'Cynllun amaeth yn ganlyniad i bleidlais Brexit ffermwyr'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford y byddai ffermwyr mewn sefyllfa "wahanol iawn" pe na bai Brexit wedi digwydd

Mae cynlluniau amaeth newydd Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflwyno oherwydd bod ffermwyr wedi pleidleisio o blaid Brexit, yn ôl y prif weinidog.

Daw sylwadau Mark Drakeford yn sgil cyfres o brotestiadau yng Nghymru yn erbyn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Awgrymodd y byddai ffermwyr yng Nghymru mewn sefyllfa "wahanol iawn" pe bydden nhw'n dal i dderbyn cefnogaeth ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mae sylw Mr Drakeford wedi cael ei feirniadu fel un "amharchus tu hwnt" gan gyfarwyddwr y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod eu hymrwymiad i'r sector amaeth "ar yr adeg heriol hon yn glir iawn" ac maen nhw'n annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad presennol.

Dydd Llun fe wnaeth uwch swyddogion o ddau undeb amaeth gynnal trafodaethau brys gyda'r gweinidog materion gwledig, Lesley Griffiths er mwyn mynegi eu pryderon am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Mae'r undebau wedi cyflwyno nifer o argymhellion, gan gynnwys cael gwared â'r gofyn i blannu coed ar 10% o'u tir.

Mae deiseb yn galw am gael gwared â sawl agwedd ddadleuol o'r cynllun wedi cael ei harwyddo gan dros 10,000 o bobl bellach, sy'n golygu y bydd yn cael ei ystyried ar gyfer dadl lawn yn y Senedd.

Disgrifiad,

Protest ffermwyr yn Y Drenewydd ddydd Sul

Wrth ymateb i gwestiwn gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Drakeford ei bod hi'n "bwysig atgoffa aelodau pam ein bod ni yn y sefyllfa yma".

"Y rheswm ein bod ni yn y sefyllfa yma yw oherwydd bod ffermwyr yng Nghymru wedi dilyn ei gyngor ef [Andrew RT Davies] ac wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

"Credwch chi fi, ry'n ni 'ma nawr gan ein bod ni wedi gorfod cymryd rheolaeth o'r maes yng Nghymru.

"Pe bai ffermwyr Cymru yn dal i gael mynediad at arian yr Undeb Ewropeaidd, bydden nhw mewn sefyllfa wahanol iawn i'r hyn sy'n eu hwynebu nawr."

Ychwanegodd y prif weinidog nad oes unrhyw un yn cael ei gorfodi i blannu coed, a bod cynlluniau eisoes yn eu lle os nad ydi hi'n bosib i ffermwr gyrraedd y targed 10%.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Awgrymodd Andrew RT Davies y byddai cynlluniau'r llywodraeth yn arwain at golli swddi

Yn ystod sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Andrew RT Davies y byddai'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn "dibrisio ffermydd, yn arwain at golli swyddi ac yn effeithio ar y gallu i gynhyrchu bwyd".

Ychwanegodd yr aelod Ceidwadol o'r Senedd James Evans bod pobl yng nghefn gwlad "wir yn poeni" a'u bod yn "flin yn sgil yr holl ansicrwydd am y dyfodol".

Oedd ffermwyr o blaid Brexit?

Dadansoddiad gohebydd amgylchedd BBC Cymru, Steffan Messenger

Roedd nifer o adroddiadau fod ffermwyr yn cefnogi Brexit yn frwd.

Ond dydyn ni ddim wir yn gwybod yn sicr os wnaeth mwyafrif ffermwyr Cymru bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Does dim arolygon barn manwl wedi'u gwneud yng Nghymru, ac fe wnaeth pob prif undeb ffermio yma ymgyrchu o blaid aros yn yr UE.

Er enghraifft, nôl yn 2016 fe wnaeth Undeb Amaethwyr Cymru rybuddio y byddai gadael yn "gam peryglus", ac nad oedd modd gwybod y canlyniadau.

Yn ymateb i sylwadau'r prif weinidog dywedodd cyfarwyddwr Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yng Nghymru, Victoria Bond, eu bod yn "nodweddiadol o'i ddirmyg hirsefydlog tuag at gefn gwlad Cymru".

"Nid bai Brexit yw hyn - eich bai chi yw e. Rydyn ni eisiau gweithio gyda chi er mwyn gwneud y cynllun yma yn un sy'n gweithio i bawb," meddai.

"Trwy roi'r bai, yn anghywir, ar Brexit, mae Mr Drakeford ond yn ceisio osgoi craffu ar ei fethiannau ei hun i sefydlu cynllun sy'n gwneud synnwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Guto Bebb fod "dim amheuaeth" fod y polisïau amaethyddol o ganlyniad i Brexit

Yn siarad gyda BBC Cymru yn dilyn sylwadau'r prif weinidog dywedodd prif weithredwr Undeb Amaethwyr Cymru, Guto Bebb: "Does dim amheuaeth mae'r hyn 'da ni'n ei weld yn Lloegr ac yng Nghymru yng nghyd-destun polisi amaethyddol yn ganlyniad i'r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

"Ond yr hyn dwi ddim yn ei glywed gan aelodau Llafur, sy'n hapus iawn i neud y pwynt yna - dwi 'rioed wedi clywed unrhyw aelod o'r blaid Lafur yn datgan na ddylid buddsoddi yn y cymoedd... na ddylid buddsoddi yng ngogledd-ddwyrain Cymru - ardaloedd wnaeth bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

"Felly os 'da ni isio cael y math yna o ddadl - os 'da ni isio trio pwyntio bys at yr hyn ddigwyddodd wyth mlynedd yn ôl, ma'n gwbl allweddol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud yr un fath efo bob cymuned yng Nghymru - nid dim ond y gymuned amaethyddol."

