3 llun: Lluniau pwysicaf Ffion Medi
- Cyhoeddwyd
Yr actores Ffion Medi sy'n chwarae rhan Dani ar Rownd a Rownd sy'n dewis tri llun sy'n agos at ei chalon.
Ymddangosodd Ffion Medi fel Dani ar Rownd a Rownd am y tro cyntaf yn 2001 pan oedd Ffion ond yn saith mlwydd oed. Fyth ers hynny, mae gwylwyr y gyfres boblogaidd wedi bod wrth eu boddau'n dilyn hynt a helynt y cymeriad hoffus.
Dyma lun ohono fi a fy arwr, Iola Gregory. Oedd Iola yn chwarae rhan fy Nain i ar Rownd a Rownd ers o'n i'n saith oed ac yn chwarae rhan yn fy mywyd go iawn i'n dda hefyd.
Oeddan ni'n hynod o agos. Mae'r ffaith fy mod i wedi cael y cyfla i weithio a dysgu gan yr actores dalentog yn fraint ac oedd Iola'n gwneud i fi sylweddoli pa mor lwcus ydw i i gael y gyrfa s'gen i.
Mi fydd hi wastad efo lle mawr yn fy nghalon i.
Ers dod yn Anti, dwi wir yn gwerthfawrogi y pethau bach mewn bywyd. Mae gweld y byd drwy lygaid bach diniwed y ddau fwnci yma'n llenwi 'nghalon i bob dydd.
Dawnsio a pherfformio ydy pethau Eban - fysa rhai yn deud fel ei Anti ond dwbwl y dalent!
A Lleu bach sydd efo fo. Bwyta a mwynhau gwylio ei frawd mawr ydi hoff bethau Lleu. Mi fydd 'Dolig yn brysur iawn i ni fel teulu yn chwilota am feicroffon ac avocados i fwydo ysbryd y ddau yma.
Mali ydy hon. Dwi'n un o'r bobl yna sy'n obsessed efo'u cŵn. Ges i Mali ar ôl cyfnod anodd iawn yn fy mywyd i, felly dwi wastad yn dweud mai hi oedd fy ngoleuni. Yn anffodus mae'n cymryd mantais o faint dwi'n obsessed efo hi a mae hi wedi troi i mewn i dipyn o diva.
Ac yndi - mae hi'n cysgu'n glyd yn fy ngwely fi 'fyd.
Er ei bod hi'n dipyn o dywysoges, wneith hi ddim dweud na i rolio mewn baw bob anifail mae hi'n dod ar ei draws. Lwcus bo' fi'n byw ar ffarm felly!
Hefyd o ddiddordeb: