Canfod corff yn dilyn tân mawr ar stad ddiwydiannol

  • Cyhoeddwyd
Stad ddiwydiannol Treforest
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd "digwyddiad difrifol" ei gyhoeddi yn dilyn y ffrwydrad nos Fercher

Mae corff wedi cael ei ddarganfod yn dilyn tân mawr ar stad ddiwydiannol Trefforest ger Pontypridd.

Roedd y gwasanaethau brys wedi dweud fod un person ar goll yn dilyn y digwyddiad nos Fercher.

Cafodd tri pherson arall fân anafiadau ac fe gafodd o leiaf un adeilad ei ddinistrio.

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw luniau fideo o'r digwyddiad i gysylltu â nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae blodau wedi cael eu gadael ger safle'r digwyddiad

Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân wedi lansio ymchwiliad ar y cyd i achos y digwyddiad, yngŷd â'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Dywedon nhw nad yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae teulu'r person oedd ar goll yn derbyn cefnogaeth swyddogion arbenigol.

Dywedodd y prif arolygydd Paul Rikes: "Ry'n ni'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad, ac sydd heb gysylltu â'r heddlu eto, i wneud hynny."

Mae'r apêl yn cyfeirio yn benodol at luniau camerâu cylch cyfyng, camerâu cloch drws a lluniau dashcam.

Disgrifiad,

Fideo o'r fflamau yn codi i'r awyr wedi'r ffrwydrad nos Fercher

Dywedodd y Directif Brif-arolygydd Richard Jones o Heddlu'r De eu bod yn meddwl am deulu y person sydd wedi marw.

"Nawr bod y tân dan reolaeth fe fyddwn yn symud i'r cam o ymchwilio er mwyn canfod beth oedd achos y ffrwydrad a'r tân," meddai.

"Mae ffyrdd yn cael eu hailagor yn raddol, ond bydd rhai ffyrdd a busnesau yn yr ardal yn dal i gael eu heffeithio."

'Dim geiriau i gyfleu tristwch y sefyllfa'

Mewn neges ar Facebook, dywedodd Andrew Cox, perchennog siop trin gwallt a gafodd ei ddifrodi yn y tân, ei fod "yn cydymdeimlo â phawb oedd yn adnabod y fenyw fu farw yn y ffrwydrad ofnadwy".

"Does dim geiriau i gyfleu tristwch y sefyllfa, ac mae ein meddyliau gyda'i theulu," meddai.

Ychwanegodd fod y gefnogaeth y mae'r busnes wedi ei dderbyn ers y digwyddiad wedi bod yn syfrdanol a'i fod yn wirioneddol ddiolchgar am yr holl garedigrwydd.

Mae Mindset Gym, busnes arall sydd â safle yn y stad ddiwydiannol, hefyd wedi rhannu neges ar Facebook: "Mae ein meddyliau gyda chymuned a theulu'r fenyw wedi'r ddamwain drasig yma.

"Bydd Mindset yn sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r teulu."

Mae Ffordd Hafren yn gartref i nifer o fusnesau gan gynnwys safle gwerthu ceir, campfa a siop anifeiliaid anwes.

Clywed am y ffrwydrad drwy'r cyfryngau cymdeithasol wnaeth Phil Thomas, perchennog Bragdy Twt Lol.

"O'n i'n edrych ar y lluniau cylch cyfyng bore ma' a chi'n gallu gweld flach oren sef adlewyrchiad o'r ffrwydrad, ac ryw eiliad neu ddau yn hywrach chi'n gallu clywed y ffrwydrad a bach o lwch yn symud," ychwanegodd.

Disgrifiad,

Cafodd y ffrwydrad ei ddal ar gamera CCTV Bragdy Twt Lol, sydd ar yr un stad ddiwydiannol

Dywedodd Lucy Artiss, sy'n berchen ar fusnes tatŵs ei bod hi "wedi colli popeth" ond bod pawb wedi llwyddo i ddianc yn ddianaf.

Ychwanegodd perchennog y garej Esso cyfagos, Krishanaraj Nadarajah, ei fod wedi clywed "ffrwydrad enfawr" yn dod o'r ardal.

"Roedd o fel daeargryn... es i allan ac roedd y tân yn dechrau tyfu... roedd y tân yn enfawr ac roedd llwyth o fwg hefyd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Joseph Barker

Mae neuadd gerddoriaeth Green Room wedi'i lleoli ar y stad hefyd.

Dywedodd y perchennog Johnny Foxhall bod y ffrwydrad yn "sioc fawr" ac yn teimlo fel ei fod wedi cael ei "fwrw yn ei gefn".

"Cafodd y drws ei daflu ar agor, a popeth yn siglo - es i allan a gweld glow oren a'r mwg yn codi. O'n i'n gallu gweld y fflamau o'r adeilad yma.

"'Dwi erioed wedi clywed sŵn fel yna o'r blaen."

'Newyddion torcalonnus'

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymateb i'r cadarnhad bod corff wedi ei ddarganfod yn dilyn y tân, dywedodd AS Pontypridd, Alex Davies-Jones bod yn newyddion yn "dorcalonnus".

"Yn dilyn wythnos wirioneddol anodd i'n cymuned ac ein gwasanaethau brys, mae hyn yn boenus i bawb sy'n rhan ohono, dywedodd.

"Mae fy holl feddyliau gyda theulu ac anwyliaid y dioddefwr."

Pynciau cysylltiedig