Annibyniaeth i Gymru yn 'opsiwn hyfyw', medd comisiwn

  • Cyhoeddwyd
Rali YesCymru, Hydref 2022Ffynhonnell y llun, Lowri Cooper
Disgrifiad o’r llun,

Mae annibyniaeth i Gymru yn un o'r opsiynau sy'n cael eu cynnig ar gyfer y dyfodol gan y comisiwn

Mae annibyniaeth yn "opsiwn hyfyw" yn ôl comisiwn sydd wedi bod yn ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Ond dywedodd yr adroddiad y byddai Cymru annibynnol yn wynebu "dewisiadau anodd yn y tymor byr i ganolig" a "her ariannol sylweddol".

Mae'r comisiwn hefyd o'r farn bod atgyfnerthu'r setliad datganoli presennol a chreu strwythur ffederal ar gyfer y Deyrnas Unedig hefyd yn opsiynau posib.

Ac mae'n galw am drosglwyddo rhai pwerau ar unwaith o San Steffan i Gaerdydd, gan gynnwys seilwaith y rheilffyrdd, a phlismona a chyfiawnder.

'Haeddu ystyriaeth ofalus'

Ymatebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Rwy'n croesawu'r adroddiad, sy'n dilyn dwy flynedd o waith. Rwyf am ddiolch i'r Comisiwn a phawb o bob rhan o Gymru a gyfrannodd at y broses.

"Mae'r adroddiad terfynol yn foment bwysig yn y ddadl ar daith gyfansoddiadol Cymru.

"Mae'n ddarn difrifol o waith sy'n haeddu ystyriaeth ofalus, a bydd Llywodraeth Cymru yn ei adolygu'n fanwl."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Laura McAllister, un o gyd-gadeiryddion y comisiwn, nad yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd ym Mae Caerdydd yn gyfrifol am feysydd polisi fel addysg, iechyd a'r amgylchedd.

Ond mae meysydd eraill, gan gynnwys materion rhyngwladol, y rhan fwyaf o bolisi treth a'r rhan fwyaf o fudd-daliadau, yn dal i fod yn nwylo gwleidyddion yn Llundain.

Cafodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2021.

Cyn-archesgob Caergaint Dr Rowan Williams a'r Athro Laura McAllister yw cyd-gadeiryddion y comisiwn.

Mewn adroddiad interim y llynedd daeth y comisiwn i'r casgliad nad oedd y sefyllfa bresennol yn gynaliadwy.

'Yr holl opsiynau'n hyfyw'

Yn ei adroddiad terfynol, sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Iau, dydy'r comisiwn ddim yn datgan ffafriaeth ar gyfer unrhyw un opsiwn cyfansoddiadol posib.

Yn hytrach, mae'n dod i'r casgliad bod tri opsiwn "hyfyw", a bod y llwybr y mae'r wlad yn ei ddilyn "yn ddewis i ddinasyddion a'u cynrychiolwyr etholedig".

"Mae'r penderfyniad ar yr hyn sydd orau i Gymru yn dibynnu ar werthoedd a dewisiadau," meddai'r adroddiad.

"Po fwyaf yw graddfa'r newid, y mwyaf yw'r cyfleoedd a'r risgiau.

"Rydym yn dod i'r casgliad bod yr holl opsiynau'n hyfyw, bod i bob un ei gryfderau a'i wendidau, a bod pob un yn cyflwyno cyfleoedd a risgiau," medd yr adroddiad.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Rali annibyniaeth yng Nghaerdydd

Ar annibyniaeth yn benodol, mae'r comisiwn yn dweud: "Byddai'r diffyg [yn ei chyllideb] a etifeddwyd yn golygu y byddai Cymru annibynnol yn wynebu dewisiadau anodd yn y tymor byr i ganolig."

Ond mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud: "Nid yw hyn yn golygu na allai Cymru annibynnol fod yn llwyddiannus yn yr hirdymor, o ystyried y potensial i osod polisi economaidd a chyllidol sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer Cymru.

"Ond gallai manteision hirdymor fod yn bell iawn i ffwrdd - cymerodd fwy na 50 mlynedd ac aelodaeth o'r UE i Iwerddon dyfu ei heconomi i gyfateb i'r DU."

Dyma'r tri llwybr posib mae'r Comisiwn yn eu hystyried i fod yn opsiynau "hyfyw" ar gyfer dyfodol llywodraethiant Cymru:

1. Atgyfnerthu datganoli

Byddai'r opsiwn yma'n cryfhau'r setliad presennol ac ym marn y comisiwn dylid diwygio Tŷ'r Arglwyddi i roi llais ffurfiol i'r gwledydd datganoledig yn San Steffan. Yn ôl y comisiwn, dyma'r opsiwn rhwyddaf o ran cost, sefydlogrwydd economaidd a chapasiti, ond "mae risg y byddai perfformiad economaidd gwael, incymau isel a thlodi yn parhau".

