Diffyg gwybodaeth am ryddhau stelciwr yn 'gwbl ofnadwy'
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o'r gogledd sydd â phrofiad o gamdriniaeth ddomestig yn dweud bod derbyn cyn lleied o wybodaeth am drwydded ei chyn-bartner wedi bod yn "hynod drallodus".
Yn 2020 cafodd cyn-bartner Rhianon Bragg, Gareth Wyn Jones, ei garcharu ar ôl defnyddio gwn i'w dal hi'n wystl yn ei chartref yng Ngwynedd.
Dywedodd Ms Bragg ei bod hi dan yr argraff bod Mr Jones yn cael ei ryddhau o'r carchar ddydd Gwener, ond ei bod hi bellach wedi clywed fod disgwyl i hynny ddigwydd dydd Iau.
"Efallai nad yw 24 awr yn teimlo fel llawer i nifer, ond o safbwynt dioddefwr, mae peidio gwybod pryd yn union y mae'r troseddwr yn cael ei ryddhau, ac union fanylion ei drwydded yn gwbl ofnadwy," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig nad oes hawl gan weinidogion i gadw troseddwyr yn y carchar y tu hwnt i'r ddedfryd gafodd ei gosod gan y barnwr yn yr achos.
Ymosododd Gareth Wyn Jones o Rosgadfan ger Caernarfon ar Rhianon Bragg wrth iddi gyrraedd ei chartref yn hwyr ar 15 Awst 2019.
Disgrifiodd Ms Bragg y profiad fel un ble roedd hi'n "ceisio goroesi, funud wrth funud".
Mewn cyfweliad ar raglen BBC Breakfast fore Mercher, dywedodd Ms Bragg nad oedd hi wedi derbyn gwybodaeth ynglŷn â dyddiad rhyddhau Mr Jones yn swyddogol.
"Dydw i ddim ond newydd ffeindio allan, dydi hyn ddim yn newyddion dwi wedi ei gael yn swyddogol. Roeddwn i wastad dan yr argraff ei fod o'n cael ei ryddhau dydd Gwener.
"Mae'n golygu bod unrhyw gynlluniau oedd gen i o ran cefnogaeth ac ati, bellach ddim yn addas, ac i mi mae'n esiampl o sut y mae dioddefwyr yn cael eu gadael i lawr gan y system."
'Anodd canolbwyntio... dwi'n crynu'
Dywedodd Ms Brag ei bod hi wedi bwriadu cael sesiwn gyda'i seicolegydd i sicrhau bod yna gymorth yno ar ddiwrnod lle nad oedd hi'n gwybod sut y byddai hi'n ymateb.
"Ond dwi'n meddwl ei bod hi mor bwysig fod pobl yn deall yr effaith mae hyn yn ei gael ar ddioddefwyr.
"Pan 'da chi wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu stelcian, rhan fawr o'r ofn yw'r ansicrwydd o ran lle yn union mae rhywun - ac mae peidio derbyn yr wybodaeth yno, mae'n cael effaith enfawr.
"Dwi'n gweld hyn i gyd yn hynod drallodus ar y funud a dwi'n ei chael hi'n anodd canolbwyntio, ma'n nghalon i'n curo, dwi'n crynu - dyma wir effaith y diffyg gwybodaeth.
"Dwi wedi trafod gyda'r system gyfiawnder ar bob cam o'r ffordd, ond eto, dyma sydd wedi digwydd... er y trafod cyson yna, dwi dal heb gael y dyddiad rhyddhau cywir."
Dywedodd Laura Farris, Gweinidog dros Ddioddefwyr a Diogelu Llywodraeth y DU nad oes ganddyn nhw unrhyw rymoedd i gadw Mr Jones yn y carchar y tu hwnt i'r ddedfryd gafodd ei gosod gan y barnwr.
"Mae o [Mr Jones] wedi cwblhau ei ddedfryd yn y carchar ond mae ganddo bum mlynedd arall ar drwydded, a bydd amodau'r drwydded yn hollbwysig.
"Mae Rhianon wedi cynnig rhestr o amodau y byddai hi'n hoffi eu gweld - gan gynnwys teclyn GPS, a nodi rhai ardaloedd lle nad oes hawl ganddo deithio - ac mae hyn yn golygu os ydi o'n gwneud unrhyw beth o'i le, mi fydd o'n dychwelyd i'r carchar.
"Wrth gwrs mi fydd yr achos yn cael ei oruchwylio yn ofalus iawn, ges i fy ffieiddio gan achos Rhianon Bragg, a dwi'n ymwybodol bod y Gweinidog Cyfiawnder hefyd wedi cymryd diddordeb personol yn yr achos."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2023