Y nod yw 'creu y bwrdd iechyd gorau ar gyfer y gogledd'
- Cyhoeddwyd
Dywed cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei fod yn llwyr ymwybodol bod nifer o heriau yn ei wynebu, ond mai ei nod yw "creu y bwrdd iechyd gorau ar gyfer y gogledd".
Yr wythnos hon fe gafodd Dyfed Edwards ei benodi yn gadeirydd parhaol y bwrdd iechyd wedi iddo fod yn gadeirydd dros dro am bron i flwyddyn.
"Mae'r bwrdd iechyd mewn sefyllfa lle mae yna lawer o waith i'w wneud, mae 'na lot o heriau a dydi newid ddim yn mynd i ddigwydd dros nos," meddai.
"Mae'r llywodraeth wedi gosod ni mewn mesurau arbennig ac mae 'na siwrne.
"Yr hyn sy'n bwysig yw bod camau cadarnhaol yn digwydd ar hyd y daith a bod pobl yn gweld gwelliant yn digwydd yn raddol.
"Dwi'n gweld arwyddion o hynny yn barod. Mae yna newid diwylliant yn digwydd o fewn y sefydliad. Mae yna ddealltwriaeth o be' sydd angen i ni ei gyflawni.
"O'r hyn dwi'n gweld mae staff a rhai aelodau o'r cyhoedd yn dweud 'ie 'dan ni'n gweld newid'. Mi ydan ni ar y daith yna a'r gamp yw cynnal hynny."
Ychwanegodd ei bod yn "gallu bod yn anodd ar adegau yn enwedig lle 'na bwysau yn dod o bob cyfeiriad".
'Taith ddigon troellog'
Mae gan Betsi Cadwaladr, bwrdd iechyd mwyaf Cymru, weithlu o 19,000 yn gwasanaethu mwy na 700,000 o bobl ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Mae'n cael y lefel uchaf o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar ôl cyfres o fethiannau difrifol oedd yn ymwneud â diogelwch cleifion, perfformiad a llywodraethu.
Mae prinder staff a chyfres o uwch swyddogion gweithredol yn gadael hefyd wedi achosi problemau.
"Mae'n rhaid i chi barhau â llygaid ar y gorwel a pharhau ar hyd y daith yna er mwyn i ni wella a chreu y bwrdd iechyd gorau posib ar gyfer y gogledd," meddai Mr Edwards.
"Mae'r bwrdd iechyd wedi bod ar daith ddigon troellog dros ddegawd a mwy, ac un o'r pethau dwi wedi ceisio ei wneud yw creu dipyn bach o sefydlogrwydd.
"Does gen i ddim mo'r gallu i droi'r bwrdd iechyd yn llwyddiannus ar ben fy hun, ond dwi'n gobeithio bod gen i'r agweddau sy'n mynd i alluogi pobl eraill i lwyddo."
Cafodd Dyfed Edwards, 65, ac sy'n enedigol o Rosllannerchrugog ei benodi yn gadeirydd dros dro ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ym mis Mawrth 2023 a hynny wedi ei gyfnod yn arweinydd ar Gyngor Gwynedd.
"Yr hyn dwi'n drïo ei wneud yw creu cyd-destun lle gall pobl fod yn nhw eu hunain," meddai.
"Dwi am i bobl gyfrannu yr hyn sydd gynnon nhw i'w roi ac i deimlo nad un arweinydd sydd ond bron i 20,000 o arweinyddion - mae pob un yn y bwrdd iechyd yn arweinydd."
'Pwysig cefnogi ein gilydd'
Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru dywed bod ei ffydd Gristnogol yn bwysig iddo.
"Mae yna bwysau ar draws y gwasanaeth iechyd ond mae'n rhaid cofio fod rhywbeth yn flaenoriaeth rhywle i rywun ymhob man," meddai.
"Mae'n rhaid gwerthfawrogi hynny a bod yn ofalus yn y ffordd ni'n mynd o gwmpas cyllido gwasanaethau.
"Dwi'n gorfod atgoffa fy hun yn aml bod yn rhaid bod yn gadarnhaol wrth ddelio â sefyllfaoedd anodd a dwi'n gobeithio bo' fi'n gallu dangos i eraill bod yna ffordd o fod yn gadarnhaol ac yn gefnogol hefyd.
"Mae'n bwysig cefnogi ein gilydd mewn sefyllfaoedd sydd yn gallu bod yn heriol."
Mae modd gwrando ar gyfweliad Dyfed Edwards yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul 4 Chwefror ac yna ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2023