'Perygl colli cefnogaeth y cyhoedd'

Yn y cyfamser, mae arweinydd undeb amaeth blaenllaw wedi dweud bod perygl i ffermwyr Cymru golli cefnogaeth y cyhoedd yn sgil protestiadau.

Dywedodd Minette Batters, arweinydd yr NFU drwy Gymru a Lloegr, ei bod hi'n cefnogi hawl y ffermwyr i brotestio ond ei bod hi'n bryderus iawn am yr effaith bosib ar gydymdeimlad y cyhoedd.

Yng nghynhadledd flynyddol yr NFU yn Birmingham, dywedodd Ms Batters y byddai cynlluniau Llywodraeth Cymru yn arwain at golli 5,500 o swyddi yn ogystal â thorri cyflenwadau ac incwm.

Ffynhonnell y llun, Digital-Photo.co.uk
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Minette Batters bod cynlluniau presennol Llywodraeth Cymru yn "linell goch nad oedden nhw'n fodlon ei chroesi"

Dywedodd bod y cynllun yn "linell goch nad oedden nhw'n fodlon ei chroesi".

"Dwi'n meddwl bod angen i ni fod yn ddiolchgar am yr hawl i brotestio yn heddychlon a rhannu ein safbwyntiau, ac o ran hynny ry'n ni'n gwbl gefnogol ohonyn nhw [y protestwyr].

"Y rheswm dwi'n pryderu rhywfaint, a 'da ni wedi gweld hyn gyda Just Stop Oil... unwaith rydych chi'n dechrau amharu ar fywydau bob dydd pobl mae modd colli cefnogaeth y cyhoedd yn sydyn iawn.

"Dwi'n poeni yn fawr am yr agwedd honno, a dwi'n meddwl y gallai hi gymryd blynyddoedd lawer i'r diwydiant adfer ffydd a chefnogaeth y bobl."

Ychwanegodd bod rhaid i Lywodraeth Cymru wrando a chyflwyno newidiadau ac mai'r unig ffordd i wneud hynny oedd drwy gynnal trafodaethau "cyfrifol" gyda'r diwydiant.

Ffynhonnell y llun, NFU Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths yn cynnal trafodaethau gydag uwch swyddogion undebau amaeth ddydd Llun

Dydd Llun fe awgrymodd Mr Drakeford na all ffermwyr benderfynu eu hunain sut i wario cymorthdaliadau i'r sector.

Wrth ymateb i'r sylwadau hynny ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd yr aelod Plaid Cymru o'r Senedd, Llyr Gruffydd bod sylwadau'r prif weinidog yn siomedig.

"Mae e wedi siomi pobl oherwydd does neb yn dweud bod ffermwyr yng Nghymru eisiau pres er mwyn cael gwneud gydag e be bynnag ddymuna nhw - dyw e erioed wedi bod felly a fydd hi ddim felly yn y dyfodol.

"Mae pawb wedi bod yn glir, gan gynnwys y diwydiant, bod nhw eu hunain yn wynebu newid hinsawdd - dydi ffermwyr ddim yn immune i hynna chwaith - ac felly mae rhaid i ni gyd fel cymdeithas ehangach dynnu at ein gilydd ac mae rhaid i bethau newid.

Sylwadau 'ymfflamychol'

"Mae clywed y prif weinidog yn trio fframio'r drafodaeth i ddau begwn - sef un pegwn yn dweud 'mae'n rhaid ymateb i newid hinsawdd' a phegwn arall ble mae e'n trio portreadu'r diwydiant fel un sy'n dweud di nhw ddim eisiau unrhyw newid.

"Mae hynny nid yn unig yn creu anghymwynas gyda'r sefyllfa ond mae e'n ymfflamychu sefyllfa lle mae tymheredd eisoes yn rhedeg yn uchel iawn."

Ychwanegodd Mr Gruffydd bod y sylwadau yn "anghyfrifol ac yn gamarweiniol" ac yn arwydd bod Mr Drakeford unai yn "chwarae gwleidyddiaeth" neu yn "gwbl anwybodus o'r sefyllfa".

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu y bydd eu cynlluniau yn sicrhau cynhyrchu systemau bwyd diogel, yn diogelu'r amgylchedd ac yn delio ag argyfyngau hinsawdd a natur.

Dywedodd llefarydd: "Mae gweithio gyda'r sector amaeth yn allweddol a dyna pam mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi'i ddatblygu ar y cyd â ffermwyr.

"Ar hyn o bryd mae'r broses o ymgynghori yn digwydd ac fe fydden yn hoffi diolch i ffermwyr sydd eisoes wedi ymateb ac sydd wedi mynychu digwyddiadau ar draws Cymru.

"Does dim penderfyniad terfynol wedi cael ei wneud hyd yma. Fydd hynny ddim yn digwydd tan wedi'r ymgynghoriad a hoffem annog pawb i gyflwyno eu sylwadau."