Darlledu Cymraeg: 'Angen buddsoddiad brawychus' medd ASau

  • Cyhoeddwyd
S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae pencadlys S4C yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin ers pum mlynedd

Mae maint y buddsoddiad sydd ei angen i gynnal darlledu Cymraeg yn yr oes ddigidol yn "frawychus" meddai pwyllgor seneddol.

Daw'r rhybudd wrth i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan gyhoeddi ei adroddiad 'Darlledu yng Nghymru'.

Mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd "sicrhau yr un chwarae teg" i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a chwmnïau ffrydio, ac at y "perygl y bydd y newidiadau trawsnewidiol yn y diwydiant darlledu yn gwneud cynnwys Cymreig yn anweledig i wylwyr ar blatfformau digidol".

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae S4C yn falch fod y pwyllgor mor gefnogol i'n gwaith, ac hefyd yn gefnogol i'r camau fyddai'n diogelu amlygrwydd i S4C a'n gwasanaethau wrth i'r tirlun darlledu newid".

Digwyddiadau chwaraeon rhestredig

Mae'r pwyllgor hefyd yn galw am i bencampwriaeth rygbi'r Chwe Gwlad a chystadleuaeth bêl-droed Euro 2028 - a fydd yn cael ei chynnal yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon - gael eu hychwanegu at Grŵp A y digwyddiadau chwaraeon rhestredig, sy'n cael eu dangos yn rhad ac am ddim.

Mae gwerthu hawliau darlledu a'r cyfryngau yn cynrychioli tua 50% o incwm Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dylid diwygio cylch gwaith Ofcom "i fynnu bod gan rai digwyddiadau penodol sylwebaeth Gymraeg" meddai'r ASau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pob un o gemau Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd eleni yn fyw ar S4C ac ITV

Meddai cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, Stephen Crabb AS: "Mae chwaraeon yng Nghymru yn wynebu heriau ariannol dwys, ac rydyn ni'n cydnabod y tensiwn sy'n bodoli rhwng sicrhau'r cynulleidfaoedd teledu mwyaf trwy gynnig darllediadau am ddim a sicrhau'r refeniw mwyaf sydd ar gael o fynd y tu ôl i fur talu.

"Ond mae'r pwyllgor yn daer y dylai ein timau cenedlaethol fod ar gael i'w gwylio am ddim.

"I rygbi Cymru, sy'n brwydro i ailddarganfod ei enaid a gwrthdroi'r dirywiad mewn cyfranogiad ar lawr gwlad, mae hyn yn arbennig o bwysig.

"Rhaid i gystadleuaeth y Chwe Gwlad barhau'n rhad ac am ddim."

Cyllideb S4C wedi gostwng 36%

Mae'r pwyllgor yn nodi bod cyllideb S4C wedi gostwng 36% ers 2010, ac mae'n argymell "partneriaeth hirdymor ddatblygedig" gyda BBC Cymru sy'n "diogelu brand ac annibyniaeth unigryw S4C".

Yn ei hadolygiad o ffi'r drwydded, mae Llywodraeth y DU yn cael ei hannog gan y pwyllgor "i warchod darlledu Cymraeg ei iaith ac i fod yn glir ynghylch cyllid S4C i'r dyfodol".

Dywed y pwyllgor bod radio yn "hanfodol i gynnal y Gymraeg", ond "mae gorsafoedd lleol yn cael eu llyncu gan gorfforaethau mwy, a gwelwyd hunaniaeth a sylw lleol yn cael eu colli, er gwaethaf arddel enwau'r cymunedau y maent yn ceisio eu gwasanaethu".

Mae'r pwyllgor o'r farn bod "Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU wrth newid i radio digidol oherwydd materion cysylltedd mewn sawl ardal", ac mae'n galw ar Ofcom i ailddechrau cynnig trwyddedau FM.

Pynciau cysylltiedig