Bachgen yn gwadu gwthio Christopher Kapessa i afon
- Cyhoeddwyd
Mae'r cwest i farwolaeth bachgen 13 oed a fu farw mewn afon yn Rhondda Cynon Taf yn 2019 wedi clywed gan fachgen arall yr honnir iddo ei wthio i'r dŵr.
Bu farw Christopher Kapessa yn dilyn y digwyddiad yn Afon Cynon ger Aberpennar.
Dywedodd y bachgen arall, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wrth y cwest ei fod wedi cwympo i mewn i Christopher.
Mae'n gwadu cerdded tu ôl iddo a'i wthio'n fwriadol i'r afon gyda'i ddwylo.
Dywedodd y llanc wrth Lys Crwner Pontypridd ei fod yn nabod Christopher trwy'r ysgol ond ei fod heb ei nabod ers hir.
Roedd grŵp o bobl ifanc, meddai, wedi trefnu i ymweld â'r ardal sy'n cael ei nabod fel y Bont Goch dros Afon Cynon ar 1 Gorffennaf 2019.
Fe welodd Christopher ar y bont yn dechrau tynnu ei ddillad tra bod bechgyn eraill yn neidio i'r afon.
Dywedodd wrth y crwner ei fod wedi neidio i mewn ei hun a bod y dŵr yn rhy ddwfn iddo sefyll ynddo, gan gyfaddef iddo deimlo ofn a nerfusrwydd y gallai'r cerrynt ei sgubo.
Roedd Christopher, meddai, wedi dweud wrtho ei fod "yn cyffroi wrth feddwl am fynd i mewn ond doedd e ddim yn gallu nofio'n dda iawn".
Ychwanegodd bod Christopher yn edrych dros yr ymyl ac yn chwerthin fel petai eisiau mynd i'r dŵr.
'Wnes i gwympo i mewn iddo'
Yn syth cyn i Christopher fynd i'r dŵr, dywedodd y bachgen ei fod yn agos iawn y tu ôl iddo.
Mewn ymateb i gwestiwn yn holi sut daeth Christopher i fod yn y dŵr fe atebodd: "Wnes i gwympo i mewn iddo."
Mewn ymateb i gwestiwn a oedd wedi cerdded tu ôl i Christopher cyn iddo fynd i'r dŵr a'i wthio'n fwriadol gyda chledrau ei ddwylo, atebodd: "Na."
Dywedodd na allai gofio pwy arall aeth i'r dŵr ar ôl Christopher, oedd yn cynnwys Killian Haslam.
Wrth roi tystiolaeth ddydd Mercher, honnodd Mr Haslam, 18, bod y bachgen, oedd yn 14 oed ar y pryd, wedi sefyll tu ôl Christopher a dweud "beth am i mi ei wthio?", ond roedd wedi cymryd mai "jôc" oedd hynny.
Gwadodd y bachgen ddydd Gwener ei fod wedi dweud y fath beth.
'Wnes i mo'i wthio i mewn'
Wrth gael ei holi wedyn gan fargyfreithiwr Christopher, Michael Mansfield, am y cysylltiad corfforol a achosodd i Christopher syrthio i'r afon, atebodd ei fod "yn dod i lawr o'r bont... ac wnes i lithio i mewn iddo".
Dywedodd ei fod yn symud "yn gyflym" ar y pryd - "ddim yn cerdded ond ddim yn rhedeg" a'i fod wedi "dweud wrth Chris 'arhosa yn fan'na - ddoi lawr a neidio i mewn gyda ti nawr'."
Awgrymodd Mr Mansfield bod ei fersiwn o'r hyn ddigwyddodd yn wahanol i rai tystion eraill i'r gwrandawiad.
Gofynnodd: "A wnewch chi ailystyried nawr ai'r gwir yw eich bod wedi ei wthio, yn fwriadol? Y gwir yw eich bod wedi ei wthio i mewn, boed fel jôc neu wrth chwarae'n wirion, mai dyna wnaethoch chi i'w gael i'r dŵr?"
"Na," atebodd y bachgen. "Roedd yna gyffyrddiad ond wnes i mo'i wthio i mewn."
Cyfeiriodd Mr Mansfield wedyn at honiad Mr Haslam, bod y ddau wedi trafod y digwyddiad yn ystod sgwrs ychydig ddyddiau wedi marwolaeth Christopher.
"Doedd dim sgwrs," atebodd. "Dydw i ddim yn cofio sgwrs gyda Killian."
Pan gafodd y llanc ei holi gan ei fargyfreithiwr ei hun, dywedodd bod y rhan yr oedd o a Christopher yn sefyll arno yn "wlyb a llithrig".
Dywedodd nad oedd wedi bwriadu brifo Christopher, ai fod wedi neidio i mewn pan sylwodd ei fod mewn trafferth "i geisio achub fy ffrind".
Mae'r cwest yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
- Cyhoeddwyd9 Ionawr
- Cyhoeddwyd8 Ionawr