Cwpan FA Lloegr: Wrecsam 3-0 Yeovil Town

  • Cyhoeddwyd
Ollie PalmerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ollie Palmer sgoriodd y gôl gyntaf i'r Dreigiau

Mae Wrecsam drwodd i'r drydedd rownd yng nghwpan FA Lloegr ar ôl ennill o 3-0 yn erbyn Yeovil Town ar y Cae Ras.

Aeth y Dreigiau ar y blaen wedi cwta chwarter awr drwy Ollie Palmer.

Fe arbediodd golwr Yeovil ymgais gyntaf Palmer - peniad o groesiad James McClean - ond fe adlamodd y bêl i gyfeiriad yr ymosodwr ac fe lwyddodd i sgorio gyda'i ail ergyd.

Roedd hi'n ddwy i ddim cyn hanner amser ar ôl i Andrew Cannon grymanu'r bêl i gornel ucha'r rhwyd o du allan i'r cwrt cosbi.

Daeth Paul Mullin a James Jones yn agos at ymestyn mantais y tîm cartref yn yr ail hanner ond cafodd y cyfleodd hynny eu gwastraffu.

Ond yn yr amser gafodd ei ychwanegu am anafiadau, fe sgoriodd Sam Dalby y drydedd gan goroni prynhawn cyfforddus i'r Dreigiau.

Bydd Wrecsam yn herio Amwythig oddi cartref yn y drydedd rownd.

Os yw Casnewydd yn llwyddo i drechu Barnet mi fyddan nhw yn wynebu Eastleigh yn Rodney Parade.

Bydd Caerdydd yn teithio i Hillsbrough i herio Sheffield Wednesday a bydd Abertawe yn croesawu Morecambe.