Heddwas wedi gofyn am luniau o blant mewn gwisg ysgol
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl yma beri gofid i rai
Mae llys wedi clywed bod cyn-heddwas, a wnaeth feithrin perthynas â dros 200 o ferched ifanc, wedi gofyn i'w ddioddefwyr dynnu lluniau anweddus o'u hunain yn eu gwisgoedd ysgol.
Roedd Lewis Edwards, 24, yn defnyddio cyfrifon Snapchat ffug er mwyn targedu merched mor ifanc â 10 oed.
Mae'n cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd, ond fe wrthododd ymddangos yn y llys ar gyfer y gwrandawiad am yr ail ddiwrnod yn olynol.
Cafodd Edwards ei ddal gyda dros 4,500 o luniau anweddus o blant - 700 o'r rheiny yn y categori mwyaf difrifol.
Roedd mwyafrif llethol y troseddau wedi digwydd ar ôl i Edwards ymuno â Heddlu De Cymru yn Ionawr 2021.
Cafodd ei wahardd rhag plismona yn dilyn gwrandawiad camymddwyn.
Clywodd y llys yn flaenorol fod Edwards, o Ben-y-bont ar Ogwr, mewn cyswllt â chyfanswm o 210 o ferched rhwng 10 ac 16 oed - gyda lluniau o 207 ohonyn nhw wedi eu darganfod ar ei wahanol ddyfeisiau.
Os nad oedd y merched yn gwneud yr hyn yr oedd o yn ei ofyn, byddai Edwards yn bygwth rhannu'r lluniau neu'n bygwth achosi niwed i'w teuluoedd.
Fe ddigwyddodd y troseddau rhwng Tachwedd 2020 a Chwefror 2023, pan gafodd ei arestio yn ei gartref.
Roedd eisoes wedi pledio'n euog i 160 o droseddau, gan gynnwys annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithred rywiol, annog plentyn i wylio gweithred rywiol, blacmel a chreu delweddau anweddus o blant.
Ddydd Mawrth, dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Roger Griffiths, fod Edwards wedi targedu dwy chwaer.
Fe wnaeth un o'r chwiorydd, oedd yn 13 oed ar y pryd, anfon lluniau anweddus o'i chorff a fideo o weithred rhyw.
Yn ôl Mr Griffiths, roedd Edwards wedi arbed y lluniau hyn yn "ei ffeil hi" ar ei ddyfeisiau electroneg.
Clywodd y llys gan ddioddefwr arall oedd yn 13 oed ar y pryd, a ddywedodd bod Edwards wedi cysylltu â hi wrth iddi baratoi i ddechrau mewn ysgol newydd.
Fe anfonodd hi luniau at Edwards, yn credu ar y pryd ei fod o'n fachgen yn ei arddegau.
Roedd Edwards wedi dweud wrthi ei bod hi'n "berffaith", ac wedi gofyn iddi dynnu lluniau yn ei gwisg ysgol.
"Roeddwn i'n fregus ar y pryd, ac eisiau gwneud ffrindiau newydd. Roeddwn i'n credu fy mod yn siarad â bachgen clên oedd wir yn fy hoffi," meddai'r ferch.
'Ddoi fyth dros y trawma'
Ychwanegodd ei bod hi eisiau ei "blesio" ar ôl iddo rannu straeon am bethau drwg oedd yn digwydd yn ei fywyd.
Ond ar ôl iddi ddweud nad oedd hi am anfon rhagor o luniau, dywedodd fod Edwards wedi "bygwth hi a'i theulu".
"Roeddwn i mor ofn, roedd e'n brifo gymaint... ddoi fyth dros y trawma yma."
Clywodd y llys hefyd fod Edwards wedi gofyn i ferch 10 oed am luniau anweddus ar sawl achlysur.
Roedd Edwards wedi dod o hyd iddi ar Snapchat ar ôl i'w chyfrif gwreiddiol gael ei dynnu lawr gan ei thad.
Dywedodd yr erlyniad fod Edwards wedi bygwth rhannu lluniau anweddus gyda'i ffrindiau.
Clywodd yr heddlu hefyd bod yr heddlu wedi edrych ar oriau gwaith Edwards, ac wedi eu cymharu â phryd y cafodd rhai o'r ffeiliau eu creu.
Yn ôl Mr Griffiths, roedd "o leiaf 30 o achosion yn ystod y cyfnod hir yma, pan roedd lluniau yn cael eu hanfon i'w ffôn pan yr oedd o ar ddyletswydd".
'Dinistrio bywydau pobl'
Dywedodd bargyfreithiwr Edwards, Susan Ferrier, bod y diffynydd wedi cyfaddef iddo "ddinistrio bywydau pobl".
Ychwanegodd nad oedd unrhyw esgus am y "troseddu hir, ofnadwy yn erbyn merched ifanc".
Dywedodd Ms Ferrier hefyd nad oedd Edwards wedi camddefnyddio ei swydd fel heddwas yn ystod y troseddu, a'i fod wedi pledio'n euog ar y cyfle cyntaf.
Mae disgwyl i'r gwrandawiad dedfrydu bara tridiau.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd1 Medi 2023