Oriel: Wythnos Awyr Dywyll

  • Cyhoeddwyd
Crib GochFfynhonnell y llun, Gareth Môn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Awyr liwgar dros Grib Goch

Mae'r cyfnod rhwng 9-18 Chwefror yng Nghymru yn cael ei alw'n Wythnos Awyr Dywyll.

Dyma'r amser mae parciau cenedlaethol ac ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cydweithio i godi ymwybyddiaeth, ac i ddathlu'r awyr dywyll.

Mae sawl gweithgaredd wedi cael eu trefnu ar draws Cymru ac mae sawl un yn manteisio ar y cyfle i ddysgu mwy am yr hyn uwch ein pennau.

Un o'r rheiny yw'r ffotograffydd Gareth Môn Jones. Mae'n cyfaddef ei hun ei fod yn mwynhau agweddau o Astroffotograffiaeth; lluniau sy'n ymwneud a'r gofod a phopeth sydd uwch ein pennau, a'r amser gorau i weld y prydferthwch wrth gwrs yw yng nghanol nos.

Ffynhonnell y llun, Gareth Mon Jones
Disgrifiad o’r llun,

Gweithio ar systemau gwresogi ydi gwaith bob dydd Gareth Môn Jones

Mae Gareth o Langefni yn byw'n agos iawn at Barc Cenedlaethol Eryri a thraethau hyfryd Ynys Môn, a dyma ble mae modd dod o hyd iddo ar noson glir gyda'i gamera.

Yn ogystal â lluniau o'r awyr, mae Gareth yn hoff iawn o ddilyn stormydd ac wedi dal sawl moment ddramatig drwy lens ei gamera.

Mae wedi ennill y brif wobr yn y categori tirluniau yng Ngwobrau Ffotograffwyr Prydain yn 2023 a Ffotograffydd Tywydd y Flwyddyn yn 2019.

Mae'r detholiad o luniau gan Gareth yn dangos pa mor brydferth yw'r awyr uwch oddi fry pan mae rhywun yn cael moment i orffwys a syllu i fyny i'r awyr dywyll.

Ffynhonnell y llun, Gareth Môn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Eglwys Lligwy a'r Aurora Borealis

Ffynhonnell y llun, Gareth Môn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Gareth a'i bartner yn sefyll dan y llwybr llaethog at draeth Tyn Tywyn

Ffynhonnell y llun, Gareth Môn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Llyn Brennig dan garped arian o sêr

Ffynhonnell y llun, Gareth Môn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y llwybr llaethog dros Tryfan

Ffynhonnell y llun, Gareth Môn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Goleadau'r Gogledd a goleudy Penmon

Ffynhonnell y llun, Gareth Môn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Orion uwch ben Mynydd Parys

Ffynhonnell y llun, Gareth Môn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Goleuadau'r Gogledd uwch ben Goleudy Trwyn y Balog

Ffynhonnell y llun, Gareth Môn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y Llwybr Llaethog uwch ben Goleudy Ynys Lawd

Ffynhonnell y llun, Gareth Môn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cymylau a;r Llwybr Llaethog dros Eryri