Tristwch a phryder wrth i lofa Ffos-y-Fran gau
- Cyhoeddwyd
Bydd glofa ddadleuol Ffos-y-Fran yn cau yn ystod y dydd, wrth i bryderon gynyddu ynglŷn ag a fydd y "twll du enfawr" sy'n weddill yn cael ei lenwi.
Mae dogfennau sydd wedi'u gweld gan y BBC yn datgelu ofnau o fewn i Lywodraeth Cymru a'r Awdurdod Glo ynghylch dyfodol y safle.
Mae cost adfer y tir wedi chwyddo'n sylweddol i rhwng £120m a £175m.
Dywedodd y cwmni sy'n gyfrifol am y lofa, Merthyr (South Wales) Ltd, eu bod yn cynnal "trafodaethau adeiladol" gyda'r cyngor lleol.
Yn ôl undeb Unite, sy'n cynrychioli 115 o staff sy'n colli'u swyddi wrth i'r cloddio ddod i ben, maen nhw ar ddeall fod y cwmni wedi "ymrwymo" i'r gwaith adfer ac na fydden nhw'n cefnu ar y safle.
Roedd y sefyllfa'n bwnc trafod yn sesiwn sgwrsio wythnosol Canolfan Soar, Merthyr Tydfil i ddysgwyr Cymraeg.
Dywedodd Renee Webley ei bod yn arfer byw yn ymyl safle'r lofa pan yn ifanc a "dwi'n cofio'r mynyddoedd hyfryd".
"Nawr mae'n drist iawn i weld sut mae'n edrych, mae'n ofnadwy," meddai.
Cafodd y cynllun dadleuol ei ganiatáu mor agos i gartrefi a busnesau ym Merthyr Tydfil gan Lywodraeth Cymru fel "cynllun adfer tir, oedd yn golygu bod yn rhaid i'r datblygwyr droi'r safle'n ôl i weundir agored er budd y gymuned".
Byddai'r rhan helaeth o'r gwaith hwn yn digwydd ar ôl i'r cloddio orffen a heddiw mae pwll enfawr i'w weld yn amlwg o ddwyrain y dref.
Mae tua 400 o gaeau pêl-droed mewn maint, a 200 o fetrau mewn dyfnder, ac mae yna domenni mawr o ddeunydd gwastraff.
"Mae'n bwysig iawn i roi'r bryn yn ôl fel roedd e cyn iddyn nhw ddechrau," meddai Michael Webley.
Ychwanegodd Tony Thomas bod "yn rhaid iddyn nhw clirio popeth lan".
"Dwi'n teimlo yn drist iawn dros y bobl sy'n mynd i golli eu swyddi ond roedden nhw'n gwybod bod y gwaith yno yn dod i ben rhywbryd neu gilydd.
"Dwi'n edrych ymlaen i gael gwared ar Ffos-y-Fran i fod yn onest."
Poeni am ddiogelwch mae Jean Thomas. "Mae'n bwysig i sicrhau bod y lle'n saff," meddai.
"Mae 'na cliffs mawr o amgylch y pwll ac os mae pobl ifanc yn dod yno wn i ddim beth fydd yn digwydd iddyn nhw."
Mae Ffos-y-Fran wedi cynhyrchu bron i 11.25m o dunnelli o lo ers agor yn 2008, ac yn ddiweddar roedd yn gyfrifol am 86% o holl allbwn glo'r DU.
Ers Medi 2002 mae'r perchnogion presennol wedi bod yn cloddio heb ganiatâd cynllunio.
Cafodd eu cais am fwy o amser ei wrthod, a dyma'r cwmni wedyn yn apelio hysbysiad gorfodi, cyn cyhoeddi maes o law y bydde'r lofa'n cau ar 30 Tachwedd 2023.
Mae trafodaethau rhwng y cwmni a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tydfil (CBSMT) yn parhau o ran y camau nesaf.
Mae hynny ar ôl i'r cwmni honni nad oedd "cyllid digonol" wedi'i roi i'r naill ochr er mwyn ail-osod y tir yn llawn fel a gytunwyd pan gafodd y prosiect ei gymeradwyo'n wreiddiol bron i ddau ddegawd yn ôl.
'Dim cynllun adfer pendant'
Mewn llythyr sydd wedi'i ryddhau drwy gais rhyddid gwybodaeth (FOI) gan y grŵp ymgyrchu Coal Action Network a'i rannu gyda'r BBC, mae prif weithredwr Awdurdod Glo'r DU yn feirniadol o ymdrechion y cyngor.
