Cwest Christopher Kapessa: Llanc wedi ei weld yn ei wthio i afon
- Cyhoeddwyd
Cafodd person yn ei arddegau ei weld yn gwthio bachgen i afon yn fuan cyn iddo foddi, clywodd cwest.
Bu farw Christopher Kapessa, 13, yn dilyn y digwyddiad yn Afon Cynon ger Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, yn 2019.
Clywodd y cwest fod bachgen arall, nad oes modd datgelu enwi oherwydd rhesymau cyfreithiol, a oedd yn 14 ar y pryd, wedi gwthio Christopher i'r dŵr.
Aeth Christopher, oedd yn methu nofio, i drafferth ac fe neidiodd plant eraill i'r dŵr i geisio helpu, ond doedd dim modd ei achub.
Dywedodd Isabella Watts, 18, wrth Lys Crwner Canol De Cymru ym Mhontypridd fod Christopher wedi tynnu ei esgidiau, ei grys-t a'i sbectol ac yn sefyll ar yr ochr, yn ystyried neidio.
Dywedodd Ms Watts, a welodd y digwyddiad, bod y bachgen sydd wedi ei gyhuddo o wthio Christopher i'r dŵr yn sefyll y tu ôl iddo.
Fe holodd Tom Leeper, ar ran y crwner, wrth Ms Watts: "Sut wnaeth Christopher gyrraedd y dŵr?"
"Fe wthiodd [y bachgen] ef... aeth i mewn i'r dŵr, ac roedd yn iawn am tua 30 eiliad, ac yna fe ddechreuodd fynd i fyny a lawr gan chwifio ei freichiau," dywedodd.
Clywodd y llys fod plant eraill wedi neidio i mewn i'r dŵr i geisio achub Christopher, gan gynnwys y bachgen gafodd ei gyhuddo o'i wthio.
Awgrymodd David Hughes, sy'n cynrychioli'r unigolyn a gafodd ei gyhuddo o wthio Christopher, fod Ms Watts wedi canolbwyntio fwy ar sgyrsiau gyda'i ffrindiau, ac efallai bod y bachgen wedi baglu yn lle gwthio Christopher.
"Wnaeth o ddim baglu, fe wthiodd e. Roedd yn sefyll yn ei unfan pan gafodd ei wthio felly nid oedd yn edrych fel baglu o gwbl," atebodd hi.
Dydd Llun, clywodd y cwest gan un llanc wnaeth ddisgrifio ei fod wedi gweld y bachgen yn gwthio Christopher i'r dŵr gyda'i ddwylo.
"Roeddwn yn gallu gweld yn glir be ddigwyddodd," meddai'r bachgen 17 oed.
"Doedd pawb ddim yn gwybod a oedd e'n gallu nofio neu beidio.
"Doedd yna ddim panig yn syth. Cyn gynted ag oedd pawb yn gwybod nad oedd yn gallu nofio roedd pobl mewn panig ac yn neidio i'r afon i geisio helpu."
Mae'r cwest yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2022