Diciâu: 'Dyw'r gefnogaeth ddim yna i ffermwyr'
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr ifanc sydd wedi bod yn ymchwilio i effaith y diciâu ar iechyd meddwl ffermwyr yn dweud fod "polisïau presennol y llywodraeth ddim yn gweithio, a sai'n credu bod y gefnogaeth yna chwaith".
Mae fferm deuluol Rebecca John yn ardal Hwlffordd wedi bod o dan gyfyngiadau caeth ers 2018 oherwydd achosion o TB mewn gwartheg.
Mae hi'n dweud ei bod yn "gwbl glir" bod y mater yn cael effaith negyddol ar nifer sy'n gweithio yn y diwydiant.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n ymwybodol o effaith ofidus TB ar iechyd a lles ffermwyr, ac yn "gwbl benderfynol" o ddileu'r clefyd yng Nghymru.
Yn ôl Ms John, dyw'r sefyllfa ar ei fferm hi heb newid ers i'r cyfyngiadau gael eu gosod chwe blynedd yn ôl.
"Ni 'di bod dan gyfyngiadau ers i fi ddechre yn y brifysgol, a so pethe wedi gwella dim ers hynny," meddai ar Dros Frecwast.
"Ni di cael un neu ddau o brofion clir yn y cyfnod yma, ond ni ddim wedi symud mas o'r cyfyngiadau."
Mae rheolau Llywodraeth Cymru yn golygu bod rhaid i Rebecca a'i thad brofi eu gwartheg yn gyson, ac nad oes hawl gwerthu na symud unrhyw stoc am y tro chwaith.
"Mae'n anodd dweud faint yn union [o achosion] ni di gael. Ni'n colli tua phedwar neu bump bob tro, ond ma' rhai yn colli niferoedd mawr.
"Wy'n cofio un cyfnod gwael pan oedd tua 10 o wartheg cyflo 'da ni. Ro'n nhw'n rhy drwm i gael eu cymryd bant o'r fferm i gael eu difa, felly oedd rhaid iddyn nhw gael eu saethu ar y fferm.
"Oedd e ddim yn brofiad neis, gweld llo bach chi 'di fagu yn cael ei saethu."
Fel rhan o'r gwaith ymchwil ar gyfer ei thraethawd hir, bu Ms John yn holi dros 300 o ffermwyr ynglŷn â'u profiadau o ddelio â TB ar eu ffermydd.
Roedd y rhai a gafodd eu holi yn dod o ardaloedd ar draws Cymru, yn wahanol oedrannau ac yn gymysgedd o ffermwyr oedd dan gyfyngiadau, rhai oedd wedi dod allan yn ddiweddar a rhai oedd wedi dod allan ers cyfnod hirach.
"Roedd e'n glir bod TB yn cael effaith clir ar iechyd meddwl rhwng 50-60% o'r rhai nes i eu holi, yn eu gwneud nhw'n flin ac yn effeithio yn negyddol ar eu busnes," meddai.
'Angen edrych ar fywyd gwyllt'
"Yn amlwg dyw polisïau presennol y llywodraeth ddim yn gweithio, a sai'n credu bod y gefnogaeth yna i'r ffermwyr chwaith.
"Y rhai oedd yn ymateb i'r holiadur, roedden nhw'n dweud mai'r DPJ, y doctoriaid a'r therapyddion oedd yn eu helpu, nid y llywodraeth.
"Ni 'di dilyn eu cyngor nhw, eu rheolau nhw a so fe'n gweithio - mae'n rhaid iddyn nhw edrych yn fwy ar fywyd gwyllt."
Ychwanegodd Ms John nad oedd hi'n siŵr a fyddai hi fyth yn gweld TB yn cael ei ddileu tra'i bod hi dal yn gweithio yn y diwydiant.
Un arall sy'n galw am newidiadau yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael a TB yw'r cyn-ddyfarnwr rygbi, a'r ffermwr Nigel Owens.
"Gallwch chi ddim delio â fe mewn un anifail, pan mae anifeiliaid eraill yn cario fe... dyw brechu ddim yn gweithio, ma' nhw'n trial e nawr yn Sir Benfro, ond mae cynnydd mewn achosion," meddai ar Dros Frecwast.
"Pan ma' gyda chi fferm sydd ddim yn prynu anifeiliaid i mewn, sydd â bio-security... sydd erioed 'di cael TB o'r blaen wedyn yn profi achosion - dyw'r broblem ddim yn y gwartheg, mae'r broblem yn dod o rywle arall.
"Dyna sy'n neud ni'n grac, achos ma'r ffeithiau 'na... ma' rhaid i ni weithio gyda'n gilydd. Oes ma' pethe da mae'r llywodraeth yn ei wneud, ond os nad y'ch chi'n delio â'r holl achosion, ni'n mynd rownd a rownd mewn cylchoedd."
Ychwanegodd Mr Owens ei fod yn deall pam bod y sefyllfa yn cael cymaint o effaith ar iechyd meddwl amaethwyr.
"Un o'r problemau mwyaf ma' ffermwyr yn wynebu nawr yw iechyd meddwl...
"Ry'n ni'n gwybod am ffermwyr sy'n mynd yn isel iawn, dynion yn torri lawr ac yn llefen pan ma' nhw'n gweld gwartheg yn gadael y clos.
"A dim ddim ond TB, mae problemau eraill ni'n wynebu yng nghefn gwlad hefyd.
"Ry'n ni di gweld pobl yn cymryd bywydau eu hunain achos y ffordd ma' nhw'n profi'r TB, ac ambell i ffermwr hefyd yn colli eu bywydau ar y fferm wrth brofi hefyd.
"Dyw'r system ma' nhw'n defnyddio nawr ddim yn accurate iawn, ma'n cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd a dyw e ddim yn gweithio'n iawn."
Ychwanegodd bod angen rhoi mwy o ymdrech tuag at lunio system sy'n fwy cywir ac effeithiol wrth ganfod achosion o'r clefyd mewn gwartheg.
'TB yn lleihau ledled Cymru'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n ymwybodol iawn o effaith ofidus TB ar iechyd a lles ein ffermwyr a'u teuluoedd. Dyna pam ry'n ni'n gwbl benderfynol o ddileu TB yng Nghymru.
"Ry'n ni'n cydnabod yn llawn bod y sefyllfa o ran TB yn amrywio ar draws gwahanol rannau o Gymru, a dyna pam rydyn ni'n targedu ein gweithredu.
"Ar y cyfan, mae TB yn lleihau ledled Cymru, gydag achosion o fuchesi wedi'u heintio'n gostwng dros y tymor hir.
"Ry'n ni'n gweithio gyda'r diwydiant ac elusennau fel Tir Dewi, a Sefydliad DPJ, ac mae'r sefydliadau hyn yn darparu gwasanaethau rhagorol i'r rhai sy'n cysylltu â nhw
"Dyw'r Llywodraeth ddim yn gallu dileu TB ar ei phen ei hun - mae gweithio mewn partneriaeth â'n ffermwyr a'n milfeddygon yn hanfodol er mwyn cyrraedd ein nod cyffredin o Gymru heb TB."
Os yw'r stori yma wedi effeithio arnoch neu os ydych chi angen cymorth, ewch i wefan BBC Action Line.
Rhif cyswllt elusen DPJ yw 0800 5874262 neu mae modd tecstio 07860 048799 a rhif ffôn Tir Dewi yw 0800 1214722.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd14 Mai 2024