Sut y medrwch chi lwyddo yn 2024

  • Cyhoeddwyd
Dyn yn dathluFfynhonnell y llun, Twenty47studio

Wnaethoch chi adduned blwyddyn newydd eleni? Ac ydych chi eisoes wedi ei dorri...?

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun - mae'n debyg fod dros 20% o'r bobl a osododd adduned i'w hunain ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn wedi hen anghofio amdani ar ôl wythnos.

Ond sut mae gwneud newidiadau gwirioneddol? Dyma ambell i air o gyngor gan yr hyfforddwr bywyd, Catrin Atkins:

Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin Atkins yn cynnal sesiynau hyfforddi bywyd gyda phobl ledled y byd

"Dwi ddim yn gredwr mawr mewn addunedau," eglurodd Catrin wrth Aled Hughes ar Radio Cymru. "Mae o'n bwysau mawr. 'Dan ni ynghanol gaeaf dal i fod, mae hi'n oer, mae hi'n dywyll peth cynta'n y bore, a 'dan ni allan o rwtin hefyd ar y 1af oherwydd y gwyliau... Mae rhywun yn ei chael hi'n anodd i fynd yn ôl i mewn i rwtin beth bynnag, heb sôn am ychwanegu am ben hynny.

"Mae'n gallu golygu bo' rhywun yn ffeindio fo'n anoddach i gychwyn, heb sôn am i gadw adduned."

Un gair i gwmpasu'r cyfan

Yn hytrach, mae Catrin, ers ychydig o flynyddoedd bellach, yn dewis gair ar gyfer y flwyddyn i ddod, ac o gadw'r gair mewn cof, mae hi'n ceisio gwneud newidiadau sydd ychydig mwy agored, meddai.

"Flwyddyn dwytha, 'curiosity' oedd o, flwyddyn cynt, 'ehangu' oedd o. Dwi dal heb cweit benderfynu be' 'di'r gair ar gyfer flwyddyn yma eto, ond dwi jyst yn teimlo ei fod o jyst chydig bach llai restrictive.

"Fedri di roi gair fel 'ehangu' at lot o bethau, o ran dysgu rhywbeth, gwneud rhywbeth newydd, neu ehangu gorwelion mewn gymaint o ffyrdd gwahanol, yn hytrach na bo' ti'n trio atal dy hun rhag gneud rhywbeth. Dwi'n ffeindio fo'n haws i'w gadw o."

Ffynhonnell y llun, rbkomar

Pum ffordd i greu newid

Felly sut mae mynd ati i wneud newidiadau gwirioneddol, os ydych chi'n awyddus i wneud hynny? Mae gan Catrin ambell i tip:

  • Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymateb yn well, os ydyn nhw'n anelu AT rywbeth yn hytrach nag ODDI WRTH rywbeth

  • Eu cadw nhw'n fach - y lleia'n byd, gora'n byd, ac adeiladu ar hynny

  • Cael ffrind i gadw chi'n atebol ac i gadw chi i fynd pan mae hi'n anodd

  • Gwybod bod rhywun am faglu o dro i dro, ac mae hynny'n naturiol ac yn ocê

  • Gweld eich hunain flwyddyn i rŵan yn edrych nôl a gweld eich cynnydd

Pob lwc ac ewch amdani!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig