Colled gartref i Gaerdydd ond gêm gyfartal i Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Kiernan Dewsbury-HallFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kiernan Dewsbury-Hall yn dathlu wedi iddo roi Leicester ar y blaen

Caerdydd 0-2 Leicester City

Roedd yna siom i Gaerdydd yn eu gêm olaf yn 2023 wrth i Leicester City ennill yn gyfforddus o 2-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Roedd hi wastad am fod yn dalcen caled i'r Adar Gleision yn erbyn ceffylau blaen y Bencampwriaeth, a'r ymwelwyr oedd yn llwyr reoli'r chwarae o'r cychwyn cyntaf.

Fe aeth Kiernan Dewsbury-Hall yn agos at roi Leicester ar y blaen gyda pheniad aeth yn syth i gyfeiriad y golwr Jak Alnwick.

Ond wedi 18 munud, yn dilyn amddiffyn llac gan Joe Ralls, fe darodd Dewsbury-Hall y bêl yn bwerus heibio Alnwick i'w gwneud hi'n 1-0.

Yn fuan yn yr ail hanner fe sgoriodd James Justin ail ardderchog i Leicester wrth iddo grymanu'r bêl i gornel ucha'r rhwyd o 30 llath.

Mae'r golled yn golygu bod Caerdydd yn gorffen y flwyddyn yn y pedwerydd safle ar ddeg yn y tabl.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Coventry City 2-2 Abertawe

Fe lwyddodd Abertawe i frwydro nôl i sicrhau pwynt oddi cartref yn erbyn Coventry, wrth i'r Elyrch barhau i chwilio am reolwr parhaol.

Fe aeth Abertawe ar y blaen wedi saith munud wrth i Liam Walsh fanteisio ar gyffyrddiad sâl gan un o amddiffynwyr Coventry cyn crymanu'r bêl heibio'r golwr o ganol y cwrt cosbi.

Ond o fewn ychydig funudau roedd y tîm cartref yn gyfartal diolch i gôl ardderchog gan Haji Wright.

Ar ôl i Kasey Palmer guro dau ddyn yng nghanol cae, fe basiodd o'r bêl i gyfeiriad Wright a lwyddodd i fynd heibio un amddiffynnwr cyn tanio ergyd isel a phwerus heibio Carl Rushworth.

Wedi i'r ddau dîm wastraffu cyfleoedd, Coventry aeth ar y blaen wedi 65 o funudau - Haji Wright yn rhwydo am yr eilwaith yn dilyn gwaith da gan Tatsuhiro Sakamoto.

Ond yn ystod yr amser gafodd ei ychwanegu am anafiadau, fe sgoriodd Liam Cullen gyda chic rydd i sicrhau pwynt i'r ymwelwyr.

Mae Abertawe yn parhau yn yr 17eg safle yn y tabl - wyth pwynt o safleoedd y cwymp.