Dadl am droi cartref gofal yn llety gweithwyr parc gwyliau
- Cyhoeddwyd
Mae cais i drosi cyn-gartref preswyl yn llety i weithwyr parciau gwyliau wedi codi gwrychyn mewn pentref yng Ngwynedd.
Mae'r awdurdod lleol wedi derbyn cais cynllunio i droi hen gartref preswyl Foelas yn Llanrug yn dŷ amlfeddiannaeth.
Byddai'r tŷ, medd y datblygwyr, yn cael ei droi'n gyfleuster 17 ystafell wely ar gyfer defnydd gweithwyr parciau gwyliau yn Eryri.
Mae hyn er i gais tebyg gael ei wrthod ar gyfer yr un safle yn gynharach eleni, lle codwyd pryderon dros ddiffyg parcio digonol.
Yn ôl y cynghorydd sir lleol, mae'r ffaith fod y cynllun wedi ei ail gyflwyno yn achos penbleth, gyda chyfarfod arbennig o'r cyngor cymuned i drafod y cais newydd ddydd Mawrth.
'Ateb gofyn amlwg'
Fe gaeodd y cartref ei ddrysau y llynedd, er i'r datblygwyr ddatgan fod ymdrechion wedi bod i'w werthu.
Ymysg y rhesymau i wrthod y cais gwreiddiol i'w drosi yn dŷ amlfeddiannaeth oedd "nad oes darpariaeth ddigonol o barcio ac nad oes darpariaeth ddigonol o ddulliau teithio cynaliadwy".
Ychwanegodd swyddogion nad oedd gwybodaeth digonol ychwaith "i ddangos sut mae'r bwriad yn mynd i warchod, hyrwyddo a chryfhau'r iaith Gymraeg".
Mewn ymateb, dywed yr ymgeiswyr yn eu cais diweddaraf y byddai trosi'r adeilad yn gwneud defnydd o adeilad gwag ac yn ateb galw amlwg am lety o'r fath yng Ngwynedd.
"Mae'r ymgeisydd," medd dogfennau cynllunio Ronnie Moore, "yn cynghori bod cost llety yn Eryri yn ystod y tymor brig yn afresymol, ac felly mae staff yn gorfod cymudo i barciau gwyliau pell.
"Mae cabanau pren un gwely dros £900 y mis yn yr haf a £700 y mis yn y gaeaf."
Gan ychwanegu fod ymgais i werthu'r adeilad fel cartref preswyl wedi bod yn aflwyddiannus, gyda "darparwyr cartrefi gofal eisiau lleiafswm o 30 ystafell er mwyn cymryd eiddo ymlaen", dywedon nhw nad yw ei redeg fel cartref o'r fath "yn ariannol hyfyw yn y farchnad bresennol".
Gyda'r perchennog "yn hapus i ymgysylltu â'r cyngor os oes angen unrhyw fesurau lliniaru eraill er mwyn helpu i hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg", mae'r cais hefyd yn nodi'r farn fod y maes parcio sydd ar y safle - sydd â lle i 8 o geir - yn ddigonol a bod y defnydd arfaethedig "yn gwbl briodol ar gyfer y safle".
'Y pryder yn real iawn'
I drafod y cais newydd mae cyfarfod arbennig o Gyngor Gymuned Llanrug a Cwm-y-glo eisoes wedi ei alw ar gyfer nos Fawrth.
Ond yn ôl y cynghorydd sir lleol mae'r ffaith fod cais tebyg wedi ei ail gyflwyno ond ychydig fisoedd ar ôl cael ei wrthod y tro diwethaf yn achos penbleth a phryder yn lleol.
"Mae HMO [House in multiple occupation] hefo gymaint o lofftydd yn anghydnaws hefo cymeriad y pentref," meddai'r Cynghorydd Beca Brown wrth Cymru Fyw.
"Mae'r cartref ar un o ffyrdd prysuraf yr ardal ac mae 'na lot o heriau parcio.
"Pan oedd o'n gartref henoed doedd hynny ddim gymaint o broblem ond fel HMO 17 llofft does 'na ddim capasiti parcio.
"I'r trigolion cyfagos, maen nhw eisoes yn gorfod parcio ar y lôn a fasa hwn yn gwneud pethau'n waeth ac yn ychwanegu at broblemau traffig Station Road.
"Mae rhywun yn meddwl am HMOs mewn dinasoedd neu drefi mwy, a dydi un mor fawr â hyn ddim yn siwtio. Mae'r teimlad yn erbyn hwn yn hynod o gryf.
"Mi fuodd 'na gyfarfod cyhoeddus tro diwethaf hefo rhyw 60-70 o bobl, sy'n arwydd o gryder y teimlad.
"Unwaith aeth y cais yma i fewn, y cwbl dwi wedi'i gael ers hynny ydi pobl yn holi fi amdano. Mae'r pryder yn real iawn."
Mae disgwyl i Gyngor Gwynedd drafod y cais dros y misoedd nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2023