Welcome to Welsh: Hiwmor a'r iaith wedi newid ers '84

  • Cyhoeddwyd
Heini GruffuddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Heini Gruffudd gyda'r ddau fersiwn o'r llyfr - un 1984 ac argraffiad 2024

Mae'n llyfr sydd wedi defnyddio hiwmor a chartwnau i helpu nifer fawr o bobl i ddysgu Cymraeg, ond mae'r byd wedi newid ers 1984.

Dyna pam mae Heini Gruffudd wedi creu fersiwn newydd o'i lyfr Welcome to Welsh, sydd wedi gwerthu dros 70,000 ers ei gyhoeddi gan Y Lolfa 40 mlynedd yn ôl, er mwyn ei wneud yn addas i ddysgwyr heddiw.

Yma mae'r awdur yn cofio'n ôl i sut ddaeth y fersiwn gyntaf i'r fei, a sut mae gramadeg, dylunio, defnydd o'r iaith a hiwmor derbyniol wedi newid dros y blynyddoedd.

Fyddwn i ddim wedi dychmygu yn 1984 y byddai Welcome to Welsh wedi gwerthu'n gyson bob blwyddyn ers hynny am ddeugain mlynedd. Mae'n arwydd bod yr awydd i ddysgu Cymraeg mor fyw ag erioed.

Ro'n i'n dysgu ar gyrsiau Wlpan yn Abertawe ar y pryd. Roedd Nigel Jenkins y bardd, Delyth Evans y gantores, a John Mahoney y pêl-droediwr ymysg y dysgwyr brwd. Gyda nhw hefyd roedd Jeff Roberts, adeiladwr lleol a newidiodd iaith ei deulu i'r Gymraeg.

Y pryd hwnnw roedd dysgwyr yn fodlon dod i'r Wlpan am bum noson yr wythnos.

Un peth ro'n i'n ei wneud ar gyfer y gwersi oedd paratoi storïau cartŵn yn sail i gychwyn sgwrs. Ces i wedyn gais gan y cylchgrawn i ddysgwyr, Siop Siarad, i baratoi cyfres o wersi. Ro'n i'n gwneud tipyn o ffotograffiaeth, yn tynnu lluniau, datblygu'r ffilm ac argraffu lluniau du a gwyn, a ches i'r syniad o greu storïau lluniau ar gyfer y gyfres, gyda phwyslais ar hiwmor.

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Roedd defnyddio storïau lluniau hwyliog yn ffordd newydd o ddysgu yn 1984

Ces i help nifer o ffrindiau yn Abertawe i fod yn actorion. Yn eu mysg roedd y cyn farnwr Syr Roderick Evans a'i wraig Kathryn.

Roedd Roderick yn gyfaill ysgol i mi. Dysgodd y Gymraeg yn yr ysgol, ac o'r cychwyn Cymraeg oedd iaith ei deulu a'i deulu ehangach, a rhyw ddwsin o'i wyrion.

'Dw i' neu 'yr wyf'?

Hedodd y blynyddoedd. Des i'n ymwybodol ers tro bod ffurfiau berfau Welcome to Welsh wedi mynd yn hen ffasiwn. Problem y Gymraeg yw'r berfau cyffredin: Yr wyf yn mynd, Rwy'n mynd, Rydw i'n mynd, Dw i'n mynd, Wi'n mynd... Beth yn y byd dylen ni ei ddysgu i ddysgwyr?

Defnyddiodd Welcome 1984 'rydw i'n mynd' yn brif ffurf, ond defnyddiodd hefyd 'rwy'n' am fod y ffurf yna'n ddigon cyffredin. Mae'r Welcome newydd yn defnyddio'r ffurfiau berfol sydd wedi cael eu derbyn yn gyffredin yn y rhan fwyaf o gyrsiau i oedolion erbyn hyn - 'Dw i'.

Yna'r negyddol: 'nac ydw, dydw i ddim' oedd yn y llyfrau ysgol yn 1984. Fe ddefnyddiodd Welcome 'na' yn lle 'nac ydw' i symleiddio ychydig.

Roedd yr un math o beth yn wir am ffurfiau berfol eraill. 'Roeddwn i' oedd yn Welcome 1984. Erbyn hyn mae 'ro'n i' yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin, a dyna sydd yn y Welcome newydd.

Rwy'n cofio i un adolygydd ymosod yn ffyrnig ar y defnydd o 'gyda fi' a ''da fi' yn Welcome. Roedd e am ddefnyddio 'gen i'. Erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o gyrsiau'n defnyddio 'gyda fi'.

Pwysigrwydd hiwmor

Un o'r pethau wnaeth Welcome to Welsh yn boblogaidd oedd hiwmor y storïau. Roedd gwerthu brwshys, mynd i'r gwely, yfed gormod, ffansio coesau dynion mewn gêm rygbi, a chwarae darts yn cynnig hiwmor.

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa

Daeth un cyn-ddysgwr, sy'n siarad Cymraeg yn rhugl, ata i'r dydd o'r blaen, a chyflwyno'i hun gyda'r geiriau "rydw i'n gwerthu brwshys". Mae pobl yn cofio trwy hiwmor.

Mae hiwmor wedi newid ar hyd y blynyddoedd, wrth gwrs. Mae'r storïau yn y Welcome newydd ychydig yn fwy parchus. Gofynnodd y Lolfa (o bawb?!) am lai o yfed yn y storïau.

Daeth cyfle da i gael hiwmor yn y llyfr newydd wrth i Osian Roberts, y cartwnydd, greu cymeriadau llawn cymeriad, a'r dylunydd, Richard Huw Pritchard, yn helpu trwy greu tudalennau bywiog.

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa/Osian Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Cartŵn o'r fersiwn newydd o'r llyfr

Roedd rhaid diweddaru rhai storïau. Yn lle gwerthu brwshys, gwerthu ffenestri. Mae storïau eraill am weithio shifft nos, colli'r trên, mynd allan am fwyd, trefnu gwyliau, priodi a disgwyl babi, trwsio car a siopa'n aflwyddiannus yn rhoi cyfle am droeon trwstan.

Fydda i ddim o gwmpas mewn deugain mlynedd. Gobeithio, fodd bynnag, y bydd digon o ddysgwyr yn mwynhau chwerthin wrth ddysgu'r Gymraeg pan ddaw 2064.

Neu a fydd pawb yn siarad Cymraeg erbyn hynny a dim angen y llyfr?

Pynciau cysylltiedig