Dwi'n caru casglu...moch
- Cyhoeddwyd
Mae Gwawr James sy'n wreiddiol o'r Trallwng yn caru casglu un peth yn arbennig.
Mae Gwawr, sy'n ddietegydd a bellach yn byw yng Nghaerdydd wedi bod yn casglu'r eitemau yma ers iddi fod yn ifanc iawn, ond beth sydd y tu ôl i'w chwilfrydedd am yr anifail bach pinc?
Beth ydych chi yn caru casglu a pham?
Dwi'n caru casglu moch!
Pryd ddechreuodd hyn?
'Nes i ddechrau casglu moch pan oeddwn yn fach iawn, tua tair mlwydd oed.
Beth wnaeth ysgogi i chi i ddechrau casglu moch?
Yn ôl hanes teuluol mi oeddem yn ymweld â Nain oedd yn byw yn Nolgellau ac am ryw reswm dros y penwythnos hynny, mi wnes benderfynu bo' fi eisiau gweld mochyn!
Yn y diwedd natho ni ddod o hyd i fochyn mewn twlc ym Mlaenau Ffestiniog, ac mae Mam hyd heddiw yn deud mae dyna'r mochyn butraf a hyllaf iddi erioed weld!
Ac wedi hynny dechreuodd yr obsesiwn a'r casgliad sydd dal yn mynd hyd heddiw, er bod sawl aelod o'r teulu a fy ffrindiau yn gofyn bob hyn a hyn "pryd mae'r obsesiwn yma am stopio?". Yr ateb bob tro ydi "byth".
Faint o foch sydd yn eich casgliad?
I fod yn hollol onest dydw i erioed wedi cyfri'r casgliad. Ond dwi'n credu ei fod yn miloedd!
Yn amrywio o deganau meddal, ornaments, hoover, tostiwr, sanau, bag ymolchi, llestri, 'piggy banks', back massager, matiau llawr, stolion, canhwyllau, tea-towels a chlustogau.
Wir yr, os allwch enwi eitem, dwi'n eithaf sicr fy mod efo fo mewn ffurf mochyn!
Hefyd mae gennyf gasgliad o fewn casgliad sef ornaments 'piggins'. Mae 110 ohonynt i gyd yn byw yng nghwpwrdd Nain ar dop y staer.
Yn ogystal, dwi'n ddigon ffodus i fod efo'r eulu cyfan o'r enwog NatWest Piggy Banks!
Pa un o'ch casgliad sydd fwyaf gwerthfawr i chi a pham?
Mae bob un o'r moch efo stori ac yn golygu llawer i mi, ond un o'r rhai sy'n golygu mwyaf yw Geoffrey! Cefais Geoffrey yn anrheg gan ffrindiau da iawn i mi, pan nes i brynu fy nhŷ cyntaf.
Mae o wedi cael ei arlunio gan yr arlunydd (a fy ffrind) Becky Davies. Mae o'n seiliedig ar lun o fochyn yn hen dafarn y Mochyn Du yng Nghaerdydd, gan fy mod yn bygwth dwyn hwnnw bo tro oeddwn yno (dydw i heb ei ddwyn ac mae o dal ar y wal hyd heddiw - am nawr).
Beth yw'r darn neu eitem hynaf yn eich casgliad?
Dydw i ddim yn cofio'r mochyn cyntaf un, ond gyda'r hynaf mae Mari Mochyn! Tegan meddal yw Mari Mochyn a wnaeth ddod gan Siôn Corn nôl yn 1989.
Mae hi wedi cael lot o gariad dros y blynyddoedd ac erbyn hyn yn dangos ei hoedran. Er hynny mae hi bellach efo cartref clyd yn 'Tŷ Twlc', Caerdydd!
Beth oedd y peth fwyaf diweddar i chi gael fel rhan o'ch casgliad?
Wel mae Nadolig newydd fod, a dwi'n un o'r bobl hawddaf i brynu anrheg iddi. Nadolig yma mi gefais slipers, pot i ddal blodyn, mat sychu traed a siŵr o fod sawl un arall….
Oes 'na unrhyw fochyn neu eitem sy'n ymwneud â moch sy'n bodoli rhywle yn y byd y base chi'n caru cael yn rhan o'ch casgliad personol? Os oes, pa un yw hwn a pham?
Yr ateb amlwg yw mochyn "go iawn"… ond yn anffodus dydi hyn ddim yn bosib mewn tŷ teras yng Nghaerdydd! Ond dwi jyst yn hapus parhau i dyfu'r casgliad a ffeindio mwy a mwy o foch random.
Hefyd o ddiddordeb: