Nofwyr dros yr ŵyl yn poeni am garthion yn y môr

  • Cyhoeddwyd
Langland
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n draddodiad i nifer o bobl i heidio i'r môr dros gyfnod y Nadolig

Wrth i bobl ddewr heidio i'r môr dros gyfnod yr ŵyl, mae nofwyr wedi rhannu eu pryderon am garthion yn y dŵr.

Daw'r pryderon wythnosau ar ôl i elusen Surfers Against Sewage gyhoeddi eu hadroddiad blynyddol ar safon y dŵr, gan ddweud fod carthion wedi eu rhyddhau am dros 600,000 awr yng Nghymru y flwyddyn ddiwethaf.

Maen nhw nawr yn galw ar gwmnïau dŵr yng Nghymru i ddarparu data amser real ynglŷn â phryd a ble mae carthion yn cael eu rhyddhau.

Mae cwmnïau Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy yn dweud eu bod nhw'n buddsoddi'n sylweddol i wella safon dŵr afonydd a moroedd Cymru, gan ychwanegu eu bod nhw'n rhyddhau mwy o ddata na chwmnïau dŵr eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Huw Evans fod safon y dŵr fel arfer yn iawn, ond ei fod wedi gweld yr ochr arall hefyd

Mae Huw Evans o Langrannog yn syrffio oddi ar arfordir y gorllewin trwy gydol y flwyddyn, ac yn dweud ei fod yn hen gyfarwydd â dod ar draws garthion.

"Gan amlaf mae'r dŵr yn ok, ond ambell waith ti'n mynd mewn a dyw e ddim yn grêt.

"Ti'n gallu gweld oddi wrth lliw y dŵr bod gwastraff pobl yn y dŵr.

"Mae e'n dwymach na'r dŵr o amgylch a mae e'n drewi 'fyd.

"Mae e'n edrych fel tywod wedi churno lan, ond pan ti'n nofio o amgylch e neu trwyddo fe, ti'n gallu arogli fe. Dyw e ddim yn neis.

"Ti'n gallu trio osgoi'r ardal 'na yn y dŵr, ond os mae'r tonnau 'na, wedyn ti moyn bod yn yr ardal 'na."

Disgrifiad o’r llun,

"Dydyn ni ddim yn teimlo bod ein traeth lleol yn ddiogel i'n plant ni," medd David Hanham

I David Hanham a'i wraig yn Abertawe, roedd gweld eu mab bach yn wael ar ôl bod yn y môr wedi achosi pryder mawr.

Roedd y teulu, sy'n byw yng Ngŵyr, wedi gweld "slwtsh yn y pyllau" wrth iddyn nhw chwarae ym Mae Gîl - neu Brandy Cove.

Oriau yn ddiweddarach, roedd y bachgen bach wedi dechrau bod yn sâl, gan wneud i'r cwpl boeni mai carthion yn y môr oedd ar fai am y salwch.

"Mae hi'n anecdotaidd. Does dim ffordd o brofi hi," meddai David.

"Dydyn ni ddim yn teimlo bod ein traeth lleol yn ddiogel i'n plant ni."

'O glir i frown'

Ar achlysur arall, mae David yn amau iddo weld carthion yn y môr wrth iddo badlfyrddio.

"Aeth y dŵr o fod yn glir i frown. Heb amheuaeth, slic carthion," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Robert Morgan yn credu ein bod ni fel cymdeithas yn "cymryd mantais" o'r môr

Un arall sy'n poeni am safon y dŵr ydy Robert Morgan, ffermwr sy'n syrffio a nofio yn Abertawe yn wythnosol.

"Allwch chi byth gael amser gwael yn y dŵr, ond ydych chi eisiau dod allan yn teimlo'n sâl?" gofynnodd.

Mae'r syrffiwr brwd yn credu ein bod ni fel cymdeithas yn "cymryd mantais" o'r môr ac "mae angen gwneud rhywbeth" i atal carthffosiaeth amrwd rhag cael ei rhyddhau yn ddiangen.

Sut mae gollyngiadau'n digwydd?

Mae systemau carthffosiaeth cyfun yn golygu bod dŵr gwastraff o doiledau, ystafelloedd ymolchi a cheginau yn cael ei gludo i weithfeydd trin carthion yn yr un pibellau â dŵr glaw.

Pan fydd y glaw yn drwm, mae gan weithfeydd trin yr hawl i ollwng carthion heb eu trin i atal y system rhag cael ei llethu.

Os bydd gweithfeydd yn rhyddhau mwy o garthion na'r hyn sy'n cael ei ganiatáu, fe allen nhw dorri eu trwyddedau.

Mae Dŵr Cymru eisoes wedi cyfaddef iddo ollwng carthion heb ei drin yn anghyfreithlon yn ei weithfeydd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Nid gollwng carthion gan gwmnïau dŵr yw'r unig broblem, medd Cai Ladd

Yn ôl Cai Ladd o adran ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe, rhaid cofio bod ffynonellau eraill yn gallu effeithio ar safon ein dŵr hefyd.

"Ma' 'da ti bethau yn llifo o'r tir, fel y gwrtaith ni'n rhoi ar y ddaear," meddai.

"Mae'r gwastraff o ddiwydiant hefyd yn llifo mewn i afonydd wedyn ac yn creu problemau i ni, ond hefyd i'r ecosystemau pwysig."

Galw am dryloywder

Mae Surfers Against Sewage yn dweud bod carthion wedi cael eu gollwng i ddyfroedd Cymru am gyfanswm o 613,618 awr yn 2022.

Yn eu hadroddiad ansawdd dŵr blynyddol, mae'r elusen yn galw am "dryloywder ledled y Deyrnas Unedig ynghylch llygredd carthffosiaeth".

Disgrifiad o’r llun,

"Ni angen cael gafael ar y broblem," meddai Michael Goode

Yn ôl Michael Goode, swyddog gwirfoddoli'r mudiad, mae'r ystadegau yn "ofid" iddo, fel ymgyrchydd ac fel unigolyn sy'n mwynhau'r môr.

"Ni angen cael gafael ar y broblem," meddai.

"I fi, ac i sawl person arall sy'n rhan o'r ymgyrchu, maen broblem sydd ddim yn cael ei wynebu.

"Yn lle bo' ni'n cwyno amdano fe trwy'r amser, bo' ni gyd yn dod at ein gilydd... i weld be' 'di'r problemau."

Yn ôl Alun Moseley o'r elusen, mae'r addewidion sy'n cael eu gwneud i wella safon y dŵr "yn galonogol" ond mae angen gweld gweithredu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen gweld gweithredu, medd Alun Moseley o Surfers Against Sewage

Yn ôl Dŵr Cymru mae adroddiad Surfers Against Sewage yn "anwybyddu'r buddsoddiad" i "wella ansawdd dŵr" mewn moroedd ac afonydd, "gan helpu i sicrhau bod gan Gymru 25% o draethau Baner Las y Deyrnas Unedig tra mai dim ond 15% o'r arfordir sydd ganddi".

"Rydyn ni'n gwybod bod mwy i'w wneud a dyma pam rydyn ni'n asesu effaith amgylcheddol ein hasedau gan gynnwys gorlifiadau stormydd, yn gwneud mwy o ymchwil na chwmnïau dŵr eraill, fel y gallwn ni, ar y cyd â'n rheolyddion amgylcheddol, ddeall yr ystod o ffactorau effeithio ar ansawdd dŵr ymdrochi," meddai llefarydd.

Ychwanegodd Dŵr Cymru ei fod yn bwriadu lansio "map gorlif stormydd bron mewn amser real" yn 2024, a fydd yn "rhoi gwybodaeth bron mewn amser real ar statws gweithredu gorlifoedd stormydd mewn dyfroedd ymdrochi dynodedig a rhai dyfroedd heb eu dynodi".

Mae Hafren Dyfrdwy, sy'n gwasanaethu rhannau o ogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru, yn dweud, er eu bod nhw'n "gyfrifol am ganran fach yn unig o ollyngiadau mewn afonydd yng Nghymru", maen nhw'n cymryd eu "cyfrifoldeb dros iechyd afonydd o ddifrif" ac yn gweithio "ar y cyd" i wneud "afonydd yr iachaf y gallant fod".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llangrannog yn un o 25 o draethau yng Nghymru sydd â statws y Faner Las

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, y corff sy'n gyfrifol am fonitro ansawdd dŵr, yn dweud, er eu bod wedi "gweld gwelliannau mawr" yn y blynyddoedd diwethaf, eu bod yn "cymryd camau i leihau gollyngiadau carthion".

"Lle mae digwyddiadau llygredd yn gysylltiedig â pherfformiad cwmnïau dŵr, rydym wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'n disgwyliadau ac wedi gwthio am welliant sylweddol, yn ogystal â mwy o fuddsoddiad i leihau gollyngiadau carthion sy'n effeithio ar yr amgylchedd."

Dywed Llywodraeth Cymru fod "ein sector dŵr yn wynebu her uniongyrchol a digynsail", gan ychwanegu bod "gan fusnesau a chymunedau i gyd rôl i'w chwarae wrth helpu cyrff dŵr Cymru i ffynnu".

"Mae Cymru'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel lle sydd â rhai o'r traethau a'r ansawdd dŵr gorau yn Ewrop, ac mae ansawdd dŵr ymdrochi uchel yn hanfodol i barhau i gefnogi cyfleoedd hamdden dŵr awyr agored gwerthfawr."

Pynciau cysylltiedig