Beti a'i Phobol: Pum peth o sgwrs y fenyw fusnes Nayema Khan Williams
- Cyhoeddwyd
O wreiddiau ei rhieni ym Mhacistan i gychwyn clinigau harddwch yng ngogledd Cymru, mae'r fenyw fusnes Nayema Khan Williams wedi rhannu stori ei bywyd a'i gyrfa gyda Beti George ar Beti a'i Phobol.
Dyma bum peth rydyn ni wedi ei ddysgu amdani o'r rhaglen:
1. Daeth rhieni Nayema, Mirwas Kahn a Zari Kahn, o Bacistan i Gymru lle bu ei thad yn gwneud bywoliaeth yn gwerthu bagiau.
Ar ôl gyrru i Brydain, ymgartrefodd tad Nayema yng Nghaernarfon yn y 1960au. Ydy entrepreneuriaeth yn y gwaed felly?
Meddai Nayema: "Dwi'n meddwl bod o oherwydd roedd Dad yn ddyn busnes. Pan oedd o wedi cyrraedd y wlad yma dechreuodd o werthu bagiau yn y farchnadoedd rownd gogledd Cymru ac oedd o'n llwyddiannus iawn.
"Doedd 'na ddim llawer o Fwslemiaid yng Nghaernarfon ond oedd o'n licio Gaernarfon oherwydd yr awyr iach, achos bod yn lle mor fach neis a fod pobl Cymru yn lyfli. A dyna pam 'nath o setlo yng Nghaernarfon allan o bob lle.
"Ar y farchnad oedd o ac yn symud o un tref i'r llall - Caernarfon, Pwllheli, Sir Fôn - oedd o'n mynd rownd bob man.
"'Nath Mam ddod ychydig wedyn ar ôl iddo fo setlo. Adeg honno oedd y briodas wedi ei threfnu ond oeddan nhw'n hapus."
Iaith yr aelwyd
Mae Nayema yn un o naw o blant a chafodd hi addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, fel mae'n esbonio: "Oedden ni'n siarad Pushto efo'n rhieni a ni fel chwiorydd a brodyr yn siarad Cymraeg. Oherwydd oedd chwiorydd hynaf fi 'di mynd i'r ysgol yng Nghaernarfon, 'natho ni siarad Cymraeg efo'n gilydd.
"Oedd Dad yn deall lot o Gymraeg ac oedd Mam yn deall Cymraeg."
2. Tad Nayema, Mirwas Kahn, sefydlodd y Mosg ym Mangor.
Islam oedd crefydd y teulu, fel mae Nayema yn esbonio: "Pan ddaeth Dad yma doedd dim mosg a 'nath o agor mosg ym Mangor a fan 'na oeddan ni'n mynd i weddïo a darllen y Koran. Oeddan ni'n mynd ar ôl ysgol rhwng pedwar a saith o'r gloch y nos, dydd Llun i ddydd Iau.
"Dwi'n gallu darllen Arabeg achos mae'r Koran yn yr iaith Arabeg, darllen o gyd fatha Beibl.
"Oedd Dad isho ni i ddarllen o yn yr iaith yna.
"Oedd 'na dipyn o blant a oedolion yn mynd i'r mosg ym Mangor ac mae'r nifer wedi mynd yn fwy."
3. Ar ôl hyfforddi fel nyrs mi wnaeth Nayema fentro i'r byd busnes harddwch gyda'i chwmni Renovo Aesethics ac erbyn hyn mae ganddi gleientiaid sy'n dod mor bell â Dubai a Llundain am driniaethau fel Botox a derma fillers.
Meddai: "Dwi erioed 'di bod mewn i pethau fel harddwch a darllen magazines efo petheu fel Botox ynddo fo.
"'Nes i weld erthygl efo nyrs yn injecto Botox ac o'n i fatha, 'dwi'n nyrs, 'swn i'n gallu neud o'.
"'Nath y gŵr ffeindio cwrs i fi fynd ar so aethon ni am weekend, o'n i isho neud rhywbeth gwahanol. A 'nes i ddechrau busnes fi mewn portacabin ac advertisioar Facebook. O'n i'n cael cwsmeriaid yn slow ond yn y diwedd 'nath o just chwythu fyny.
"Doedd 'na neb rownd ffordd yma yn neud dim byd fel 'na a fi oedd un o'r nyrsys cynta' o gwmpas yr ardal. O'n i'n cynnig y pethau newydd 'ma - pethau mwy advanced ac yn mynd ar llwyth o gyrsiau. Oedd o'n exciting."
Rhoi'r gorau i nyrsio
Penderfynodd Nayema roi'r gorau i nyrsio ar ôl cyfnod mamolaeth ar ddiwedd 2017: "'Nath y ferch gael ei geni yn 2017 a tra o'n i off mamolaeth oedd busnes fi'n tyfu a tyfu. O'n i'n methu neud y ddau beth a bod yn fam.
"Gweithio yn ysbyty, trio cadw busnes fi i fynd - oedd rhaid i un peth fynd ac o'n i'n teimlo mae path fi'n mynd ochr busnes fy hun, dyna dwi isho neud, dyna dwi'n mwynhau mwya' a 'nes i adael yr NHS yn 2018 ac mae wedi bod yn grêt."
Erbyn hyn mae Nayema yn rhannu ei hamser rhwng ei chlinigau ym Mae Colwyn ac yn Y Felinheli.
4. Mae Nayema'n credu'n gryf fod angen i fwy o ferched fentro mewn busnes.
Meddai: "Be' dwi'n dweud wrth merched ifanc a dynion rŵan - os oes gen ti rhyw blan a ti isho dechrau busnes dy hun, dyro fo ar bapur, siarad efo pobl a jyst gwna fo achos does gen ti ddim byd i golli.
"Bydda'n hyderus a gwna fo. Mae pawb yn cael sialensau mewn busnes a ti'n gorfod dod drosto fo. Mae'n grêt a dwi wrth fy modd."
5. Mae cysylltiad agos rhwng triniaethau harddwch a iechyd meddwl, yn ôl Nayema.
Meddai: "Dwi fatha councillor, ffrind, agony aunt.
"Mae pobl yn agor allan i chi - mae'r pethau dwi'n clywed yn anhygoel. Mae pobl yn trystio chi, yn eistedd yna a dweud life story nhw...
"Mae iechyd meddwl yn dod mewn i hyn - os ti ddim yn teimlo'n hyderus yn sut ti'n edrych fedri di neud rhywbeth amdano fo. Os mae'n rhoi ychydig bach o hyder i ti mae'n grêt, mae'n neud bywyd ti yn haws a ti ddim yn poeni am sut ti'n edrych.
"Mae edrych yn dda mor bwysig i rai bobl 'neith nhw fynd heb un peth i allu gael Botox neu fillers nhw. Peidio neud eu gwallt neu gwinedd er mwyn prioritiso Botox neu fillers.
Cleientiaid
"Maen nhw'n dod o Bwllheli, Porthmadog, Sir Fôn, Bae Colwyn, Gaer. Dwi 'di cael cleient o Dubai cyn heddiw ac o Lundain - o bob man!
"'Dan ni'n byw mewn byd lle mae edrychiad yn bwysig i lot o bobl - mae'n rhoi hyder iddyn nhw.
"Dwi'n delio efo lot o bobl sy'n mynd trwy hard time a dwi'n teimlo bod fi'n helpu pobl mewn ffordd arall rŵan."