'Rhaid cadw ethos gwreiddiol Eisteddfod Llangollen'

  • Cyhoeddwyd
Cystadleuwyr Eisteddfod LlangollenFfynhonnell y llun, Eisteddfod Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn dod o bedwar ban byd ers 1947 i gystadlu yn Eisteddfod Llangollen

Mae 'na alw am sicrhau nad yw newidiadau i strwythur Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn tanseilio "gwir bwrpas a neges" yr ŵyl.

Mae disgwyl i enwogion fel Tom Jones, Manic Street Preachers, Katherine Jenkins a Paloma Faith droedio'r llwyfan yr haf nesaf.

Ond mae un o gyn-aelodau'r bwrdd yn dweud bod angen parhau i geisio denu pobl ifanc a chefnogi artistiaid Cymreig a Chymraeg.

Ers sawl blwyddyn mae'r ŵyl wedi profi trafferthion ariannol, a arweiniodd at ddiswyddo prif swyddog yr ŵyl, Camilla King, yn yr haf.

Yn ôl aelodau newydd y bwrdd fe fydd y newidiadau'n diogelu'r "eisteddfod graidd" er yn cydnabod fod angen moderneiddio er mwyn diogelu dyfodol yr ŵyl.

Daeth cadarnhad ddydd Mawrth mai Dave Danford yw Cyfarwyddwr Artistig newydd yr Eisteddfod.

Mae'r ŵyl sy'n cael ei chynnal ddechrau Gorffennaf, wedi denu enwau mawr ar gyfer 2024 gyda'r Kaiser Chiefs a Gregory Porter yn arwain rhai o'r cyngherddau mwyaf.

Ochr yn ochr â hynny fe fydd cystadleuwyr o ben draw'r byd yn dod i'r gogledd-ddwyrain er mwyn cystadlu.

Yn ôl un o gyn-aelodau bwrdd yr Eisteddfod mae angen sicrhau nad yw gwir bwrpas yr ŵyl yn cael ei thanseilio.

"O weld y rhaglen mae'n hynod anturus ond dwi ddim yn siŵr os ydw i'n gweld y pwyslais ar gael yr ieuenctid yna," meddai'r pianydd Iwan Llewelyn Jones, oedd yn aelod o fwrdd yr Eisteddfod tan yr haf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iwan Llewelyn yn disgrifio'r rhaglen fel un "hynod anturus"

"Hefyd un o'r cwestiynau sy'n dod i'n meddwl ydy be ydy'r gwahaniaeth rhwng Eisteddfod a festival...

"Efo rhaglen yr artistiaid fel 'dan ni'n gweld mae'r teitl yn gwyro tuag at festival, ac mae rhaid iddyn nhw ystyried o ddifri sut maen nhw'n cefnogi diwylliant Cymraeg ac artistiaid, cyfansoddwyr Cymraeg."

Cadw'r ethos gwreiddiol

Mae'r ŵyl eleni'n cynnal partneriaeth gyda chwmni preifat er mwyn denu enwau mwy, yn y gobaith y bydd yn denu cynulleidfaoedd ehangach a gwahanol ac yn creu elw.

Er hyn mynnu mae aelodau newydd y bwrdd y bydd yr iaith Gymraeg ac ethos gwreiddiol yr ŵyl yn rhan hollbwysig wrth i'r Eisteddfod ddatblygu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Rhys Davies yn dweud fod "rhaid inni edrych ar ôl yr Eisteddfod graidd"

"Mae'n rhaid inni edrych ar ôl yr Eisteddfod graidd," medd Dr Rhys Davies, sy'n cefnogi'r gwaith trefnu, "yn enwedig y neges heddwch a'r ethos".

Wrth i'r ŵyl fynd i gyfeiriad gwahanol eleni maen nhw'n gobeithio y bydd mwy o elw'n dod i'r economi leol. Yn ôl yr ŵyl fe allai fod yn "ddegau o filiynau o bunnoedd".

'Mwy gwerinol' ers talwm

Ers ei sefydlu ym 1947 wedi'r Ail Ryfel Byd mae'r ŵyl wedi newid a datblygu mewn sawl ffordd.

Un sydd wedi bod yn dyst i rai o'r newidiadau hynny ydy Myron Lloyd, sy'n wyneb cyfarwydd i'r ŵyl.

Ar ôl cystadlu pan yn ferch ifanc fe gafodd ei llun ei ddefnyddio gan yr ŵyl i hysbysebu digwyddiadau am flynyddoedd wedyn a hithau erbyn hyn wedi symud i'r ardal ac yn un sy'n trefnu.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd lluniau o Myron Lloyd yn cystadlu yn Eisteddfod Llangollen eu defnyddio am rai blynyddoedd i hyrwyddo'r ŵyl a'r ardal

"Mi oedd o'n dipyn o wefr wrth gerdded allan ar y llwyfan," dywedodd.

Wrth ddangos rhai o'i hen luniau me hi'n dweud fod yr Eisteddfod yn dod â balchder enfawr i'r fro.

"Mi oedd hi'n fwy gwerinol bryd hynny," meddai.

Ychwanegodd y bydd gŵyl 2024 yn gyfle i ailgydio'n llawn yn y cystadlu wedi rhai blynyddoedd heriol.

'Wrth fy modd a llawn cyffro'

Cadarnhaodd yr Eisteddfod ddydd Mawrth bod rheolwr cynhyrchu'r ŵyl, Dave Danford, wedi ei benodi'n Gyfarwyddwr Artistig.

Yn offerynnwr taro profiadol sydd wedi gweithio ar sawl cynhyrchiad mawr dros y blynyddoedd, mae'r gŵr 39 oed sy'n hanu o Abertawe hefyd wedi sefydlu cwmni sy'n arbenigo ar drefnu cerddorfeydd ar gyfer cyngherddau a theithiau ar draws y DU

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dave Danford mai 2024 yw'r "pecyn adloniant cryfaf rydym wedi ei drefnu erioed"

Dywedodd ei fod wrth ei fodd o gael ei benodi i'r swydd.

"Rwyf hefyd yn llawn cyffro o ran helpu'r Eisteddfod oresgyn yr heriau mae wedi eu hwynebu dros y flwyddyn ddiwethaf a fedra i ddim aros tan fis Gorffennaf nesaf.

"Y cyngherddau rydym wedi eu cyhoeddi yn yr wythnosau diwethaf yw'r pecyn adloniant cryfaf rydym wedi ei drefnu erioed, gyda sêr gwirioneddol ac apêl eang."

Gan gyfeirio at elfen trefnu a chynnal cystadlaethau'r swydd, dywedodd y bydd rowndiau terfynol rhai o gystadlaethau'r dydd yn cael eu cynnwys yn y cyngherddau nos, gan gynnwys cystadleuaeth corau ieuenctid y dydd Mercher.

Bydd hynny, meddai, yn rhoi darlun fwy cyflawn o'r ŵyl i bobl sy'n mynd i'r cyngherddau "heb sylweddoli bod gyda ni gystadlaethau yn ystod y dydd".

Pynciau cysylltiedig