Tân car Abertawe: Dyn 80 oed yn cyfaddef llofruddio ei wraig

  • Cyhoeddwyd
David a Helen ClarkeFfynhonnell y llun, Facebook/Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Helen Clarke yn yr ysbyty, deuddydd wedi i hi a'i gŵr gael llosgiadau mewn tân car

Mae dyn 80 oed wedi pledio'n euog i gyhuddiad o lofruddio ei wraig mewn tân car.

Bu farw Helen Clarke, oedd yn 77 oed, o'i hanafiadau yn Ysbyty Singleton, Abertawe ar 24 Medi.

Cafodd yr heddlu eu galw Lôn Sgeti, ar gyrion yr ysbyty fore Gwener, 22 Medi, wedi i dystion weld "mwg yn dod o gerbyd".

Fe ymddangosodd David Clarke yn Llys Y Goron Abertawe trwy gysylltiad fideo gan gadarnhau ei enw a chyflwyno ei ble.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 9 Chwefror 2024.

Pynciau cysylltiedig