Llanc 'wedi cyfaddef gwthio Christopher Kapessa' i Afon Cynon
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed honiadau bod bachgen yn ei arddegau wedi cyfaddef iddo wthio'r bachgen 13 oed, Christopher Kapessa, i afon yn Rhondda Cynon Taf yn fuan wedi'r digwyddiad.
Bu farw Christopher yn Afon Cynon, ger Aberpennar at 1 Ionawr 2019.
Ddydd Mercher fe glywodd cwest i'w achos ym Mhontypridd gan ragor o bobl ifanc oedd yno ar y pryd.
Mae disgwyl i'r cwest bara hyd at 10 diwrnod.
Dywedodd Killian Haslam, 18, wrth y gwrandawiad ei fod ymhlith y rhai cyntaf i gyrraedd ar y diwrnod dan sylw.
Fe welodd Christopher "yn jocian gyda'i ffrindiau" cyn tynnu ei ddillad, ond nid oedd yn siŵr a oedd yn dymuno mynd i'r dŵr.
"Roedd yn dweud nad oedd yn gallu nofio, ac yna nad oedd yn nofiwr arbennig o dda," dywedodd.
Dywedodd bod bachgen arall, oedd yn 14 ar y pryd, tu ôl i Christopher, ac fe ddywedodd yntau: "Beth am i mi ei wthio?"
Yn ôl Mr Haslam, fe ddywedodd y bachgen hynny "yn fwy fel jôc" yn hytrach na gydag unrhyw fwriad "drwg", a'i fod "heb gymryd llawer o sylw" wrth gario ymlaen i newid ei ddillad.
Fe glywodd sŵn wedi hynny a dychwelyd i'r afon, gan ymuno â'r ymdrech i geisio helpu Christopher.
Mae'r llys wedi clywed tystiolaeth gan berson ifanc arall a ddywedodd mai geiriau olaf Christopher oedd: "Killian, achuba fi."
Dywedodd Mr Haslam wrth y llys ei fod wedi cwrdd â'r bachgen 14 oed, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, mewn parc lleol tua wythnos wedi marwolaeth Christopher.
"Gofynnodd wrtha'i beth oedd yn fy natganiad a wnes i ddeud bo fi'n datgan yr hyn ro'n i wedi ei glywed, ei fod wedi baglu.
"A wnaeth e fy niolch, ac ro'n i'n syn ei fod yn ddiolchgar... dyna pryd y dywedodd ei fod wedi ei wthio."
Y dŵr yn 'dywyll a mwdlyd'
Mae'r cwest wedi clywed gan bobl ifanc eraill sy'n dweud eu bod wedi gweld Christopher yn cael ei wthio i'r dŵr.
Dywedodd Millie Morgan, 18, ei bod hithau hefyd wedi neidio i'r afon i helpu Christopher pan welodd ei fod mewn trafferth.
Roedd ei ben, meddai, yn mynd "i mewn ac allan" o'r dŵr "ac roeddech chi'n gallu gweld ei fod yn rhoi lan".
Ychwanegodd ei bod wedi ceisio ei ffeindio yn yr afon ond "roedd y dŵr yn rhy dywyll a mwdlyd" iddi allu gweld dim byd.
Dywedodd Miss Morgan wrth y llys bod hi a grŵp o ffrindiau wedi cwrdd â'r bachgen yr honnir iddo wthio Christopher wedi'r digwyddiad.
"Ychydig wythnosau'n ddiweddarach aethon ni i'w garej ac fe ddywedodd rhywbeth tebyg i ei fod wedi ei wthio, nad oedd wedi llithro."
Mae bargyfreithwyr y bachgen yr honnir wnaeth wthio Christopher, wedi dweud wrth y llys ei fod wedi baglu a syrthio yn erbyn Christopher.
Mae'r cwest yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr
- Cyhoeddwyd8 Ionawr