3 Llun: Lluniau pwysicaf Joanna Jones
- Cyhoeddwyd
![Joanna Jones](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/0CBC/production/_131606230_9b7b4a93-6c60-4bf5-85a5-52a42a3cf1ae.jpg)
Os fyddai rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau bydden nhw?
Yr arlunydd o Lansamlet Joanna Jones sy'n dewis ei hoff luniau i Cymru Fyw yr wythnos yma.
![Meirion a Gelert](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1C06/production/_131547170_01f36845-a700-4008-9881-156210f7a48b.jpg)
Y Bois - Un o'r pethau mwyaf handi sydd gennyf yw fán camper VW. A gan fy mod yn artist llawn amser bellach mae hon yn rhoi'r rhyddid i ni aros noson fan hyn a fan draw i gasglu syniadau mewn llefydd sydd yn annwyl imi, fel Rhandirmwyn ac arfordir Sir Benfro.
Un o'r mannau hudolus hyn yw Garn Fechan, Pencaer. A dyma lun o Meirion a Gelert yn edrych tua'r gorwel yno.
![Joanna a Dinky'r ferlen](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/10BDE/production/_131547586_17bd42ef-25ee-46bc-85cf-c5af3f025775.jpg)
Pan yn blentyn roedd gen i afr fel anifail anwes! Ac roedd hi'n olygfa ddoniol i drigolion y pentre' i 'ngweld i a 'ngafr yn mynd am dro. Yn y cyfnod hwnnw fy mreuddwyd oedd gweithio ym Mharc Penscynor, a hyd heddiw mae anifeiliaid yn allweddol i 'mywyd. Nawr rydym yn cadw merlod, a dyma fi gydag un ohonyn nhw sef Dinky.
![Portread o mam Joanna](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/159FE/production/_131547588_e70e4520-26e0-4b06-b1a9-4539c4b68960.jpg)
Portread o Mam - mae'r llun yma yn bwysig iawn i fi. Fe gollon ni Mam pan oedd hi'n ifanc, ac mae'r portread hwn a wnes i ohoni yn dal rhywfaint o'r hiraeth. Yn y llun mae tri sbrigyn o Lili'r Dyffryn, sef ei hoff flodyn, symbol o'r tri ohonon ni blant. Roedd ganddi ffydd gadarn, roedd yn llawn bywyd ac roedd ganddi gariad at bawb. Roedd y tŷ yn agored ac yn llawn chwerthin.
Mi fydd Joanna'n arddangos ei gwaith yng ngaleri Mimosa, Llandeilo ar yr 11eg o Dachwedd eleni.
Hefyd o ddiddordeb: