Teuluoedd yn chwilio am atebion wedi marwolaethau
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd dau ddyn a fu farw wedi digwyddiadau oedd yn cynnwys lluoedd heddlu o Gymru wedi siarad am y tro cyntaf am eu brwydr am gyfiawnder.
Bu farw Mohamud Hassan, 24, a Mouayed Bashir, 29, o fewn wythnosau i'w gilydd wedi i blismyn ddod i'w cartrefi.
Mae eu marwolaethau, a digwyddiadau eraill, wedi arwain at graffu ar ddefnydd yr heddlu o rym corfforol yn erbyn pobl ddu.
Mae heddluoedd Gwent a De Cymru yn dweud eu bod yn ymchwilio ac y bydd canfyddiadau eu hymchwiliadau yn cael eu cyhoeddi wedi i'r gwaith ddod i ben.
Mae rhaglen Wales Investigates y BBC wedi bod yn edrych ar yr hyn sy'n ymddangos fel teimladau dwfn o ddiffyg ymddiriedaeth rhwng rhai cymunedau a'r heddlu.
Wrth gofio am Mohamud Hassan dywed ei ewythr a'i fodryb, Zainab Hassan a Sulieman Mohamed, eu bod yn meddwl am blentyn "drygionus" a oedd "wastad yn dangos cariad a pharch tuag at ei deulu".
Roedd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, gan fyw yn nhŷ ei fam-gu i ddechrau ac yna wedi iddi hi farw fe fu'n rhentu ystafell mewn tŷ yn Y Rhath.
Roedd ar fin dod yn dad am y tro cyntaf yn Ionawr 2021.
'Gwaed drosto i gyd'
Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ Mr Hassan ar 8 Ionawr ac fe gafodd ei arestio ar amheuaeth o dor-heddwch.
Cafodd ei gadw am noson yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd a'i ryddhau y bore canlynol.
Dywed ei ewythr ei fod wedi synnu ei weld yn dod i'w cartref y diwrnod canlynol - a hynny wedi iddo gael ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad.
"Cyn gynted ag agorais i'r drws roeddwn i mewn sioc," meddai Mr Mohamed.
"Roedd ei wefus uchaf wedi agor. Roedd gwaed ar ei grys, a'i drowsus tracsiwt."
"Roedd ganddo gleisiau ar ei freichiau," ychwanegodd ei fodryb Zainab. "Roedd ei ddwy fraich yn lliw coch tywyll, piws.
"O gwmpas ei ganol wedi iddo godi ei siwmper, y cyfan ro'ch yn gallu ei weld oedd marciau - rhai coch, du hyd yn oed."
Dywedodd Mr Hassan wrth ei ewythr a'i fodryb mai'r heddlu oedd wedi achosi'r anafiadau.
Dywedodd fod swyddogion, pan gafodd ei arestio, wedi ei wasgu yn erbyn arwyneb caled ei gegin ac wedi "dringo ar ei ben" er mwyn rhoi ei ddwylo mewn gefynnau.
"Dwi'n meddwl iddo ddweud bod wyth plismon yn y gegin gydag e ar y pryd," meddai Zainab. "Roeddynt yn ei fwrw'n barhaus er mwyn ei gael i fan yr heddlu."
'Dioddef ffit'
Roedd un o ddau blismon sydd bellach yn wynebu ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol ar Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) am gamymddygiad honedig wrth ei arestio yng nghefn y fan gyda Mr Hassan wrth iddo deithio i orsaf yr heddlu.
Dywed yr IOPC bod camera ar gorff un o'r plismyn wedi recordio Mr Hassan yn dweud ei fod wedi cael ffit, a meigryn - roedd yn ymddangos fel pe bai'n boenus ac yn gofyn am help.
"Be wnaeth beri iddo ofyn am help ar y daith rhwng ei fflat a'r orsaf heddlu?" gofynnodd Zainab.
"Pam ei fod yn llewygu? Doedd fy nai byth yn llewygu. Doedd e ddim yn cael ffitiau: doedd e ddim yn dioddef o epilepsi."
Pan welodd ei ewythr a'i fodryb Mr Hassan y diwrnod wedi iddo gael ei ryddhau fe wnaethon nhw ei annog i fynd i'r ysbyty, ond fe wrthododd gan ddweud ei fod wedi blino a'i fod am fynd adref i gysgu.
Y noswaith y derbyniodd Zainab alwad ffôn gan ei nith a oedd yn byw drws nesaf i Mr Hassan roedd hi'n sgrechian ei enw drosodd a throsodd.
Fe gafodd hi lifft i dŷ Mr Hassan gan redeg i mewn.
'Colli pob gobaith'
"Dyna pryd welais i fod y parafeddyg yno'n barod. Roedd Mohamud yn gorwedd ar y llawr," meddai.
"Erbyn hynny roeddwn yn gallu gweld ar wyneb y parafeddyg ei bod wedi colli pob gobaith ac nad oedd dim arall yr oedd hi'n gallu ei wneud."
Fe wnaeth archwiliad post mortem diweddarach fethu â sefydlu achos marwolaeth Mr Hassan.
Wrth siarad â'r BBC, dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn methu â rhoi sylwadau ar bynciau penodol yn sgil ymchwiliad yr IOPC - ymchwiliad y maen nhw yn cydweithredu'n llawn ag ef.
Dywedodd llefarydd hefyd eu bod yn llwyr gydnabod effaith marwolaeth Mr Hassan ar ei deulu, ffrindiau a chymuned ehangach a'u bod yn cydymdeimlo â nhw.
Ymchwiliad yr IOPC
Hilary Brown yw cynrychiolydd cyfreithiol ei deulu. Gan gydnabod y gallai Mr Hassan fod wedi marw o achosion naturiol, dywed bod nifer o gwestiynau yn parhau am ei farwolaeth.
"Dwi'm yn credu'n llawn y gall unrhyw un egluro pam fod dyn ifanc ac iach wedi mynd i'r gwely yn boenus ac angen cysgu cyn gofyn am gymorth meddygol, a ddim wedi deffro fyth o'i gwsg," meddai.
Mae'r IOPC yn edrych ar sawl agwedd o'r noson y cafodd Mr Hassan ei arestio - gan gynnwys a wnaeth un swyddog ddefnyddio y grym corfforol angenrheidiol a chymesur pan gyrhaeddodd orsaf yr heddlu.
Mae ymchwiliad hefyd i ddau swyddog arall gan ganolbwyntio ar yr hyn a wnaed i wirio lles Mr Hassan tra'n y ddalfa a safon yr asesiad risg.
Fe wnaeth ei farwolaeth esgor ar sawl protest yn y brifddinas.
Wythnosau wedyn roedd yna brotestiadau yng Nghasnewydd - y tro hwn wedi marwolaeth dyn du arall.
'Tawelwch, yna panig'
Roedd teulu Mouayed Bashir wedi gadael Sudan, ac roedd ei rieni a'i ddau frawd wedi cael dinasyddiaeth Brydeinig.
Roedd ei gais ef wedi'i wrthod ar ôl iddo fod mewn trafferth gyda'r heddlu - rhywbeth a effeithiodd ar ei iechyd meddwl, medd ei deulu.
Ar 17 Chwefror, fe gafodd Mr Bashir bwl iechyd meddwl difrifol yn ei gartref yn ardal Maesglas, Casnewydd.
Fe wnaeth ei rieni ffonio 999, gan gredu ei fod angen triniaeth ysbyty. Roedden nhw'n disgwyl ambiwlans ond yn lle hynny yr heddlu gyrhaeddodd.
Dywed ei frawd, Mohannad, bod yr heddlu wedi cyrraedd gyda "grym nerthol" ac fe wnaethon nhw rwystro Mr Bashir rhag gadael ei ystafell wely.
Tair wythnos ynghynt roedd Mr Bashir wedi cael ei drywanu yn ei goes ac roedd briw mawr a dwfn gydag ef o hyd.
"Pan wnaeth yr heddlu ei atal roeddech yn gwybod eu bod wedi rhoi ei ddwylo mewn gefynnau, wedi clymu ei goesau ac roedd fy nhad yn dweud wrth swyddogion bod ganddo friw yn barod. 'Mae'n gwaedu eto'," meddai Mohannad.
"Fe wnaeth e erfyn ar yr heddlu i beidio bod yn llawdrwm ar fy mrawd."
Ond fe gafodd aelodau'r teulu eu cadw i ffwrdd o'r ystafell wely ac yna, medd Mohannad, yn ôl ei rieni fe wnaeth ymddygiad yr heddlu newid.
"O'r tu allan y cyfan roeddynt [y rhieni] yn medru ei glywed oedd symudiad. Ac yna dim ond tawelwch, ac wedyn panig," meddai Mohannad.
"Dyna pryd dechreuodd yr heddlu fynd mewn ac allan drwy'r amser. Ac yna ar eu radio, neu beth bynnag, roeddynt yn ceisio galw am yr ambiwlans."
Aed â Mr Bashir i'r ysbyty ond fe wnaeth yr ymdrechion i'w achub fethu. Mae cwest i'w farwolaeth fod i'w gynnal ym mis Gorffennaf 2022.
"Pwy a ŵyr pam ei fod wedi cael ei atal," medd Hilary Brown, a ychwanegodd fod gwybod bod eich mab wedi marw wedi iddo gael ei atal gan yr heddlu yn "rhywbeth na fydd y teulu fyth yn ei ddeall na'i oresgyn".
Dywed Heddlu Gwent bod asesiad risg yn cael ei gynnal wedi galwad 999 ac mae plismyn yn gallu cael eu hanfon i gefnogi criwiau ambiwlans.
Dywedodd llefarydd nad yw'n bosib iddynt ateb cwestiynau penodol am farwolaeth Mr Bashir tan ddiwedd ymchwiliad yr IOPC a'r cwest.
Ychwanegodd y llu eu bod yn ystyried ymddygiad eu swyddogion o ddifrif ac nad oedd yr un swyddog wedi cael rhybudd o gamymddwyn.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wastad yn ceisio ymateb y gorau gallant ar y pryd a'u bod yn flin nad oeddynt wedi gallu cyrraedd y disgwyliadau wrth ddelio â'r teulu Bashir.
'Angen bod yn dryloyw'
Mae ffigyrau'r Swyddfa Gartref yn nodi os ydych yn ddu fod plismyn yn chwe gwaith yn fwy tebygol o ddefnyddio grym yn eich erbyn na phetaech yn wyn.
Roedd Uzo Iwobi yn arfer cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion cyfartaledd. Dywedodd fod nifer o bobl ddu ifanc yn ei chael hi'n anodd ymddiried yn yr heddlu.
"Dwi'm yn 'nabod yr un bachgen neu ferch ddu ifanc na sy'n poeni wrth ddelio â phlismyn a ddylai hynna ddim bod. Ddylai hynny ddim digwydd," meddai.
"Yr unig beth all helpu yw'r cyfiawnder y mae pobl yn ei weld. Mae pobl angen tryloywder ac i bethau fod yn agored.
"Dwi'n credu os bydd pobl yn parhau i weld mwy o hynny'n digwydd fe fydd modd adfer ffydd ac ymddiriedaeth.
"Ond tan hynny mae'n mynd i fod yn galed iawn, iawn ac yn anodd."
Mae'r fargyfreithwraig Abimbola Johnson wedi ei phenodi i graffu ar gynllun newydd penaethiaid yr heddlu i ddelio gyda hil a bod yn gynhwysol.
"I fod yn deg," dywed bod yna newid cadarnhaol wedi digwydd.
"Mae yna welliant wedi bod," meddai.
"Mae yna ffordd hir i fynd ond os yw pethau'n cael eu gwneud yn y ffordd iawn ac os yw hynny'n aros mi all weddnewid plismona."
Dywedodd ei bod yn bwysig fod y cynlluniau yn cael eu harwain gan y plismyn eu hunain a ddim yn cael eu "gwthio" arnyn nhw.
Yr oedi yn annerbyniol
Dywedodd heddluoedd Gwent a De Cymru wrth y BBC eu bod yn gweithio gyda grwpiau cymunedol amrywiol a'u bod yn gweithio'n galed i gael mwy o swyddogion o gefndiroedd lleiafrif ethnig.
Dywedon nhw hefyd eu bod yn parhau i gadw llygad a gweithio i wella'r defnydd o bwerau'r heddlu er mwyn sicrhau eu bod yn addas ac yn atebol.
Dywedodd yr IOPC bod eu hymchwiliadau i farwolaethau Mouayed Bashir a Mohamud Hassan ar fin dod i ben a bod eu cyhoeddi yn ddibynnol ar drafodaethau gyda'r crwner.
Mae'r cwest i farwolaeth Mr Bashir fod i ddigwydd yng Ngorffennaf 2022 a'r un i farwolaeth Mr Hassan ym Mai 2023.
I'w teuluoedd dyw'r oedi ddim yn dderbyniol.
"Petai hyn wedi digwydd i fachgen 24 oed o liw arall yn ne Cymru - rwy'n credu y byddai cyfiawnder neu'r gwirionedd wedi ei ganfod erbyn nawr," meddai Sulieman Mohamed.
"Ond yn achos Mohamud 'dyw hynny ddim wedi digwydd."
Mae Mohannad, brawd Mouayed Bashir, yn credu'n bendant y gellid bod wedi osgoi marwolaeth ei frawd.
"Gyda llaw ar fy nghalon, dwi'n credu petai parafeddygon wedi dod ar y diwrnod, fe fyddai wedi bod yn ganlyniad gwahanol," meddai.
"Byddai Mouayed yn parhau gyda ni."
Deaths of Two Black Men: Police in the Spotlight, Wales Investigates, BBC One Wales am 19:30 nos Lun ac yna ar iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2021