3 Llun: Lluniau pwysicaf Geraint Todd

  • Cyhoeddwyd
Geraint ToddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Os fyddai rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau bydden nhw?

Yr actor, cyfarwyddwr a'r ffotograffydd Geraint Todd sydd yn rhannu ei hoff dri llun gyda Chymru Fyw yr wythnos hon.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Tynnais i'r llun yma y diwrnod daeth fy mab ieuengaf, Bedwyr, adref o'r ysbyty ar ôl cael ei eni. Doedd Llew ddim cweit yn gwbod beth i wneud gyda fe, yn trio'i gael e i roi high-fives iddo fe ac yn siomi pan oedd e'n amlwg ddim yn gallu! Saith mlynedd yn ddiweddarach ac mae'r tynerwch yma rhwng y ddau frawd yn ail-ymddangos nawr ag yn y man!

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Mae tynnu'r llun yma yn glir yn fy meddwl - pymtheg mlynedd yn ddiweddarach. Roedd fy ngwraig a fi wedi cyrraedd y Taj Mahal ben bore jyst cyn iddi wawrio. Roedd cannoedd o bobl ar hyd y lle felly fe aethon ni i chwilio am gornel fach dawel i weld yr haul yn codi. Fe welais i'r dyn yma'n cerdded o'r ochr chwith ac fe driais i amseru'r shot fel ei fod yn ymddangos yn y ffram wrth i'r haul hefyd ymddangos. Eiliad yn hwyrach ac fe ymdangosodd haid o bobl i darfu ar y llonyddwch!

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Yn 2021 fe gyfarwyddais i fy nghyfres ddrama gynta', Itopia, ac roedd hyn yn dipyn o drobwynt yn fy mywyd i. Roedd tîm gwych gyda fi i fy helpu ac rwy'n browd iawn o'r gwaith a'r safon naethon ni greu ar y gyfres. Rwy' wedi parhau i gyfarwyddo ers hyn ac yn aml yn edrych nôl ar lle nes i ddechrau. Tynnwyd y llun yma yn 'labordy' Itopia. Rwy' wrth fy modd gyda'r goleuo a'r adlewyrchiadau.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig