AS gafodd ei gwahardd gan Lafur wedi ymddiheuro
- Cyhoeddwyd
Mae AS Llafur o Gymru a gafodd ei gwahardd o'r blaid oherwydd honiadau o fwlio yn erbyn ei staff wedi cael ailymuno gyda Llafur wedi iddi ymddiheuro am ei hymddygiad.
Christina Rees yw Aelod Seneddol Castell-nedd, a bu'n llefarydd Llafur dros Gymru am gyfnod.
Cafodd ei hatal rhag ymgeisio am enwebiad i fod yn ymgeisydd Llafur yn etholaeth newydd Castell-nedd a Dwyrain Abertawe yn haf 2023.
Fe gafodd AS presennol Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris, ei dewis yn ddi-wrthwynebiad.
Cadarnhaodd Ms Rees na fydd yn sefyll yn yr etholiad nesaf.
Mae chwip y blaid wedi cael ei adfer i Ms Rees, sy'n golygu ei bod yn gallu eistedd yn San Steffan fel AS Llafur, ac mae ei haelodaeth o'r Blaid Lafur wedi cael ei adfer yn ogystal.
Hi sydd wedi cynrychioli etholaeth Castell-nedd ers 2015, ond bu'n aelod annibynnol o DÅ·'r Cyffredin ers iddi gael ei gwahardd gan Lafur yn Hydref 2022.
Eisteddodd ar fainc flaen Llafur o dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn lle'r oedd yn llefarydd dros Gymru rhwng 2017 a 2020.
Yn flaenorol dywedodd Ms Rees ei bod yn "cydweithredu" gyda'r ymchwiliad i'r honiadau gafodd eu gwneud yn ei herbyn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2017