'Profiad ofnadwy' cefnogwr a gafodd ei arestio yn Armenia

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bu Gerwyn yn rhannu ei brofiadau gydag Elen Wyn ar ran Newyddion S4C

Mae cefnogwr pêl-droed Cymru wedi dweud ei fod yn ofnus am ei fywyd ar ôl cael ei herio gyda gwn gan heddlu yn Armenia.

Cafodd dros 30 o gefnogwyr Cymru eu harestio yn y brifddinas Yerevan dros y penwythnos.

Dywedodd Gerwyn Williams, o Benygroes yng Ngwynedd, iddo gael ei arestio "am ddim rheswm o gwbl" gan yr heddlu yno.

Ychwanegodd ei fod wedi ei gadw yn y ddalfa am 12 awr heb unrhyw fwyd na dŵr, a'i fod mor ofnus iddo hedfan adref cyn gêm Cymru nos Sadwrn.

Dywedodd Llysgenhadaeth Armenia yn y Deyrnas Unedig fod y cefnogwyr "wedi cael eu trin yn dda", a bod rhai ohonynt wedi rhannu gwybodaeth gyda'r wasg, "sydd ddim yn cyd-fynd â'r hyn ddigwyddodd mewn gwirionedd".

Mae'r Swyddfa Dramor yn ymwybodol o'r sefyllfa, ac mae swyddogion Heddlu De Cymru yn dweud eu bod yn ceisio darganfod beth yn union ddigwyddodd.

Dywedodd Kieran Jones, o Gymdeithas Cefnogwyr Pêl-droed Cymru (FSA), fod y cyfan wedi bod yn sioc enfawr.

"Dwi wedi bod yn gweithio gyda FSA Cymru ers saith mlynedd, eraill wedi bod wrthi ers 20 mlynedd, a dydyn ni erioed wedi gweld cefnogwyr yn cael eu trin fel hyn," meddai.

"Roedd 99.99% o'r bobl wnaethon ni gwrdd yn Armenia yn hyfryd... ond cafodd mwy o bobl eu harestio'r diwrnod hwnnw na 'da ni wedi ei weld mewn chwarter canrif o ddilyn Cymru oddi cartref."

Ffynhonnell y llun, Zac Goodwin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 32 o gefnogwyr pêl-droed Cymru eu harestio yn Armenia

Roedd tua 1,200 o gefnogwyr Cymru wedi teithio i Yerevan ar gyfer y gêm brynhawn Sadwrn.

Ond daeth i'r amlwg fod 32 o gefnogwyr wedi cael eu harestio ddydd Gwener, a rhai heb gael eu rhyddhau tan y prynhawn canlynol.

Cafodd pob un eu rhyddhau heb gyhuddiad.

'Profiad ofnadwy'

Roedd Gerwyn Williams, 35, yn un o'r cefnogwyr a gafodd eu harestio.

Ar ôl iddo gael ei ryddhau, fe benderfynodd adael y wlad yn syth yn hytrach na gwylio'r gêm, gan ddweud nad oedd bellach yn teimlo'n ddiogel.

Dywedodd ei fod yn cerdded ar ei ben ei hun yn ôl i'w westy am tua 02:00 fore Sadwrn pan gafodd ei arestio.

"Nes i groesi'r ffordd a gweld lot o geir yr heddlu ond nes i ddim meddwl mwy am y peth," meddai.

"Pan nes i gerdded rhwng y ceir mi wnaeth yr heddweision neidio arna'i, tua 5-6 ohonyn nhw, taclo fi i'r llawr a fy nghicio cyn fy nhaflu i gefn fan.

"Do'n i methu coelio'r peth - cael fy arestio am gerdded lawr y ffordd."

Disgrifiad o’r llun,

Tynnodd rhai o gefnogwyr Cymru luniau tra'u bod yn cael eu cadw yn y ddalfa yn Yerevan, prifddinas Armenia

Pan gyrhaeddodd yr adeilad fe welodd fod cefnogwyr eraill yn cael eu harwain i fewn.

"Roedd 'na lond coridor o bobl yn pwyso'n erbyn y wal a gafon ni'n rhoi mewn gwahanol ystafelloedd, ond wnaeth neb ddweud wrthon ni pam fod ni yno," ychwanegodd.

"Roedd 'na heddwas yn gwylio ni yr holl amser oeddan ni yno heb siarad hefo ni. Doedd o ddim yn gell, roedd o'n fwy o ystafell swyddfa.

"Ges i fy nghadw am 12 awr heb unrhyw ddiod na dim i'w fwyta... doeddan nhw ddim yn neis o gwbl hefo ni. Doedd dim modd siarad hefo nhw.

"Roeddan nhw'n intimidating iawn ac ar un adeg roedd un yn pwyntio gwn aton ni, roeddan ni ofn sut byddan nhw'n ymateb os byddan ni'n gofyn mwy o gwestiynau."

