Milwr a saethodd blentyn wedi marw wrth aros am therapi

  • Cyhoeddwyd
George Jacobus Du PreezFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd George Du Preez ddiagnosis PTSD ar ôl dychwelyd o Afghanistan

Roedd milwr a saethodd blentyn drwy gamgymeriad tra ar ddyletswydd yn dal i ddisgwyl am therapi pan laddodd o ei hun, medd ei weddw.

Fe wnaeth George Jacobus Du Preez, a oedd yn filwr yn Afghanistan, ddioddef Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) wedi'r digwyddiad yn 2011.

Dywed ei wraig Katriona Du Preez na wyddai ei gŵr ei fod yn saethu at blentyn ar y pryd.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg eu bod wedi ymrwymo i helpu cyn-filwyr sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl.

Yn y cyfamser dywedodd y fyddin eu bod yn cymryd iechyd personél "wirioneddol o ddifri" ond na allen nhw drafod achosion unigol.

Cafodd Mr Du Preez ei eni yn Namibia ac yna fe ymunodd â'r Gatrawd Parasiwt Prydeinig, gan wasanaethu yn Afghanistan yn 2011.

Dywed ei wraig Katriona ei bod wedi cael galwad gan ei gŵr ym mis Chwefror 2011, yn gofyn iddi a fyddai duw yn maddau i rhywun a oedd wedi lladd plentyn.

"Gan feddwl yn syth ei fod yn siarad am y Taliban, dywedais wrtho bod hynny'n annerbyniol," dywedodd Katriona.

Ond wedi iddo ddod adref fe ddywedodd fwy wrthi.

'Plentyn oedd y targed'

"Pan gafodd George orchymyn i saethu targed, daeth neges ar y radio yn fuan yn nodi mai plentyn oedd y targed," meddai.

"Dyna oedd y sbardun ar gyfer y PTSD."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Katriona Du Preez na fu "unrhyw eglurhad" pam y cafodd gofal ei gŵr ei oedi

Fe gafodd Mr Du Preez driniaeth filwrol a sifil tra'n byw yn Colchester, yn Essex, ble roedd canolfan ei gatrawd, ac fe gafodd ei ryddhau o'r fyddin ar sail feddygol yn 2014 gyda PTSD.

Symudodd y cwpl a'u mab ifanc i fyw i Ben-y-bont i fod yn nes at deulu Mrs Du Preez.

Roedden nhw ar ddeall y byddai cynllun triniaeth Mr Du Preez yn cael ei drosglwyddo, ac y byddai'n cael ei weld gan arbenigwyr iechyd meddwl o fewn wythnosau.

Ond ni ddigwyddodd hynny, medd Mrs Du Preez, ac mae'n honni bod ei gŵr wedi ei roi ar waelod y rhestr aros am gefnogaeth pan gyrhaeddon nhw Gymru.

"Roedd e'n ddyn annwyl iawn, yn eitha' swil - yn grefyddol iawn," meddai.

"Roedd e wedi gweld pethau ofnadwy. Roedd 'na lot fawr o baranoia a gweld yr hyn oedd wedi digwydd eto."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Katriona Du Preez gyda'i diweddar ŵr

Yn fuan wedi symud i Gymru roedd iechyd meddwl Mr Du Preez wedi dirywio.

Fe gafodd feddyginiaeth a bu yn yr ysbyty sawl gwaith rhwng 2014 a 2019, ond chafodd o erioed y therapi yr oedd yn disgwyl amdano.

Cafwyd hyd iddo wedi marw gan ei wraig yn Nhachwedd 2019 - roedd o wedi lladd ei hun.

"Roedd yn dal ar y rhestr aros pan fu farw," meddai.

Dywedodd nad oedd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg erioed wedi egluro pam bod yn rhaid iddo gychwyn ei driniaeth o'r dechrau ar ôl symud i Gymru.

Dywed Mrs Du Preez ei bod yn credu y gallai mwy fod wedi'i wneud o ran darparu cymorth iechyd meddwl penodol iddo yn ystod y blynyddoedd cyn ei farwolaeth.

'Rhwystredig'

"Mae'n rhwystredig gan fy mod yn gwybod fod pobl sydd â chyflyrau tebyg yn derbyn triniaeth ar draws y ffin yn Lloegr ac mae'n teimlo fel loteri cod post," medd Mrs Du Preez, sy'n was sifil.

"Mae gen i fachgen bach sydd heb dad."

Ym mis Rhagfyr daeth crwner i'r casgliad na wnaeth gweithredoedd meddyg teulu Mr Du Preez, y gwasanaethau iechyd meddwl na'r gwasanaeth prawf yn ystod yr wythnosau cyn iddo farw gyfrannu at ei farwolaeth.

Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae tua 115,000 o gyn-filwyr yng Nghymru, ac mae canran y cyn-filwyr yma yn uwch nag yn Lloegr.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi sefydlu GIG Cymru i Gyn-filwyr yn 2011 er mwyn darparu therapyddion iechyd arbenigol ar gyfer cyn-filwyr.

Fe ychwanegodd y llywodraeth eu bod wedi cyflwyno cynllun newydd yn 2023 i wella gwasanaethau meddygon teulu i gyn-staff milwrol a'u bod hefyd wedi sicrhau bod gan bob bwrdd iechyd Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog.

Ffynhonnell y llun, Vicky Hrebien
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw George Jacobus Du Preez ym mis Tachwedd 2019

Ond yn ôl David Singletary o'r Parachute Regimental Association - cymdeithas ar gyfer y llu awyr - roedd rhestrau therapi Cymru yn llawn a doedd ganddyn nhw ddim y cyfleusterau i gynnig yr un gofal ag yn Lloegr.

"Fe allai'r gofal a'r driniaeth maen nhw eu hangen fod ar gael, fe ddylai fod ar gael, ond dydy o ddim ar gael - ac alla i ddim dod o hyd i esgus am hynny," ychwanegodd.

Dywed y fyddin eu bod wedi "gwella'r gefnogaeth sy'n cael ei rhoi" i adnabod gwewyr iechyd meddwl a sicrhau cefnogaeth yn gynt.

Dywed Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg eu bod yn "cydymdeimlo'n ddwys â theulu George".

Ychwanegon nhw: "Fel bwrdd iechyd ry'n wedi ymrwymo i'r Cyfamod Lluoedd Arfog ac ry'n yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i gyn-filwyr sydd ag anghenion iechyd meddwl."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.