Datganiad y Canghellor: Gwariant yn targedu seddi allweddol yr etholiad
- Cyhoeddwyd
Mae cyhoeddiadau gwariant sy'n targedu seddi allweddol yn yr etholiad cyffredinol yng Nghymru wedi eu cyhoeddi gan y Canghellor Jeremy Hunt.
Maen nhw'n cynnwys parth buddsoddi newydd yng ngogledd ddwyrain Cymru, lle bydd Jeremy Hunt yn ymweld yfory.
Mae gostyngiad treth ar gyfer porthladdoedd rhydd yn Ynys Môn a Sir Benfro, a £500,000 ar gyfer Gŵyl y Gelli.
Roedd Datganiad yr Hydref Mr Hunt hefyd yn cynnwys toriad Yswiriant Gwladol o 6 Ionawr, pan fydd y brif gyfradd gweithwyr yn disgyn 2 bwynt canran o 12% i 10%.
Dywed y canghellor y bydd yn ymestyn cymhellion ariannol ar gyfer parthau buddsoddi - yn cynnwys un newydd yn Sir Wrecsam a Sir y Fflint - a gostyngiadau treth ar gyfer porthladdoedd rhydd o bump i 10 mlynedd.
O ganlyniad i benderfyniadau yn Natganiad yr Hydref, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn £305m ychwanegol drwy fformiwla Barnett dros 2023-24 a 2024-25.
Mae Llywodraeth yr Alban yn derbyn £545m a bydd £185m i weithrediaeth Gogledd Iwerddon.
Rhagwelir y bydd chwyddiant yn gostwng i 2.8% erbyn diwedd 2024, meddai Mr Hunt, gan ostwng i'r targed o 2% yn 2025.
Bydd pensiwn y wladwriaeth yn cynyddu 8.5% o Ebrill 2024 i £221.20 yr wythnos, wrth i'r llywodraeth anrhydeddu'r clo triphlyg "yn llawn" meddai.
Bydd yr isafswm cyflog yn cynyddu o fwy na phunt i £11.44 yr awr o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Mae'r isafswm cyflog, sef y Cyflog Byw Cenedlaethol yn swyddogol, ar hyn o bryd yn £10.42 yr awr i weithwyr dros 23 oed.
Ond mae Mr Hunt wedi penderfynu y bydd y gyfradd hefyd yn berthnasol i bobl 21 a 22 oed am y tro cyntaf.
Mae'n golygu y byddai gweithiwr llawn amser 23 oed ar y cyflog yn derbyn codiad gwerth £1,800 y flwyddyn. Byddai person 21 oed yn gweld cynnydd blynyddol o £2,300.
27 miliwn o bobl
Dywed Mr Hunt y bydd prif gyfradd Yswiriant Gwladol yn cael ei thorri 2 bwynt canran o 12% i 10% o 6 Ionawr.
Mae'n dweud y bydd y newid yn helpu 27 miliwn o bobl ac yn golygu y bydd rhywun ar gyflog cyfartalog o £35,000 yn arbed dros £450 y flwyddyn.
Mae'n dweud y bydd yn diddymu'r tâl Yswiriant Gwladol "Dosbarth 2" ar gyfer pobl hunangyflogedig sy'n ennill mwy na £12,570. Bydd hynny'n cael gwared ar dâl gorfodol cyfradd unffurf o £3.45 yr wythnos.
1.4m o bobl
Mae 1.4m o bobl yng Nghymru yn talu treth incwm ac Yswiriant Gwladol.
Yn ôl ffigyrau 2021-22, mae 91.5% o'r rheiny'n ennill rhwng £12,571 a £50,270 y flwyddyn ac yn disgyn i'r raddfa dreth sylfaenol, 8.1% ar y raddfa dreth uwch ac yn ennill hyd at £125,140 y flwyddyn, a 0.4% ar y raddfa dreth ychwanegol, yn ennill dros £125,140.
Mae dros 99% o fusnesau yng Nghymru'n rai bach a chanolig, ac yn cyflogi 63% o'r gweithlu, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Bydd Credyd Cynhwysol a budd-daliadau anabledd yn cynyddu 6.7%, yn unol â chyfradd chwyddiant mis Medi.
Mae mwy na chwarter miliwn o gartrefi yng Nghymru'n derbyn Credyd Cynhwysol, yn ôl yr Adran Waith a Phensiynau.
Ymateb
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, bod "datganiad yr hydref heddiw yn eithaf ysgytwol".
"Nid oes unrhyw arian ychwanegol o ran y pwysau enfawr yr ydym yn ei weld ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus, ein hysbytai, ein hysgolion ac yn y blaen, sydd wir angen cyllid ychwanegol, ond nid oedd dim diddordeb mewn mynd i'r afael â'r cwestiynau hynny heddiw.
"O ran cyfraniadau Yswiriant Gwladol, maen nhw'n rhoi'r lefel yn ôl i'r hyn ydoedd pan oedd Gordon Brown yn ganghellor. Ac rydym yn dal i weld y bydd pobl yn wynebu'r baich treth mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd yn gyffredinol."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, nad oedd Datganiad yr Hydref yn darparu "dim datrysiad gwirioneddol i'r heriau economaidd sy'n ein hwynebu: buddsoddiad isel a chynhyrchiant isel".
O ran torri Yswiriant Gwladol, dywedodd Rhun ap Iorwerth "y gwir amdani yw y bydd torri Yswiriant Gwladol o 2c yn rhoi £10 biliwn yn ôl i'r economi, ond mae rhewi'r trothwyon yn tynnu £40 biliwn allan.
"Gadewch i ni gofio bod trethiant sydd wedi cynyddu o dan y Ceidwadwyr eisoes wedi costio mwy na £3,000 i'r cartref cyffredin."
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds ,fod yn rhaid bod y Prif Weinidog Rishi Sunak "yn byw ar blaned wahanol os yw'n meddwl y bydd hyn yn lleddfu'r boen i deuluoedd sy'n gweithio'n galed ar ôl blynyddoedd o godiadau treth creulon gan ei lywodraeth".
"Mae'r Torïaid unwaith eto wedi dangos eu bod allan o gysylltiad yn llwyr ac yn methu Cymru unwaith eto," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2023