Diffyg adnoddau i ddelio â throseddau difrifol yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Nid oes gan Heddlu'r Gogledd yr adnoddau i ddelio gyda throseddau difrifol yn effeithiol, yn ôl adroddiad gan yr Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân.
Mae'r adroddiad yn edrych ar sut mae chwe llu ar draws y gogledd yn mynd i'r afael â throseddau yn ymwneud â chyffuriau, arfau, cam-fanteisio yn rhywiol ar blant a thwyll ymhlith pethau eraill.
Maen nodi nad yw rhai aelodau staff yn gwerthfawrogi'r ffaith fod mynd i'r afael â throseddau sydd wedi eu trefnu yn flaenoriaeth.
Mewn ymateb dywedodd Prif gwnstabl y llu, Amanda Blakeman, ei bod yn "derbyn casgliadau'r adroddiad yn llawn ac yn ymrwymo i gyflawni'r argymhellion".
Mae'r adolygiad yn nodi fod gan swyddogion ddyletswyddau sylweddol eraill sy'n cyfyngu ar eu gallu i roi ffocws ar droseddau o'r fath.
Ac mae'n dod i'r casgliad fod eu gallu i ddelio a'r troseddau hynny yn ddiffygiol.
Mae yna beth canmoliaeth i'r ffordd y mae'r Heddlu yn delio gydag atal troseddau ymhlith pobl ifanc a'r ffordd maen nhw'n delio gyda'r rheini sydd wedi dioddef yn sgil troseddau'n ymwneud â gangiau cyffuriau County Lines.
'Newidiadau sylweddol'
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cael blwyddyn i gyflwyno newidiadau, ac i wneud yn siwr fod staff yn deall pwysigrwydd mynd i'r afael â throseddau difrifol.
Er ei bod yn siomedig, dywedodd Prif Gwnstabl Blakeman fod y llu wedi gwneud "newidiadau sylweddol er mwyn newid y ffordd y maen nhw'n taclo troseddau o fewn cymunedau'r gogledd".
Mae hi hefyd wedi cydnabod yr angen am fwy o adnoddau ac i sicrhau dealltwriaeth o sut i fynd i'r afael a throseddau difrifol gan bwysleisio eu bod eisoes wedi cynyddu nifer y swyddogion yn y rolau hynny.
Yn siarad ar Radio Wales Breakfast fe ychwanegodd: "Mae plismona a swyddogion heddlu ar bob lefel ac ar draws ein gwasanaeth yn gwneud penderfyniadau gweithredol anodd iawn, ac i wneud hynny mae angen i chi fod yn weithredol annibynnol.
"Yn y pen draw, fi sy'n atebol mewn perthynas â'r hyn rydyn ni'n ei wneud yn ein cymunedau.
"Ac ar gyfer hynny, mae angen i mi fod yn annibynnol er mwyn gwneud y penderfyniad hwnnw.
"Dydw i ddim yn meddwl mai ein lle ni yw bod yn rhan o drafodaeth wleidyddol am hynny."
Pa ofynwyd a ddylai'r Ysgrifennydd Cartref fod yn ymyrryd, atebodd Prif Gwnstabl Blakeman: "Mae hynny'n fater i'r ysgrifennydd cartref, i mi rwy'n canolbwyntio ar wneud yn siŵr fy mod yn darparu'n annibynnol ar gyfer ein cymunedau ar draws gogledd Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2023