Beti a'i Phobol: Chwe phwynt o sgwrs y gwleidydd Liz Saville Roberts
- Cyhoeddwyd
O fagwraeth yn ne-ddwyrain Lloegr i fod yn y ferch gyntaf yn hanes Plaid Cymru i ennill sedd yn Senedd San Steffan, mae'r Aelod Seneddol Liz Saville Roberts wedi rhannu stori ei bywyd a'i gyrfa gyda Beti George ar Beti a'i Phobol.
Dyma chwe pheth rydyn ni wedi ei ddysgu amdani o'r rhaglen:
1. Y Mabinogi wnaeth ddenu Liz at Gymru a'r iaith Gymraeg
Meddai Liz: "Pan o'n i yn y chweched oedd gofyn i fi ysgrifennu traethawd estynedig ar bwnc o'n newis i ac o'n i wedi dod o hyd i gyhoeddiad yn disgrifio'r Mabinogi gan WJ Gruffydd yn llyfrgell gyhoeddus Eltham ac wedi gwirioni am hynny."
Gadawodd Liz Blackheath High School yn Eltham, Llundain yn 16 oed i wneud Bagloriaeth Rhyngwladol yn lle gwneud Lefel A. Ar gyfer y Bagloriaeth roedd gofyn ysgrifennu traethawd estynedig ac fe ysgrifennodd Liz am y Mabinogi.
Roedd hi wedi dod ar draws nofel i bobl ifanc gan yr awdur Alan Garner, sef The Owl Service sy'n ail-ddychmygu hanes Math mab Mathonwy, Blodeuwedd a Lleu Llaw Gyffes yn yr oes fodern ac sydd wedi ei lleoli rhwng Dinas Mawddwy a Bwlch.
Ar ôl gorffen yn yr ysgol roedd ganddi ddewis - mynd i un o'r colegau celf yn Llundain neu mynd i'r adran Gymraeg yn Aberystwyth o dan arweiniad Bobi Jones. Oherwydd ei diddordeb yn y Mabinogi dewisodd Liz fynd i Aberystwyth i astudio Astudiaethau Celtaidd - Cymraeg a Gwyddeleg.
Bu yno am bum mlynedd, gan ddysgu Cymraeg o'r cychwyn cyntaf.
2. Roedd gan Liz ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ers ei harddegau
Meddai: "Mae fy nhad yn geidwadwr a rwy'n cofio bod ni wedi ffraeo o'r cychwyn cynta' ynglŷn â hyn. Mae o wedi mireinio 'ngallu i i gael ateb 'yes but' i bron pob dim a dwi'n ddiolchgar iawn iddo am hynny."
Aeth Liz ymlaen i weithredu gyda CND yn Llundain ac hefyd pan yn fyfyriwr yn Aberystwyth yn yr 80au, bu'n cymryd rhan mewn protestiadau Cymdeithas yr Iaith.
Meddai: "Wedyn es i i fewn i newyddiaduraeth, mae'r diddordeb mewn cyfiawnder cymdeithasol yn dod o hynny.
"Ond yn wreiddiol oll rhaid i fi ddiolch i Penri Jones, awdur Jabas, oedd yn athro yng ngholeg Meirion Dwyfor lle oeddwn i'n gweithio - fo ddaru annog fi i fynd i fewn fel cynrychiolydd undeb yn y coleg efo undeb athrawon UCAC ac wedyn i fynd yn gynghorydd sir ym Morfa Nefyn yn 2004. O fan 'na mae rhywun yn cael ei ddenu o un peth i'r llall."
3. Ei chyfnither yw'r artist cyfoes enwog Jenny Saville
Er fod Liz wedi dewis mynd i Aberystwyth yn hytrach na mynd i goleg celf yn Llundain, mae ganddi ddiddordeb mewn celf ac mae ei chyfnither yn artist cyfoes enwog, sef Jenny Saville.
