Tom Lockyer wedi ei ryddhau o'r ysbyty wedi ataliad ar y galon
- Cyhoeddwyd
Mae amddiffynnwr Cymru, Tom Lockyer, wedi cael ei ryddhau o'r ysbyty ar ôl iddo ddioddef ataliad ar y galon wrth chwarae i Luton ddydd Sadwrn.
Fe gafodd y gêm yn erbyn Bournemouth yn Uwch Gynghrair Lloegr ei gohirio yn fuan wedi i'r chwaraewr 29 oed lewygu ar y cae.
Cafodd driniaeth yn yr ysbyty, gyda Luton yn dweud dydd Sul fod ei gyflwr yn "sefydlog".
Mae'r clwb bellach wedi cyhoeddi rhagor o fanylion ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd i Lockyer, gan ddweud bod y digwyddiad dydd Sadwrn yn wahanol i pan lewygodd yr amddiffynnwr yn ystod rownd derfynol gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth.
Cafodd yr achos hwnnw ym mis Mai ei ddisgrifio fel ffibriliad atrïaidd - cyflwr sydd yn aml yn achosi curiad calon anghyson a chyflym.
Ychwanegodd Luton, y clwb lle mae Lockyer yn gapten, fod diffibriliwr cardiaidd bellach wedi cael ei osod yn ei fron.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2023