Mouayed Bashir yn gweiddi wrth i'r heddlu ei atal - cwest
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor yn y cwest i farwolaeth dyn o Gasnewydd, fu farw ar ôl cael ei atal gan blismyn, wedi gweld lluniau camerâu cyrff heddweision.
Bu farw Mouayed Bashir, 29, yn yr ysbyty yn Chwefror 2021 ar ôl i'r heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans gael eu galw i'w gartref yn ardal Maesglas y ddinas.
Bron i dair blynedd ers marwolaeth Mr Bashir, mae cwest yng Nghasnewydd wedi dechrau gwrando ar yr hyn ddigwyddodd cyn iddo farw.
Clywodd y rheithgor bod rhieni Mr Bashir wedi ffonio'r gwasanaethau brys wedi iddo gael pwl iechyd difrifol yn ei gartref ar fore 17 Chwefror 2021.
Am tua 09:00, fe gyrhaeddodd Heddlu Gwent ei gartref cyn i barafeddygon gyrraedd yn hwyrach.
Roedd Mouayed Bashir wedi cloi ei hun yn ei ystafell wely ac fe orfododd plismyn eu hunain i'r ystafell, a phenderfynu ei atal.
Tra'r oedd ar ei ffordd i'r ysbyty fe gafodd Mr Bashir ataliad ar y galon a bu farw'n ddiweddarach.
'Gorwedd ar y llawr'
Ar ddiwrnod cynta'r cwest fe gafodd lluniau wedi eu golygu o gamerâu cyrff heddweision eu dangos i'r rheithgor.
Maen nhw'n dangos yr hyn ddigwyddodd cyn marwolaeth Mr Bashir.
Mae plismyn yn cael eu gweld yn cnocio ar ddrws ei ystafell wely.
"Yr heddlu sydd yma. Rydyn ni eisiau dy helpu di," dywedodd un plismon.
Mae sŵn sgrechfeydd a gweiddi i'w clywed y tu ôl i ddrws yr ystafell wely.
Mae tad Mouayed Bashir yn gweiddi "gan bwyll" sawl gwaith. Mae'r lluniau hefyd yn dangos ei fam yn poeni am yr hyn oedd yn digwydd.
Mae plismones yn gofyn "be' mae ef wedi ei gymryd?" gyda phlismyn yn galw am fwy o gefnogaeth cyn iddyn nhw fynd i'r ystafell wely.
Yna fe gaiff Mr Bashir ei weld yn gorwedd ar y llawr yn ei ddillad isaf mewn cyflwr cynhyrfus iawn, yn cicio ei goes i gyfeiriad heddwas.
"Stopiwch gicio, rydyn ni yma i'ch helpu chi, ceisiwch ymlacio, anadlwch," gwaeddodd un heddwas.
"Mae'n colli arni," meddai plismones, wrth i blismyn yn gofyn i'w rieni gadw draw.
Wedi iddyn nhw alw am ambiwlans cafodd Mr Bashir ei atal.
Mae'r lluniau yn dangos Mr Bashir - a oedd wedi baeddu ei wely ac yn gwaedu o anaf blaenorol i'w goes - yn parhau i weiddi ac yn ceisio torri ei hun yn rhydd.
Mae'r lluniau yna'n dangos swyddogion yn galw dros y radio am gymorth "blaenoriaeth uchel".
Mae parafeddygon yn cyrraedd ac mae modd eu clywed yn trafod pwysedd gwaed isel.
Yna mae Mr Bashir yn ymddangos fel pe bai'n tawelu.
"Dwi eisiau ei gadw ar ei ochr fel nad yw'n llyncu ei dafod," meddai un parafeddyg.
"Mae ei ocsigen wedi gostwng i 41," medd parafeddyg arall.
"Ydy, mae'n anadlu," ychwanegodd, "mae'n eitha' anghyson, mae ei guriad calon yn 89."
Wrth iddyn nhw ddisgwyl i'r ambiwlans gyrraedd fe ofynwyd unwaith eto i'w rieni a oedd eu mab wedi cymryd unrhyw gyffuriau.
Fe benderfynodd rhai aelodau o deulu Mouayed Bashir adael y cwest cyn i'r lluniau gael eu dangos.
Dros yr wythnosau nesaf mae disgwyl i'r cwest glywed tystiolaeth gan yr heddweision unigol oedd yn bresennol, ac i ystyried manylion y gofal a gafodd Mouayed Bashir yn ei gartref ac ar y ffordd i'r ysbyty.
Mae disgwyl i'r cwest bara pedair wythnos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2022