'Dod â Nadolig at y bobl mor bwysig y dyddiau 'ma'
- Cyhoeddwyd
Wrth i lai o bobl fynd i eglwysi yng Nghymru dywed arweinwyr crefyddol ei bod mor bwysig bellach dod ag ystyr y Nadolig at y bobl.
Eleni mae llawer o eglwysi wedi cyflwyno neges y Nadolig ar y cyfryngau cymdeithasol gydag eraill wedi arddangos y gwir ystyr drwy gelf gyhoeddus.
Yn Aberystwyth mae cyfres o baneli lliwgar i'w gweld ym Mharc Gwenffrewi ar Ffordd y Gogledd yn y dre - y cyfan wedi ei drefnu gan eglwys efengylaidd y dre a'r ysgolion lleol.
"Fel eglwys roedden ni am rannu gobaith stori'r Nadolig ac yn ffodus fe gawson ni gefnogaeth yr artist Lois Adams ac ysgolion y dre," meddai Catherine Taylor.
"Mae'r paneli oll yn seiliedig ar stori'r geni a'r hyn sy'n bwysig yw mai'r plant sydd wedi eu dylunio."
"Roedd yn gyfle i ni," meddai'r gweinidog y Parchedig Derrick Adams, "i gyfleu sut mae pobl mewn hanes wedi darlunio crefydd - pobl fel Rembrandt, Carvaggio ac El Greco a phaentwyr modern - ac yna yn gyfle i'r plant ddweud sut roedden nhw'n gweld y stori.
"Felly yr hyn oedd yn digwydd yw bod Lois yn sgriblo'r llun ar y panel wrth i'r plant siarad. Y plant oedd yn dweud a oedd angen i'r llun fod yn hapus neu'n drist ac yn nodi, er enghraifft, a ddylai dwylo ac wyneb yr angel fod i fyny neu i lawr.
"Yna wedi i Lois eu dylunio, y plant oedd yn paentio a Lois yn tacluso y cyfan ar y diwedd."
Ychwanegodd Mr Adams nad oedd yn gwrthwynebu "sbloets y Dolig" ond ei bod yn dda atgoffa pobl o "wir ystyr yr Ŵyl" hefyd.
'Dim Bafta ond cyflwyno'r neges!'
Yn y blynyddoedd diwethaf mae rhai eglwysi wedi bod yn cyflwyno calendr adfent ar y cyfryngau cymdeithasol - a phob dydd mae neges neu garol arbennig gan aelodau a ffrindiau.
Eleni mae aelodau a ffrindiau Gofalaeth Eglwysi Annibynwyr Dolgellau, Dinas Mawddwy a Llanelltyd wedi mynd ati i ddarllen stori'r geni o efengyl Luc ar dudalen Facebook yr ofalaeth.
"Roeddwn i'n rhoi adnod y dydd ar y cyfryngau cymdeithasol beth bynnag ond ar gyfer yr adfent mae aelodau o'r ddwy ofalaeth wedi'u recordio yn darllen adnod," meddai'r gweinidog y Parchedig Euron Hughes.
"Mae dod â'r Nadolig at bobl mor bwysig y dyddiau yma ac ar unwaith roedd pawb yn barod i gymryd rhan.
"Mae'r cyfan yn cael ei 'neud ymhlith ffrindiau ac mae pobl yn licio gweld pobl maen nhw'n 'nabod ar y sgrin - mae 'na rywbeth naturiol a chynnes am y cyfan.
"Dwi'm yn meddwl fod pobl yn trio ennill Bafta na dim byd wrth ddarllen adnod y dydd - llefaru'r Gair y maen nhw.
"Mae'n neges o obaith bod Crist wedi dod i'r byd er lles pawb," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2023