Meddai Liz: "Mae hi'n anhygoel. Mae (ei gwaith) yn gyrru fy nhad yn benwan - y siapiau cyrff menywod, cyrff sylweddol rhai ohonyn nhw. Brawd fy nhad, Paul Saville yn Rhydychen (yw tad Jenny) - oedd o'n athro celf hefyd. Yn Rhydychen mae Jenny yn bennaf gyda'i phlant rŵan.
"Y ffordd mae hi'n pontio y traddodiad celfyddyd cain â'r negeseuon 21ain ganrif am hawl a haeddiant merched i'w cyrff eu hunain yn drawiadol iawn."
4. Mae cefnogaeth teulu a staff yn hollbwysig
Meddai Liz: "Mae Dewi (y gŵr) wedi cefnogi fi ar hyd y daith. Mae'n bwysig bod pobl yn deall faint o bwysau sy' ar deuluoedd gwleidyddion - mae mesurau diogelwch ac ati. Ac mae'r un peth yn wir am y staff.
"Fysen i ddim yn gallu gweithredu heb y bobl tu ôl i mi, mae'n rhaid bod o wedi bod yn anodd i'r genod. Mae'r genod, Lowri a Lisa, yn efeilliaid ac ar adegau mae pob rhiant yn codi cywilydd ar eu plant ond dyw nhw ddim erioed wedi fy meirniadu fi na cwestiynu beth dwi'n 'neud a dwi'n ddiolchgar iawn i nhw am hynny."
5. Mae bywyd gwleidydd yn gallu bod yn her i aelodau seneddol benywaidd
Roedd yr Aelod Seneddol Jo Cox, a gafodd ei llofruddio yn 2016 wedi cychwyn yn San Steffan yn yr un flwyddyn â Liz, sef 2015.
Meddai Liz: "Roedd ei marwolaeth hi wedi taro fel ergyd i nifer ohonon ni. Mae o'n bwysig i ni fel gwleidyddion i fod yn ddarbodus efo'r ieithwedd 'da ni'n defnyddio i feirniadu ein gilydd.
"Yn sicr o ran y menywod - dwi'n cofio cyn etholiad cyffredinol 2019 nifer o fenywod wedi penderfynu bod yr awyrgylch wedi troi mor wenwynig bod nhw a'u teuluoedd yn teimlo bod o ddim yn ddoeth iddyn nhw barhau.
"Dwi isho troedio'n ofalus - ydy o'n waeth i fenywod na dynion? Dwi'n amau ar y cyfryngau cymdeithasol bod hi'n waeth - mae'r parodrwydd i feirniadu menywod ar sail eu rhyw nhw a bygwth trais yn amlwg yn rhywbeth sy' wedi ei dargedu at fenywod yn fwy.
"Mae natur y sgwrs cyhoeddus ers 2016 ers y refferendwm ar Brexit wedi mynd yn fwy ymrannol - os nad oes gyda ni gynrychiolaeth o ddynion a menywod sy'n fwy neu lai hanner a hanner ac sy' felly'n adlewyrchu faint o fenywod a dynion sy', mae 'na rywbeth o'i le efo'n democratiaeth cynrychioladol.
"Mae'n rhaid i ni ymlwybro i gael hynny."
6. Gwaith yn helpu unigolion yw un o'r pethau mae hi mwyaf balch ohono
Meddai: "Pan fydd rhywun wedi gweld fod 'na unigolyn yn cael ei drin neu ei thrin yn wael gan yr awdurdodau a chi'n gallu camu mewn a gwneud gwahaniaeth i'r person yna, hynna fydda'i yn cofio am byth.
"Dwi'n cofio am un teulu pan o'n i'n newydd fel AS ac oedd y fam yn wael; doedd hi ddim yn mynd i fyw fawr heibio'r Nadolig ac o'n i wedi cael arddeall fod y plant ddim yn mynd i gael ymweld â hi yn yr ysbyty ar ddydd Nadolig.
"Gyda'r cynghorwyr lleol mi ddaru ni roi pwysau ar wasanaethau cymdeithasol, ar y bwrdd iechyd ac ar fferyllwyr i alluogi'r fam yna i dreulio'i Nadolig olaf hi gyda'i phlant. A dwi'n falch bod ni wedi gallu gwneud hynny."