Drama Gymraeg gyntaf, Dal y Mellt, ar gael ar Netflix

  • Cyhoeddwyd
Dal y MelltFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

'Rough Cut' yw enw'r gyfres ar Netfilx, gafodd ei gweld yn wreiddiol fel Dal y Mellt ar S4C

"Mae 'na chwant allan yna am fwy a mwy o ddrama, a fi'n credu ein bod ni'n cynnig rhywbeth hollol unigryw efo'n dramâu ni."

Dyna eiriau Gwenllian Gravelle, Pennaeth Sgriptio S4C, wrth i gyfres ddrama Gymreig Dal y Mellt gael ei rhyddhau ar wasanaeth ffrydio Netflix.

Ddydd Llun fydd y tro cyntaf i gynhyrchiad drwy'r iaith Gymraeg yn unig gael ei dangos ar y llwyfan rhyngwladol.

Mae'n garreg filltir yn ôl Gwenllian Gravelle, sy'n gyfrifol am raglenni drama'r sianel.

"Mae'n gyffrous i S4C, mae'n gyffrous i'r diwydiant, ac mae'n gyffrous i'r dyfodol hefyd," meddai.

Cyfres chwe phennod yw Dal y Mellt, wedi'i haddasu o nofel wreiddiol Iwan 'Iwcs' Roberts.

Mae'r awdur o Drawsfynydd yn gyd-gynhyrchydd hefyd wrth ochr Llyr Morus ac Huw Chiswell.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Netflix UK & Ireland

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Netflix UK & Ireland
Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd cyfres Dal y Mellt ei darlledu ar S4C y llynedd a bydd yn ymddangos ar Netflix ddydd Llun

Dyma ddrama drosedd gydag ychydig o hiwmor ynddi fydd nawr yn ceisio gwerthu'i hapêl i'r 200 miliwn a mwy o danysgrifwyr gwasanaeth Netflix.

"Mae hyn yn golygu y bydd mwy o amlygrwydd i'n dramau ni yn y dyfodol," yn ôl Gwenllian Gravelle, sy'n gobeithio gweld mwy o gytundebau tebyg yn y dyfodol.

"Mae'n golygu falle mwy o gyd gynyrchiadau gyda'r darlledwyr mawr a'r streamers mawr... sy'n golygu mwy o arian i'n cyllidebau ni."

'Ar drothwy cyfnod euraidd'

Gydag S4C yn dathlu deugain mlynedd ers sefydlu'r sianel, mae ffilm 'Y Sŵn' sy'n olrhain yr hanes hwnnw wedi'i dangos mewn sinemau ar draws Cymru, a ddechrau mis Ebrill, roedd i'w gweld ar S4C.

Tra bod gwaith da yn cael ei wneud, mae'r adolygydd ffilm a theledu Lowri Cooke yn awgrymu bod angen "mwy o hunan grediniaeth i gloddio am y straeon sy'n perthyn i ni".

Disgrifiad o’r llun,

"Ry'n ni ar drothwy go euraidd" yn ôl Lowri Cooke

Mae'n ychwanegu bod angen "rhagor o fuddsoddi" hefyd.

"Dwi yn creu ein bod ni'n sefyll ar drothwy cyfnod go euraidd," meddai, "ond dim ond ganddon ni mae'r hyder mewnol i gicio'r drysau yna led y pen ar agor.

"Rhai o'r pethau mwyaf cyffrous yw'r cynyrchiadau genre Cymraeg yma ry' ni'n gweld yn ein sinemâu ni ac ar y sianel ffrydio.

"Hynny yw, cynyrchiadau drama, arswyd, thriller yn ein hiaith ein hunain - mae hwnna'n mind-blowing."

Disgrifiad o’r llun,

Ed Thomas oedd yn gyd gyfrifol am gynhyrchiad Y Gwyll / Hinterland a ddaeth i'r amlwg ddegawd yn ôl

Mae 'na ddegawd ers i gyfres boblogaidd 'Y Gwyll/Hinterland' greu argraff fawr yng Nghymru a thu hwnt.

Y cynhyrchydd gyfarwyddwr a'r sgriptiwr Ed Thomas oedd yn gyd gyfrifol am y cynhyrchiad hwnnw.

