherwydd y bomio.
"Mae cymaint o ofn a siomedigaeth o fewn y gymdeithas," meddai.
Ychwanegodd bod teuluoedd Palesteinaidd wedi dweud wrthi bod eu plant yn dychwelyd o'r ysgol "wedi cynhyrfu".
'Cadw proffil isel ar hyn o bryd'
Dywedodd Moran a Tova, sy'n hanu o Israel ond bellach yn byw yng Ngherdydd, fod Israel i fod i fod yn "hafan ddiogel" i bobl Iddewig.
Ond ychwanegon nhw bod y gymuned wedi eu siomi gydag ymateb Llywodraeth Cymru ers ymosodiad Hamas.
"Cawsom gyfarfod yma, roedd yna gynrychiolydd o Lywodraeth y DU ond neb o Gymru."
Mae'r ddwy ddynes yn dweud eu bod yn teimlo'n anniogel ac yn honni bod ffrind wedi ei cham-drin yn eiriol wrth osod baner Israel ar risiau'r Senedd.
Ychwanegon nhw fod ffrind arall wedi ceisio ymuno ond trodd yn ôl wrth weld gorymdaith Balesteinaidd yng Nghaerdydd.
"Rydym yn cadw proffil isel ar hyn o bryd," medd Moran.
Dywedodd na fyddai'n caniatáu i Hamas "adael i ni fyw mewn ofn, ni fyddant yn ennill a byddwn yn cerdded gyda'n pennau'n uchel ac yn falch".
Ychwanegodd Tova: "Dydyn ni ddim fel arfer eisiau bod yn ddienw, rydyn ni'n Israeliaid balch, ac mae'n boenus".
'Llawer o Fwslemiaid yn ofnus'
Dywedodd tri o heddluoedd Cymru nad oedden nhw wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y troseddau casineb sy'n cael eu hadrodd, ond dywedodd yr Uwch-arolygydd Tim Morgan o Heddlu De Cymru eu bod ar gael i gynnig cefnogaeth.
Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslimiaid Cymru, Dr Abdul-Azim Ahmed, mae'n galonogol nad oedd heddlu Cymru wedi gweld cynnydd mewn troseddau casineb, ond bod llawer o Fwslimiaid yn "ofnus".
"Mae pobl yn poeni am effaith ymgyrchu dros Balesteina. Maen nhw hefyd yn pryderu am yr hyn mae pobl arall yn ei gredu," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Prif Weinidog wedi condemnio'n gryf yr ymosodiadau erchyll gan Hamas a'r cynnydd erchyll mewn trais yn erbyn Israel.
"Mae'r gweinidog dros gyfiawnder cymdeithasol wedi estyn allan i arweinwyr ffydd yng Nghymru i fynegi ei sioc a'i chydymdeimlad.
"Mae hi mewn cyswllt â'r Fforwm Cymunedau Ffydd i drefnu cyfarfod gyda chynrychiolwyr o'r gymuned Iddewig cyn gynted â phosibl."
Pan ofynnwyd iddo am iaith y Prif Weinidog Rishi Sunak tra'n cyfeirio at Balestiniaid, cyfeiriodd Llywodraeth y DU at y datganiad yn Nhŷ'r Cyffredin yn gynharach yr wythnos hon pan ddywedodd: "Rydym yn galaru am bob bywyd diniwed a gollwyd, am bobl o bob ffydd a phob cenedligrwydd sydd wedi eu lladd - felly gadewch i ni ddweud yn glir: rydyn ni'n sefyll gyda chymunedau Mwslimaidd Prydain hefyd."
Dywedodd llefarydd fod Llywodraeth y DU yn darparu £10m yn ychwanegol o gymorth i Balestiniaid, gan ddweud bod pobl Palestinaidd yn "ddioddefwyr Hamas hefyd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2023