Ymddiheuro am ddryswch record byd y Seintiau Newydd

  • Cyhoeddwyd
Y Seintiau Newydd yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Seintiau Newydd yn gobeithio gosod record byd newydd wrth herio'r Bala nos Wener

Mae disgwyl y bydd pencampwyr y Cymru Premier yn colli'r cyfle i osod record byd newydd ddydd Gwener.

Y gred oedd bod y Seintiau Newydd wedi dod yn gyfartal â'r record byd am fuddugoliaethau olynol ar ôl ennill o 3-0 yn erbyn y Drenewydd nos Fawrth.

Ond yn sgil dryswch ynglŷn ag a yw ennill gêm ar giciau o'r smotyn yn cyfrif fel rhan o'r record, mae rhediad y Seintiau o 27 buddugoliaeth o'r bron mewn perygl.

Yn ôl rheolau Guinness World Records, dim ond buddugoliaethau mewn 90 munud sydd yn ddilys.

Mae hynny'n golygu nad yw buddugoliaeth y Seintiau Newydd ar giciau smotyn yn erbyn East Fife yn gynharach yn y tymor yn cyfrif, a bod y clwb bellach saith gêm i ffwrdd o ddod yn gyfartal â'r record (20).

Disgrifiad,

All y Seintiau Newydd gyflawni pedrwbl hanesyddol? Owain Tudur Jones a Malcolm Allen fu'n trafod

TNS sydd eisoes yn dal y record byd am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau yn olynol ar ôl torri record Ajax yn 2016.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod nhw wedi gofyn am eglurhad o'r union reolau, a bod Guinness World Records wedi cadarnhau bod y rhediad yn ddilys.

Ond ers hynny mae Guinness World Records wedi cysylltu gyda'r gymdeithas i ymddiheuro am y dryswch.

Mae Guinness World Records wedi dweud wrth y BBC eu bod nhw'n ystyried sefydlu categori newydd fyddai'n cynnwys buddugoliaethau ar ôl amser ychwanegol neu giciau o'r smotyn.