Trefforest: Teyrnged i 'wraig ffyddlon a gofalgar' fu farw mewn tân
- Cyhoeddwyd

Dywedodd ei theulu fod Danielle Evans yn "enaid deallus, gofalgar a hardd"
Mae teulu dynes fu farw mewn tân mawr ar stad ddiwydiannol wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Danielle Evans, 40, yn dilyn ffrwydrad yn Nhrefforest ger Pontypridd nos Fercher.
Roedd y gwasanaethau brys wedi dweud fod un person ar goll yn dilyn y digwyddiad, a daeth cadarnhad ddydd Iau fod corff wedi ei ganfod.
Cafodd tri pherson arall fân anafiadau ac fe gafodd o leiaf un adeilad ei ddinistrio.
Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân wedi lansio ymchwiliad ar y cyd i achos y digwyddiad, yngŷd â'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.
Fe gadarnhaodd Heddlu'r De hefyd fod teulu Ms Evans yn derbyn cefnogaeth swyddogion arbenigol.
'Ffrind gorau'
Mewn teyrnged a gafodd ei gyhoeddi gan Heddlu'r De ddydd Gwener, dywedodd ei theulu: "Roedd Dan yn gorwynt o fenyw.
"Mae hi'n gadael twll enfawr yng nghalonnau ei theulu a'i ffrindiau, na fydd byth yn cael ei lenwi.
"Roedd hi'n enaid deallus, gofalgar a hardd.
"Dechreuodd ei busnes labordy llwyddiannus ei hun - Celtic Food Labs. Rhoddodd ei chalon a'i henaid i mewn iddo, ond y pethau pwysicaf iddi oedd ei gŵr, ei theulu, ei chŵn a'i ffrindiau!
"Roedd hi'n wraig hynod ffyddlon a chariadus. Y ffrind gorau y gallai unrhyw un obeithio amdano."

Mae blodau a theyrngedau wedi cael eu gadael ger safle'r digwyddiad
Ychwanegodd: "Hoffem ddiolch o galon i bob un o'r gwasanaethau brys a fynychodd ac sy'n ymwneud â'r digwyddiad, mae eich ymdrechion drwy gydol y digwyddiad wedi bod yn broffesiynol ac arwrol.
"Diolchwn i bob un ohonoch o waelod ein calonnau."
Beth ddigwyddodd?
Cafodd "digwyddiad difrifol" ei gyhoeddi yn dilyn y ffrwydrad tua 19:00 nos Fercher.
Dywedodd pobl yn yr ardal eu bod wedi clywed ffrwydrad anferth.
Roedd yna rybudd i drigolion lleol gau eu drysau a ffenestri a chafodd busnesau wybod nad oedd modd iddyn nhw weithredu fel arfer wrth i ffyrdd cyfagos gael eu cau.
Mae Ffordd Hafren yn gartref i nifer o fusnesau gan gynnwys safle gwerthu ceir, siop trin gwallt, campfa a siop anifeiliaid anwes.

Cafodd "digwyddiad difrifol" ei gyhoeddi yn dilyn y ffrwydrad nos Fercher

Mewn neges ar Facebook, dywedodd Andrew Cox, perchennog siop trin gwallt a gafodd ei ddifrodi yn y tân, ei fod "yn cydymdeimlo â phawb oedd yn adnabod y fenyw fu farw yn y ffrwydrad ofnadwy".
"Does dim geiriau i gyfleu tristwch y sefyllfa, ac mae ein meddyliau gyda'i theulu," meddai.
Ychwanegodd Mindset Gym, busnes arall sydd â safle yn y stad ddiwydiannol, bod "ein meddyliau gyda chymuned a theulu'r fenyw wedi'r ddamwain drasig yma.
"Bydd Mindset yn sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r teulu."
'Colled enfawr'
Roedd Matthew Virgin yn y gampfa pan ddigwyddodd y ffrwydrad: "Ro'n i wedi gorffen y sesiwn, ar fin mynd allan wedyn roedd 'na ffrwydrad enfawr a disgynnodd popeth.
"Roedd grym y peth yn anhygoel, daeth e fyny'r grisiau, drwy ardal y bar ac wedyn i mewn i'r gampfa.
"Yn amlwg roedd e'n dipyn o sioc i ddechrau, wedyn gawsom ni gyd ein hebrwng allan yn eithaf sydyn er mwyn aros am y gwasanaeth tan.
"Ar y pryd ro'n i'n meddwl ei fod o un ai yn ffrwydrad o riw fath, neu fod hofrennydd wedi taro'r to."

Roedd Matthew Virgin yn y gampfa pan ddigwyddodd y ffrwydrad
Ychwanegodd fod clywed bod rhywun wedi marw yn y digwyddiad am fod yn ergyd fawr i'r gymuned.
"Mae e'n ofnadwy wrth gwrs, yn gwbl dorcalonnus. Ond mewn ffordd ry'n ni'n ffodus nad oedd mwy o bobl wedi colli eu bywydau.
"Mae hi'n ardal glos iawn, mae'r gampfa yn un cyfeillgar iawn - felly yn bendant fydd hyn yn golled enfawr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2023