Cadeirydd S4C wedi 'gweiddi' ar gyn-bennaeth cynnwys

  • Cyhoeddwyd
Rhodri WilliamsFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ymddiheurodd Rhodri Williams mewn ebost am ei ymddygiad wedi i Awdurdod S4C ymchwilio i gwyn yn dilyn cyfarfod ym mis Mehefin

Fe wnaeth Cadeirydd S4C ymddwyn yn "anaddas" wrth "dorri ar draws" a "gweiddi" ar gyn-bennaeth cynnwys y sianel mewn cyfarfod ar 15 Mehefin eleni, yn ôl llythyr ar ran aelod o Awdurdod y sianel.

Daeth Llinos Griffin-Williams â chwyn yn erbyn y cadeirydd, Rhodri Williams, ym mis Mehefin eleni.

Cafodd Ms Griffin-Williams ei diswyddo ar ôl cael ei chyhuddo o gamymddwyn difrifol mewn digwyddiadau yn dilyn gêm Cymru yn erbyn Georgia yng Nghwpan Rygbi'r Byd ym mis Hydref.

Mae hi wedi gwadu camymddwyn ac yn dweud bod ei diswyddiad yn annheg.

Mae dogfennau sydd wedi eu rhannu gyda rhaglen Newyddion S4C yn manylu ar dystiolaeth sawl un oedd yn y cyfarfod ar 15 Mehefin, ac yn amlygu'r tensiynau dwfn o fewn y sefydliad.

Mae ymchwiliad gan gwmni effectusHR gafodd ei gwblhau ym mis Gorffennaf eleni yn adrodd i Llinos Griffin-Williams gwyno bod Cadeirydd S4C wedi "gweiddi a sgrechian yn fygythiol" ati, a'i gadael "wedi ei siglo yn gorfforol, yn crio... ac yn dioddef curiad calon cyflym ac anghyson".

Dywedodd wrth yr ymchwilwyr i Rhodri Williams "gamddefnyddio ei bŵer yn llwyr" a'i fod yn "fygythiol and yn fwlïaidd".

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo fel Prif Swyddog Cynnwys S4C ym mis Hydref

Dywed yr adroddiad hefyd bod Rhodri Williams ac aelodau staff eraill S4C yn ymwybodol o gyflwr iechyd difrifol sydd yn effeithio ar Ms Griffin-Williams, ac i adroddiad iechyd galwedigaethol argymell "na ddylai gael ei rhoi dan unrhyw straen".

Digwyddodd y ddadl ar 15 Mehefin eleni pan ofynnodd aelodau tîm rheoli S4C am gyfarfod gydag aelodau anweithredol y bwrdd i drafod cyfathrebu a chynlluniau gwaith wrth i ymchwiliad Capital Law i honiadau o fwlio yn erbyn y tîm rheoli fynd rhagddo.

Sbardun yr ymchwiliad hwnnw oedd llythyr at aelodau anweithredol y bwrdd gan undeb Bectu ym mis Ebrill eleni.

Diswyddwyd Prif Weithredwr y sianel Siân Doyle fis diwethaf wedi iddi gael ei chyhuddo o greu "diwylliant o ofn" yn S4C.

Wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd ei gŵr ddatganiad yn dweud iddi gael ei rhuthro i'r ysbyty wedi iddi gymryd gorddos. Roedd hi wedi dweud cyn hynny nad oedd hi'n "cydnabod nac yn derbyn" honiadau adroddiad Capital Law.

Wrth roi tystiolaeth i effectusHR, honnodd Rhodri Williams na wnaeth Llinos Griffin-Williams "gwrdd â'r safonau disgwyliedig ar gyfer rhywun ar ei lefel hi".

Dywedodd iddi "ddatgelu data categori arbennig" [manylion cyflwr iechyd cydweithiwr] a'i bod wedi "mynnu parhau i siarad" wedi iddi gael cais "i fod yn dawel".

Yn ei thystiolaeth hi, dywedodd Llinos Griffin-Williams ei bod "wedi ymddiheuro" a'i bod hi "yn trafod gwybodaeth yn ymwneud ag ymholiad gan y wasg oedd wedi cyrraedd y bore hwnnw".

Dywedodd Mr Williams "nad yw hwn yn ddigwyddiad un ffordd... y peth cyntaf dywedais oedd 'mae'n flin gyda fi dorri ar eich traws... dwi ddim yn credu bod hwn yn fater dylir ei drafod' a dim ond wedi i hynny gael ei anwybyddu y tro cyntaf, a'i anwybyddu am eildro, dim ond bryd hynny godais i fy llais".

Fe wnaeth llythyr anfonwyd ar ran y cyn-Aelod Seneddol Guto Bebb, a ymchwiliodd i'r digwyddiad ar ran Awdurdod S4C, "gadarnhau" cwyn Ms Griffin-Williams i'r "Cadeirydd dorri ar draws, a chodi ei lais yn ystod y cyfarfod".

Mae'n canfod bod "gweithredoedd o'r fath yn anaddas ac wrth wneud hynny, ni ddangosodd ddigon o ystyriaeth i iechyd a lles [Llinos Griffin-Williams]."

Fe wnaeth Rhodri Williams ebostio Llinos Griffin-Williams gydag ymddiheuriad.

Mewn datganiad ar ôl cyhoeddi adroddiad Capital Law, fe ddywedodd aelodau anweithredol y bwrdd: "Rydym wedi bod yn sensitif i wrthdaro buddiannau posibl ar gyfer y Cadeirydd.

"Adolygwyd y materion hyn gan Aelodau'r Awdurdod, yn annibynnol i'r Cadeirydd, a gwnaethom ymdrin â hwy yn unol â hynny.

"Cytunwyd nad oeddent yn teilyngu unrhyw gamau pellach ac na fyddent yn atal y Cadeirydd rhag cymryd rhan yn yr adolygiad parhaus. Mae pob penderfyniad sy'n deillio o'r broses hon wedi bod yn unfrydol."

'Rwyf wedi fy nhorri'

Dywedodd Llinos Griffin-Williams nad oedd hi'n "ddigon cryf" i gael ei chyfweld ar gamera.

"Roedd camu mewn i S4C yn fraint," meddai, "ond mae fy nhriniaeth gan y Cadeirydd a fy niswyddiad annheg i'r misoedd o gam-drin pŵer wedi fy nhorri.

"Rwyf wedi fy nhorri. Does dim geiriau am y tristwch dwi'n ei deimlo.

"Mae'n rhaid iddo fod yn atebol, mae'n rhaid i S4C gael ei warchod."

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod S4C: "Deliwyd â chyhuddiad o ymddygiad amhriodol yn erbyn y Cadeirydd gan yr Awdurdod ym mis Mehefin 2023, ac yn dilyn hynny fe ymddiheurodd am godi ei lais mewn cyfarfod o'r bwrdd.

"Ni ddaethpwyd i'r casgliad ei fod wedi ymddwyn mewn ffordd fygythiol, ymosodol, oedd yn fath o fwlio. Cafodd y mater ei ddatrys a'i gwblhau bryd hynny.

"Bu nifer o adroddiadau diweddar yn y cyfryngau ar y mater hwn yn anghywir, ac rydym yn siomedig bod gwybodaeth am broses gyfrinachol, fewnol wedi'i rhannu gyda'r wasg."

Mae adran ddiwylliant Llywodraeth y DU, sy'n penodi Cadeirydd S4C, wedi cael cais am eu hymateb.

Pynciau cysylltiedig