Cyhuddo Andrew RT Davies o gasineb at fenywod ar ôl sylw gwallt
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd wedi'i gyhuddo o gasineb at fenywod yn dilyn sylwadau a wnaeth ar sianel deledu GB News.
Yn ystod rhaglen Nigel Farage, dywedodd Andrew RT Davies bod Llywydd y Senedd Elin Jones yn rhy "brysur yn gwneud ei gwallt" i ymddangos ar y rhaglen.
Dywedodd Mr Davies fod y cyhuddiad yn un "desperate".
Mewn ymateb, dywedodd Ms Jones ar ei chyfrif X, Twitter gynt, ei bod hi wedi gallu bychanu sylwadau "gwirion ac anaddas" Mr RT Davies, ond nad oedd ganddo hawl i wneud hynny ei hun.
"Wrth edrych yn ôl, nid amddiffyn y sylwadau oedd y peth iawn i'w wneud," meddai.
"Roeddwn i'n arfer dweud mai Ceidwadwyr oedd y gwleidyddion mwyaf cwrtais. Beth sydd wedi digwydd?"
Nos Fercher cafodd rhaglen Nigel Farage ar y sianel ei darlledu o gangen Llandaf ac Elai o Gymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol yng Nghaerdydd.
Daeth y sioe i'r brifddinas oherwydd bod Senedd Cymru wedi tynnu'r sianel oddi ar ei system deledu fewnol - sy'n cael ei defnyddio gan staff ac aelodau'r Senedd i ddilyn trafodion y Senedd a gwylio sianeli teledu.
Mewn datganiad i'r wasg cyn y sioe, fe heriodd cyn-arweinydd UKIP Nigel Farage y Prif Weinidog Mark Drakeford, sy'n arwain Llywodraeth Cymru; sydd ar wahân i'r Senedd, i ddod ar ei sioe ac egluro'r penderfyniad.
Ar y rhaglen ei hun, dywedodd Mr Farage eu bod wedi gwahodd Elin Jones ond "ni chawsom ateb o gwbl".
"Prysur yn gwneud ei gwallt," atebodd Mr Davies.
"Mae'n ymwneud â rheolaeth ar ddiwedd y dydd, oherwydd yn amlwg nid ydyn nhw eisiau unrhyw leisiau anghydsyniol fel y maen nhw'n eu gweld, na llais amgen, yn eu Senedd."
'Gwarthus'
Ar X, dywedodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething, o'r Blaid Lafur: "Mae hyn yn gasineb at fenywod gwbl warthus gan [Andrew RT Davies], a dylai ymddiheuro ar unwaith i'r Llywydd."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fod Mr Davies wedi dangos "diffyg parch arswydus".
"Mae'n gwisgo ei gasineb at fenywod gyda balchder neu ddiffyg ymwybyddiaeth llwyr," ychwanegodd.
Gwrthododd y Senedd wneud sylw.
'Anobeithiol'
Dywedodd Andrew RT Davies: "Mae hyn yn anobeithiol (desperate) gan Lafur a Phlaid Cymru.
"Mae'n ymadrodd sy'n cael ei ddefnyddio gan lawer o Gymry, rhywbeth dwi wedi dweud am ddynion, merched a hyd yn oed amdanaf fy hun.
"Os yw Llafur a Plaid yn meddwl mai dyma'r prif fater heddiw, mater i nhw ydy hynny.
"Ond fy ffocws i yw blaenoriaethau pobl Cymru o dorri rhestrau aros yn ein GIG Cymru a chael gwared ar derfynau cyflymder 20mya cyffredinol Llafur a Phlaid Cymru."
Yn ddiweddar lansiodd Ofcom ymchwiliad i sylwadau sarhaus ar yr awyr a wnaed gan Laurence Fox ar GB News am newyddiadurwr benywaidd.
Cafodd Mr Fox a Calvin Robinson, sylwebydd arall ar y sianel, eu diswyddo.
Dywedodd llefarydd ar ran y Llywydd yn gynharach y mis hwn bod y penderfyniad i dynnu y sianel yn fewnol wedi ei wneud yn dilyn darllediad oedd yn "fwriadol sarhaus".
Ychwanegodd y llefarydd y gallai Aelodau'r Senedd a staff barhau i wylio GB News ar-lein.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021