2. Cymru mewn DU ffederal

Mewn strwythur ffederal byddai pob un o genhedloedd y DU yn cael eu trin yn gyfartal. Mae'r opsiwn yma'n cynnig "ffordd ganol" yn ôl y comisiwn, ond mae'n debyg taw dyma fyddai'r opsiwn mwyaf cymhleth hefyd. Byddai'n ddibynnol ar gefnogaeth rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac ar hyn o bryd does dim tystiolaeth bod digon o hynny'n bodoli, medd y Comisiwn.

3. Annibyniaeth

Yn ôl y Comisiwn dyma'r opsiwn "mwyaf ansicr o bell ffordd". Gallai annibyniaeth "gynnig potensial am newid cadarnhaol hirdymor drwy gael y pwerau i wella'r economi yn sylweddol," medd yr adroddiad, "ond mae'r rhan fwyaf o sylwebyddion yn cytuno y gallai Cymru fod ar ei cholled yn sylweddol yn y tymor byr i ganolig".

'Angen diogelu datganoli'

Yn y cyfamser mae'r comisiwn yn dweud bod angen cymryd rhai camau ar unwaith i "ddiogelu" datganoli.

Mae'r camau yma'n cynnwys:

  • cyflwyno deddfwriaeth i atal Senedd San Steffan rhag deddfu ar faterion sydd wedi eu datganoli heb gytundeb Senedd;

  • deddf newydd i "gryfhau'r berthynas" rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru;

  • dileu'r cyfyngiadau ar gyllid Llywodraeth Cymru gan gynnwys ei phwerau benthyca;

  • datganoli pwerau dros gyfiawnder, plismona a seilwaith y rheilffyrdd tra hefyd yn rhoi mwy o lais i senedd Cymru ar ddarlledu.

Yn ystod ei waith, daeth y comisiwn i'r casgliad bod y cyhoedd yn cefnogi datganoli ar y cyfan ac "ychydig o dystiolaeth a gawsom am yr hyn a allai ddisodli datganoli".

Dywedodd Laura McAllister: "Drwy ein gwaith, daeth yn amlwg nad yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy ac nad yw anghenion pobl Cymru yn cael eu diwallu.

"Os ydyn ni am ddiogelu datganoli yng Nghymru, hyd yn oed fel y mae ar hyn o bryd, rhaid i'r newidiadau hyn ddigwydd ar frys.

"Yna gallwn edrych ymhellach i'r dyfodol ar y tri llwybr posibl hyn ar gyfer dyfodol Cymru, pob un ohonynt â'i heriau a'i gyfleoedd amlwg ei hun.

"Mae'n hanfodol bod yr adroddiad hwn yn fodd o ysgogi newid ar gyfer pobl Cymru yn y dyfodol, ac rydyn ni am i'r sgwrs barhau.

"Rydyn ni wedi cychwyn yr hyn fydd, gobeithio, yn ddeialog hyd yn oed yn ehangach, a fydd yn cynnwys pobl yn y broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Does dim rhaid i ni fod yn annibynnol i fod yn wlad, yn ôl y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd y Ceidwadwr Darren Millar ei fod yn "tynnu sylw oddi ar y materion sydd o bwys i bobl Cymru. Byddai'r arian sy'n cael ei wario ar yr adroddiad hwn wedi cael ei wario'n well ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd dan bwysau mawr."

'Gorfod newid'

Ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones fod "pethau yn gorfod newid".

"Dwi ddim yn gefnogol o'r statws quo ac mae pethau yn gorfod newid - ac mae'n hollbwysig bod gennym ni opsiynau i feddwl amdanyn nhw a dyna mae'r adroddiad yma yn ei wneud.

"Does dim rhaid i ni fod yn annibynnol i fod yn Gymry, does dim rhaid i ni fod yn annibynnol i fod yn wlad, i fod yn genedl. Mae 'na ffyrdd eraill i wneud hynny.

"Ma' fe'n bwysig nawr i'r pleidiau edrych ar yr adroddiad yma ond ma' fe'n amlwg dyw annibyniaeth ddim hanner mor rhwydd ac mae rhai wedi dadlau ac mae 'na gost ariannol os ni'n mynd lawr y llwybr hynny."

'Gwobrau'

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, "fel rhywun sydd bob amser wedi credu yn ein gallu i gymryd yr holl ysgogiadau newid i'n dwylo, mae cael adroddiad o'r maint hwn yn nodi'n ddiamwys fod annibyniaeth yn opsiwn gwirioneddol i ni fel modd o wireddu ein potensial yn arwyddocaol iawn o ran y ddadl gyfansoddiadol yng Nghymru.

"Tra y byddwn ni ym Mhlaid Cymru bob amser yn cofleidio'r gallu i gymryd mwy o bwerau, mae'r adroddiad hwn yn rhoi darlun clir na fydd datganoli gwell - ac yn sicr nid ffederaliaeth - yn rhoi'r atebion hirdymor sydd eu hangen arnom mewn gwirionedd.

"Er bod ceisio'r llwybr hwnnw i annibyniaeth yn gynhenid â heriau, rydym yn cydbwyso hynny â'r hyn y mae'r adroddiad yn ei ddweud wrthym am y gwobrau".