Wrth sgrifennu i Lywodraeth Cymru ar 20 Hydref, dywedodd Lisa Pinney ei bod yn poeni nad oedd digon yn cael ei wneud i baratoi ar gyfer cau'r lofa.
"Does 'na ddim cynllun adfer diwygiedig wedi'i gytuno na chwaith cynllun ymateb brys petai'r cwmni'n cefnu ar y safle," meddai.
Roedd sut i reoli lefelau dŵr yn un maes oedd eto i'w ddatrys.
"Heb gynllun clir ar gyfer Diwrnod 1, Wythnos 1, Mis 1 ac yn y blaen, mae 'na risg amlwg i ddiogelwch y cyhoedd ac i'r amgylchedd," ychwanegodd.
Mae Cyngor Merthyr Tudful yn anghytuno â'r feirniadaeth, gan ddweud bod trafodaethau i gytuno ar "gynllun adfer diwygiedig" yn mynd ymlaen ers dros flwyddyn.
Mae dogfen arall sydd wedi'i ryddhau i'r ymgyrchwyr yn datgelu cyngor swyddogol i'r gweinidog newid hinsawdd Julie James.
Mae'r ddogfen, gafodd ei hanfon hefyd i'r Prif Weinidog, yn dweud bod "swyddogion yn ystyried ei bod hi'n debygol y bydd y cwmni yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr" ar ôl i'r cloddio orffen.
Ar y llaw arall "efallai y byddan nhw'n parhau i geisio adfer y safle", ar yr amod y gallan nhw dynnu arian o gyfrif banc £15m sy'n cael ei reoli gan y cyngor, meddai'r ddogfen.
Cafodd y cyfrif hwn ei sefydlu fel cronfa wrth gefn petai'r cwmni yn mynd i'r wal, fel bod gan y cyngor ychydig o gyllid i allu delio â'r sefyllfa.
Mae'r gwaith adfer ei hun i fod i gael ei ariannu o gronfeydd y cwmni.
Mae'r cyfrifon diweddaraf sydd ar gael yn gyhoeddus o Ragfyr 2021 yn dangos i riant-gwmni'r datblygwr nodi gwerth £71.4m fel darpariaeth ar gyfer y gwaith adfer.
'Bradychu pobl Merthyr Tudful'
Dywedodd Daniel Therkelsen o'r Coal Action Network y byddai cytuno ar gynllun adfer llawer rhatach yn "bradychu 140,000 o bobl Merthyr Tudful".
Maen nhw eisoes "wedi talu'r pris ar gyfer y gwaith adfer sydd wedi'u haddo iddyn nhw gydag 16 mlynedd o lwch glo a sŵn," meddai, gan alw am ymchwiliad cyhoeddus i'r modd y mae'r awdurdodau wedi delio â Ffos-y-Fran.
Dywedodd llefarydd ar ran Merthyr (South Wales) Ltd eu bod yng nghanol "trafodaethau adeiladol gyda CBSMT a rhanddeiliaid perthnasol eraill ar gynllun adfer diwygiedig".
"Fydd 'na ddim sylw pellach tan bod y cynllun wedi'i orffen a'i gymeradwyo gan y grwpiau perthnasol," meddai.
Ry'n ni ar ddeall y bydd 'na dîm bychan o staff yn aros ar y safle i ddelio â "gofal a chynnal a chadw".
Dywedodd Jason Bartlett o Unite bod cau'r lofa yn foment torcalonnus i'r gweithwyr, ar adeg pan fod diwydiannau trwm yn cael eu taro'n galed ar draws y DU.
Ychwanegodd fod y cwmni wedi'u "gorfodi i wneud hyn er eu bod yn awyddus i barhau i gloddio".
Ers dechrau'r cynllun, mae £1 wedi'i dalu am bob tunnell o lo i mewn i gronfa gymunedol, sydd wedi talu am brosiectau'n lleol.
Byddai nifer o swyddi'n dychwelyd unwaith mae 'na gytundeb ynglŷn â'r cynllun adfer newydd, meddai, ond byddai hynny yn "dibynnu ar sut mae'r cynllun yna'n edrych".
Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod Glo bod rheoli'r gwaith adfer a diogelwch y cyhoedd yn fater i'r tirfeddiannwr a'r awdurdod lleol ond y byddai'n dal i ddarparu cyngor fel yr angen.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd modd i weinidogion wneud sylw ar achosion unigol am fod gan y llywodraeth "rôl ffurfiol wrth benderfynu ar apeliadau gorfodaeth cynllunio".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2023
- Cyhoeddwyd16 Awst 2023
- Cyhoeddwyd10 Awst 2023