Carcharu dyn am oes am ladd ei wraig mewn tân car
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 80 oed wedi cael dedfryd o garchar am oes am lofruddio ei wraig mewn tân car ger Ysbyty Singleton yn Abertawe.
Bu farw Helen Clarke, 77, o'i hanafiadau yn Ysbyty Treforys ar 24 Medi 2023.
Fe blediodd David Clarke, o ardal Langland y ddinas, yn euog ym mis Rhagfyr i gyhuddiad o'i llofruddio.
Bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 21 mlynedd ac wyth mis yn y carchar.
Bu farw Mrs Clarke ddeuddydd wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw i'r digwyddiad yn Lôn Sgeti, ger Ysbyty Singleton ar 22 Medi y llynedd.
'Trafferthion yn eu perthynas'
Clywodd y llys fod y cwpl wedi byw yn Zambia a Zimbabwe cyn symud i Abertawe yn 2018.
Dywedodd Mike Jones KC ar ran yr erlyniad fod y teulu wedi cyfaddef bod "trafferthion yn eu perthynas" ac y byddai Clarke yn "gorfforol" gyda'i wraig, ond eu bod yn caru ei gilydd.
Clywodd y llys hefyd fod Clarke wedi bod yn anffyddlon tra roedd y cwpl yn byw yn Affrica, a bod Mrs Clarke wedi dod i wybod am hynny tua mis cyn ei marwolaeth tra ar wyliau yn Awstralia.
Roedd Clarke wedi bod i weld y fenyw y bu'n anffyddlon â hi tra yn Awstralia, ac roedd ei wraig wedi ei gyhuddo o drefnu'r gwyliau er mwyn ei gweld hi.
Dywedwyd fod y cwpl wedi parhau i ddadlau ar ôl dychwelyd i Gymru, a'r neges ddiwethaf y derbyniodd eu mab gan Mrs Clarke oedd ei bod hi'n bwriadu symud i fyw gydag ef a'i deulu.
Wedi i Clarke daro ei wraig gyda morthwyl a'i rhoi ar dân, clywodd y llys fod pobl wedi ceisio helpu, ond fod y diffynnydd wedi eu gwthio i ffwrdd a dweud wrthynt am beidio.
Aeth Clarke yn ôl i'r car, cyn gyrru ar ochr anghywir y ffordd a tharo clawdd.
Clywodd y llys fod y gwasanaethau brys wedi cyrraedd a chanfod Mrs Clarke yn gorwedd ar y llawr yn "sgrechian am help".
Fe ddywedodd hi wrth barafeddyg mai ei gŵr "sy'n gyfrifol am hyn i gyd".
Cafodd ei thrin ar gyfer llosgiadau i 58% o'i chorff ac anafiadau i'w phen yn Ysbyty Treforys, ond bu farw deuddydd yn ddiweddarach.
'Ciaidd a di-drugaredd'
Wrth ddedfrydu Clarke yn Llys y Goron Abertawe, dywedodd y Barnwr Paul Thomas ei fod wedi lladd ei wraig, wedi dros 50 mlynedd o fywyd priodasol, "mewn ffordd hollol giaidd a di-drugaredd".
"Fe wnaethoch chi ei lladd mewn car ar ffordd brysur yn Abertawe pan roedd plant ar eu ffordd i'r ysgol," dywedodd.
"Fe wnaethoch chi ei tharo droeon ar ei phen gyda morthwyl, arllwys petrol neu sylwedd fflamadwy tebyg arni a'i rhoi ar dân.
"Roeddech chi'n gwybod y byddai'n achosi poen ac arswyd y tu hwnt i'r dychymyg.
"Pan roedd pobl oedd yn pasio heibio eisiau ei helpu, fe wnaethoch chi yrru i ffwrdd, gan eu hatal, yn fwriadol, rhag ceisio ei hachub."
Mewn datganiad dywedodd teulu Helen Clarke ei bod yn "fam gariadus, dewr, oedd yn trysori ei theulu, ei ffrindiau a'r byd yn ehangach".
"Mae ei cholli mewn modd sydyn a thrasig wedi bod yn ofnadwy, a does dim modd mesur ein galar.
"Rydyn ni wedi dioddef poen nad oes modd ei ddychmygu ers iddi gael ei chymryd oddi wrthym mewn modd mor greulon - ac mae ein plant yn colli eu mam-gu, oedd mor falch ohonynt."
Dywedodd Rebecca Carter o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Cafodd Helen Clarke ei llofruddio gan ei gŵr o 53 o flynyddoedd dan amgylchiadau ofnadwy.
"Mae hwn wedi bod yn achos trasig. Mae ein meddyliau a chydymdeimladau gyda theulu Helen ar yr adeg anodd hwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd26 Medi 2023
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2023