Menyw arall i bwyllgor Uefa yn 'gam bach' ymlaen - McAllister

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Roedd bod yr unig fenyw ar bwyllgor Uefa yn gallu bod yn brofiad unig, yn ôl Laura McAllister

Mae penderfyniad i sicrhau bod o leiaf dwy fenyw ar uwch bwyllgor corff pêl-droed Uefa wedi ei groesawu gan y Gymraes a'r unig fenyw ar y pwyllgor.

Ond mae angen rhagor o newid yn y dyfodol, yn ôl yr Athro Laura McAllister, cyn-gapten Cymru, sy'n dweud ei fod yn "hurt" mai hi yw'r unig fenyw ar hyn o bryd.

Fe wnaeth Uefa - y corff sy'n rheoli pêl-droed Ewropeaidd - gytuno i newid y rheol er mwyn sicrhau bod dwy fenyw ar y pwyllgor mewn cyfarfod yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd McAllister wrth Dros Frecwast nad yw'r newid yn "anhygoel", ond ei fod yn "gam bach i'r ffordd i wneud rhyw fath o gynnydd".

Fel yr unig fenyw ar yr uwch bwyllgor - neu ExCo - dywedodd McAllister y gallai fod yn brofiad "unig", ac nad yw'n "creu proffil da i'r sefydliad".

Ond dywedodd ei bod yn galonogol bod llywydd Uefa wedi cefnogi'r newid.

"I fi y peth pwysicaf yw cael cefnogaeth y llywydd achos mae Uefa yn sefydliad heirachical ac mae'n sefydliad lle mae'r mwyafrif o bŵer yn cael ei ganolbwyntio yn nwylo'r llywydd.

"Mae'n dda i fi i weld o'n cefnogi'r newidiadau yma."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd McAllister bod y pwyllgor yn gallu bod yn "unig" ar adegau fel yr unig fenyw

"Hefyd wnaeth y llywydd drafod gyda fi y broses nawr i gael mwy o welliannau ynglŷn â menywod - dim just ar ExCo ond drwy'r sefydliad i gyd ac hefyd yn y national associations hefyd."

Tair menyw sydd ar fwrdd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, meddai, sydd "ddim yn anhygoel ond mae o lot gwell nag oedd o yn y gorffennol, ond mae gwaith i ni gyd wella'r sefyllfa".

Fe fydd McAllister nawr yn arwain ar y gwaith o wella cydraddoldeb i fenywod yn ehangach, ar gais y llywydd Aleksander Čeferin, sy'n "hollol gefnogol", meddai.

"Dydy bod ar y pwyllgor ddim yn beth cyfforddus drwy'r amser - ambell waith dwi ddim yn cytuno bob tro, ond i fi fel rhywun o Gymru ac fel yr unig fenyw, dwi'n hollol ymwybodol o'r pwysigrwydd o gynrychioli Cymru a chynrychioli merched dros Ewrop i gyd.

"Ond i fi mae siawns i ni nawr i drio bod yn strategol ynglŷn â materion cydraddoldeb, a sensio bod siawns nawr i ni ddatblygu cynllun i newid pethau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hawliodd Aleksander Čeferin y sylw yn sgil dadlau am a ddylai gael ymgeisio am dymor arall yn y swydd

Dywedodd McAllister, a enillodd 24 o gapiau dros Gymru, bod y rhan fwyaf o'r amser yn y cyfarfod ym Mharis wedi ei gymryd i drafod dyfodol Čeferin fel llywydd.

Cadarnhaodd yn y diwedd na fyddai'n sefyll am dymor arall yn 2027, er bod y mater wedi hawlio'r sylw yn rhyngwladol.

Er bod cael menyw arall ar ExCo ddim wedi hawlio'r penawdau, mae'n cynnig cyfle i greu newid go iawn, yn ôl McAllister.

Dywedodd ei bod yn "bwysig nawr i ni gael pobl sy'n deall gêm y merched, a deall y sefyllfa a'r gwendidau hefyd", yn sgil twf pêl-droed menywod.

"Ond ar y llaw arall, dim just am bêl-droed merched yw hwn, mae'n bwysig i gael lleisiau menywod yn gyffredinol achos fi ddim just yn sôn am bêl-droed menywod - dwi eisiau bod yn rhan o'r penderfyniadau pêl-droed yn gyffredinol achos dyna ydy cefndir fi.

"Felly maen bwysig i gael mwy o ferched o bêl-droed merched ond hefyd mwy o leisiau sy'n gallu cyfrannu at y ddadl ynglŷn a datblygiad y gêm yn gyffredinol."