Gobaith sêr drama Netflix o actio yng Nghymru eto

  • Cyhoeddwyd
Dino Fetscher a Laurie KynastonFfynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Dino Fetscher a Laurie Kynaston - y naill yn hanu o Gaerdydd a'r llall o ogledd Powys

Mae dau o sêr y gyfres ddrama lwyddiannus Fool Me Once wedi rhannu eu gobeithion o berfformio yng Nghymru unwaith yn rhagor.

O Netflix i Disney+, mae'r actorion Cymreig Dino Fetscher a Laurie Kynaston wedi ennill tipyn o sylw yn rhyngwladol yn ddiweddar.

Ac er eu llwyddiant a'r sylw o dramor, mae'r ddau yn dweud eu bod yn breuddwydio am ddychwelyd i Gymru er mwyn actio a pherfformio yn eu milltir sgwâr.

"Mae fy nghalon wastad yng Nghymru," meddai Dino, sydd wedi serennu mewn dramâu fel Years & Years a Gentleman Jack.

Mae Laurie Kynaston, sy'n 29 oed ac o Bowys, yn chwarae rôl Corey Rudzinski yn y ddrama ddirgelwch, sydd bellach wedi cael ei gwylio gan filiynau o bobl ar draws y byd.

Ffynhonnell y llun, Laurie Kynaston
Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal ag ymddangos mewn cyfresi teledu, mae Laurie Kynaston wedi cael clod am ei waith theatr

"Bues i mewn cadeirlan yn Gran Canaria a daeth y cwpl Sbaeneg 'ma draw i siarad â fi yng nghanol y gadeirlan er mwyn llongyfarch fi ar y gyfres," dywedodd.

Mae'r cynhyrchiad wedi rhoi'r cyfle iddo gydweithio gyda rhai o fawrion y byd drama, fel Joanna Lumley a Michelle Keegan.

"Roedden nhw i gyd y bobl fwyaf arferol, hyfryd, proffesiynol, hynod dalentog."

Llwyddiant y gyfres 'yn wallgof'

Tra bod cymeriad Laurie yn datgelu manylion cudd yn y ddrama, mae Dino Fetscher o Gaerdydd yn chwarae rôl yr heddwas Marty McGregor sy'n ceisio cael cyfiawnder.

"Mae maint llwyddiant y ddrama wedi bod yn wallgof," dywedodd.

"Roedden ni ar Times Square a ni 'di bod dros arosfannau bysiau yn Llundain i gyd. Mae wedi bod yn anhygoel."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Y Fonesig Joanna Lumley a Michelle Keegan sy'n portreadu prif gymeriadau'r gyfres Fool Me Once

Er y cyffro mawr sy'n dod law yn llaw gyda'r fath gynyrchiadau, mae Dino a Laurie yn trafod sîn y ddrama yng Nghymru gyda gwên fawr ar eu wynebau.

"Mae gan Theatr y Sherman le sbesial yn fy nghalon," meddai Dino, a gafodd ei fagu yn y brifddinas.

"Dyma lle dechreuodd y cyfan, lle dyfodd fy angerdd, lle datblygodd ymdeimlad o chwarae mewn gwirionedd, a lle daeth fy nyhead amdano mewn gwirionedd yn amlwg.

"Byddwn i wrth fy modd yn gwneud cyd-gynhyrchiad gyda nhw un diwrnod oherwydd byddai wir yn foment o gwblhau'r cylch i mi."

Ffynhonnell y llun, Dino Fetscher
Disgrifiad o’r llun,

Dino Fetscher gyda'i dad, Pedro, yng Nghaerdydd

Mae Dino yn cyfeirio at y sgriptiwr a'r cynhyrchydd o Abertawe, Russell T Davies fel un o'r bobl sydd wedi ei gynorthwyo i sicrhau gwaith yn y byd teledu.

"Mae e wir fel mentor i mi ac yn ffrind. Mae gen i gymaint o barch tuag ato."

'Mor hyfryd i fod yn ôl a siarad 'chydig o Gymraeg'

Yn y gogledd y tyfodd yr angerdd at ddrama yn achos Laurie, sy'n gweld Theatr Clwyd fel un o lefydd pwysicaf ei ieuenctid.

"Mae grwpiau ieuenctid yn cau, ac mae theatrau ieuenctid yn llawer llai nag oedden nhw," meddai.

"Dwi'n meddwl eu bod nhw mor bwysig i wneud i bobl deimlo nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain, a hefyd i feithrin eu dawn gynyddol."

Ffynhonnell y llun, John S Turner/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Fe berfformiodd Laurie Kynaston yn y ddrama The Winslow Boy yn Theatr Clwyd ar ddechrau ei yrfa fel actor

I Laurie, a oedd yn siarad Cymraeg yn yr ysgol yn Llanfyllin, mae'r iaith yn agos at ei galon.

"Nes i dreulio tipyn o amser yng Nghymru dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd, ac roedd mor hyfryd i fod yn ôl a siarad 'chydig o Gymraeg a cheisio ei defnyddio eto.

"Dyw fy Nghymraeg i ddim mor dda ar y funud ond dwi ddim yn credu fyddai hi'n cymryd gormod o amser i gael hi yn ôl.

"Mi fyddai gweithio ar rywbeth yng Nghymru yn hyfryd."

Pynciau cysylltiedig