Cafodd y fersiwn Saesneg ei werthu'n rhyngwladol, ac mae sawl cyfres ddwyieithog boblogaidd arall wedi dilyn y patrwm ers hynny.

"Ar hyn o bryd, y model sydd gynnon ni, sydd union fel oedd gyda ni gyda'r Gwyll, yw 'neud e cefn wrth gefn," meddai Ed Thomas.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Y Gwyll/Hinterland ei ffilmio yn ardal Aberystwyth

Cafodd Y Gwyll/Hinterland ei gwerthu drwy'r byd, gyda hynny'n dechrau ar gyfnod o greu cynyrchiadau dwyieithog, 'cefn wrth gefn', fel yr esbonia Ed.

"Na'th hwnna lwyddo yn yr iaith Gymraeg a'r Saesneg, a wedyn daeth Craith a Keeping Faith a nifer o sioeau nawr sydd wedi dilyn y trywydd 'na, a bydden i'n meddwl bod pethau'n edrych yn fwy gobeithiol a mwy llewyrchus maen nhw wedi edrych ers amser."

Mae cyfyngiadau ariannol, serch y llwyddiant yma, yn golygu bod rhaid cynhyrchu'n ddwyieithog ar hyn o bryd er mwyn sicrhau'r cyllid angenrheidiol, yn ôl Ed Thomas.

"Mae'r tariffs yn Gymraeg trwy S4C yn dipyn llai na beth y'n nhw yn yr iaith Saesneg yn rhyngwladol," meddai.

Pren ar y Bryn/Tree on a Hill yw cynhyrchiad diweddaraf Thomas.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfres Pren ar y Bryn yn cael ei ffilmio ar hyn o bryd

Bydd y ddrama gomedi tywyll, sy'n cael ei saethu ar hyn o bryd yn ei ardal enedigol yng nghyffuniau Abercraf a Chwm Tawe, i'w gweld ar S4C ddiwedd 2023.

Dyma gynhyrchiad 'cefn wrth gefn' arall wedi i S4C a BBC Cymru ei chyd-gomisiynu er mwyn ei dangos yn y Gymraeg a'r Saesneg.

'Naturiol i'r Gymraeg fod yn rhyngwladol'

Tra'n ymfalchïo yn llwyddiant Dal y Mellt, mae 'na "ffordd bell i fynd" yn ôl Ed Thomas cyn i gynyrchiadau yn y Gymraeg yn unig gael y cyllid angenrheidiol a'u gwerthu'n rhyngwladol.

"'Na beth ni'n gorfod targedu yw neud yn siŵr, wel os y'n ni'n mynd ar Netflix neu Apple neu Amazon Prime ta beth yw e, bod nhw hefyd yn dilyn lan gyda buddsoddiad iawn mewn i'r iaith Gymraeg," meddai.

"A bod Netflix yn sylweddoli bod 'na gynulleidfa a bod e'n naturiol bod yr iaith Gymraeg yn cael ei dosbarthu'n rhyngwladol."

Ffynhonnell y llun, Gwenllian Gravelle
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenllian Gravelle, Pennaeth Sgriptio S4C yn dweud mai stori dda sydd ei hangen er mwyn i gyfres "deithio"

Mae'r gynulleidfa erbyn hyn wedi dod i arfer mwynhau cyfresi poblogaidd mewn ieithoedd amrywiol trwy ddilyn is-deitlau yn ôl Gwenllian Gravelle.

Dyma gyfle felly, meddai, i fanteisio ar hynny.

"Fel ry'n ni wedi bod yn gwylio dros y blynyddoedd diwethaf, cyfresi poblogaidd iawn sydd ddim yn Saesneg fel Squid Games a Lupin a Money Heist sy'n dangos os oes gyda chi stori dda, ac os oes gyda chi ddrama dda, 'neith e deithio."

Dywedodd Ed Thomas: "Bydde fe'n wych bod chwe neu saith cwmni yn gallu allforio stwff amlochrog, aml-Gymreig, lot o wahanol themâu drwy'r byd i gyd a bod pobl yn meddwl - 'Yeah, it's just another Welsh Language show - fantastic!'"