Ffynhonnell y llun, UEFA/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kieran Jones o FSA Cymru (ddim yn y llun) fod "99.99% o'r bobl wnaethon ni gwrdd yn Armenia yn hyfryd"

Ar ôl cael ei ryddhau dywedodd iddo ddychwelyd i'r gwesty a chysgu am awr cyn penderfynu bod rhaid iddo adael y wlad ar unwaith.

"Wnaethon ni hedfan i Vienna gan mai dyna'r hediad cyntaf allan, do'n i ddim yn teimlo'n ddiogel yno.

"O'n i ofn byddai rhywbeth tebyg yn digwydd os fyswn i'n mynd i'r gêm. Do'n i'm isio aros yno - oeddan ni ofn am ein bywyda'. Oedd o'n brofiad ofnadwy.

"Dydach chi ddim fod i drin pobl fel'a."

'Targedu pobl mewn crysau coch'

Dywedodd Kieran Jones wrth raglen Breakfast BBC Radio Wales ei bod hi'n anodd cael gwybodaeth gan yr heddlu ynglŷn â'r hyn oedd wedi digwydd nos Wener.

"Es i draw i'r brif orsaf heddlu i drio deall beth yn union oedd wedi digwydd, ond doedd y swyddog wrth y ddesg ddim yn llawer o help... doedd o ddim yn fodlon dweud beth oedd wedi digwydd...

"O'n i yno am dair awr, a ches i wybod yn y diwedd bod 32 wedi cael eu harestio.

"Doedden nhw ddim mewn celloedd, ond yn hytrach yn cael eu cadw mewn swyddfeydd a choridorau.

"Cafodd pob un eu rhyddhau, a'r olaf yn dod allan chwarter awr cyn dechrau'r gêm - ac yn ffodus iddo fo, fe wnaeth o gyrraedd y stadiwm mewn pryd.

"Yr oll fedrwn ni ei ddweud ar y mater ydy'r hyn mae cefnogwyr wedi ei ddweud wrthym ni - sef bod yr heddlu yn ceisio dod o hyd i ddau gefnogwr penodol, a'u bod nhw yn y pendraw wedi targedu pobl mewn crysau coch."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 1,200 o gefnogwyr Cymru wedi teithio i Yerevan

Ychwanegodd eu bod nhw wedi clywed nad oedd y cefnogwyr wedi cael eu trin yn deg gan yr heddlu.

"Roedd yr holl beth yn gywilyddus. Pobl yn cael eu cymryd yn yr oriau mân, heb ddŵr am 13-14 awr, swyddogion yn dweud wrthyn nhw yfed dŵr o'r toiled os oedd syched arnyn nhw.

"Roedd eraill yn gorfod sefyll yn erbyn y wal am yn hir, yn cael eu herian, a rhai yn honni iddyn nhw ddioddef anafiadau.

"Dydyn ni heb ymchwilio i hynny, ond mae'r heddlu a'r Swyddfa Dramor yn ymwybodol o'r mater.

"Rydyn ni wedi adrodd y mater i UEFA, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd yn ymwybodol o'r cyfan."

'Hwliganiaeth' a 'chamymddwyn'

Mewn datganiad, dywedodd Llysgenhadaeth Armenia: "Mae'r cyhoedd eisoes yn ymwybodol o rai o'r ffeithiau, ond hoffwn ni egluro'r hyn gafodd ei gyhoeddi gan bwyllgor ymchwilio Armenia.

"Ar 18 Tachwedd am tua 01:18 fe wnaeth yr heddlu ymateb i adroddiadau bod dinasyddion tramor yn ffraeo ac yn gwrthdaro yng nghanol Yerevan. Roedden nhw dan ddylanwad alcohol ac yn ymladd mewn modd oedd yn erbyn y drefn gyhoeddus - yn taro ei gilydd, yn achosi anafiadau, ac yn achosi difrod i eiddo preifat.

"Yn ddiweddarach y noson honno, roedd digwyddiadau mewn rhannau eraill o'r ddinas. Am 01:39 a 01:43, derbyniodd yr heddlu adroddiadau bod sawl dinesydd tramor yn ymosod ar un o drigolion Yerevan.

"O ganlyniad cafodd 15 o Gymry ac unigolyn o Papua Guinea Newydd eu harestio ar amheuaeth o hwliganiaeth. Cafodd 16 o bobl (oedd i'w weld yn cefnogi tîm pêl-droed Cymru) eu harestio am gamymddwyn yn gyhoeddus dan ddylanwad alcohol.

"Mae pwyllgor ymchwilio Armenia yn annog y wasg i beidio â chyhoeddi unrhyw wybodaeth sydd ddim yn wir."