Drakeford yn 'hollol amharod' am 'ffyrnigrwydd galar' colli gwraig
- Cyhoeddwyd
Mae'r prif weinidog wedi dweud ei fod yn "hollol amharod ar gyfer ffyrnigrwydd y galar" yn dilyn marwolaeth ei wraig y llynedd.
Bu farw gwraig Mark Drakeford, Clare, yn sydyn yn 71 oed ym mis Ionawr 2023.
Wrth siarad â Channel 5 News dywedodd Mr Drakeford ei fod yn dal yn ei chael hi'n anodd siarad am y pwnc.
Bydd Mr Drakeford yn ymddiswyddo ym mis Mawrth ar ôl mwy na phum mlynedd fel prif weinidog.
'Diolch byth am waith'
Pan ofynnwyd iddo ar Channel 5 am ei fyfyrdodau yn dilyn marwolaeth ei wraig, atebodd Mr Drakeford: "Diolch byth am waith.
"Mae bod mewn gwaith wedi bod yn gynhaliol, mae'n rhoi rhywbeth i chi ei wneud, mae'n rhoi rhythm i'r wythnos i chi, mae'n tynnu sylw oddi wrth yr hyn sydd fel arall yn brofiad hollol ddiflas.
"Roeddwn i'n hollol amharod ar gyfer ffyrnigrwydd y galar."
Ychwanegodd Mr Drakeford, oedd yn amlwg yn emosiynol, "unwaith y bydd y pwnc hwnnw wedi'i agor mae'n anodd iawn cadw [yr emosiwn] dan reolaeth".
Perthynas â phrif weinidogion
Mewn cyfweliad eang holwyd Mr Drakeford hefyd am ei berthynas â phrif weinidogion y gorffennol a'r presennol.
Dywedodd fod Rishi Sunak "yn berson haws i fod gydag ef na'r naill na'r llall o'i ragflaenwyr uniongyrchol".
"Yn y cyfnod byr roedd Liz Truss yn brif weinidog ni ddangosodd unrhyw ddiddordeb o gwbl mewn cael sgwrs".
"Rwy'n meddwl bod delio â Boris Johnson yn wahanol eto oherwydd y syniad eich bod yn delio â gwleidydd difrifol, rhywun i fyny i'r cyfrifoldeb o fod yn brif weinidog, byddwn wedi dweud a oedd yn rhy aml yn absennol yn fy nghysylltiad ag ef."
Mynegodd Mr Drakeford ei ofid hefyd am golli ei dymer yn y Senedd gydag arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies yn 2022.
"Roeddwn i'n difaru ar unwaith, ni ddylech fyth golli'ch tymer," meddai Mr Drakeford.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2023