'Profiad o ganser wedi g'neud i fi wirfoddoli yn Uganda'
- Cyhoeddwyd
"Ddeg mlynedd yn ôl doeddwn i ddim yn meddwl y buaswn i dal yma wedi i mi gael canser y fron a bod yn ddifrifol wael ond mi wnaeth yr holl brofiad wneud i fi fynd i wirfoddoli i Uganda."
Ers 2017 mae Marian Vaughan - o Lanedi ger Pontarddulais - a fu'n ymwelydd iechyd, a'i gŵr Mark, a fu'n feddyg teulu, wedi bod yn cynnal clinigau pop-up yn y wlad yn nwyrain Affrica.
"Y mab ieuengaf, Geraint, a blannodd y syniad. Mi aeth o yno i ffilmio canolfan famolaeth gydag EFOD (Engineers for Overseas Development) fel rhan o'i gwrs gradd a ddoth o'n ôl mewn shorts, crys-T a flip flops ym mis Tachwedd gyda'i fag yn wag.
"Ro'n i ar fin deud y drefn wrtho ond dyma fo'n deud 'Mam - does ganddyn nhw ddim byd. Dwi wedi gadael pob dim iddyn nhw - mae'n rhaid i chi a Dad fynd yno'," meddai Marian wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru ddydd Sul.
"Dwi wedi cael bywyd breintiedig a syml ac ar ôl cael y lawdriniaeth ro'n i eisiau symud ymlaen. Ro'n i eisiau byw fy mywyd ac yn ystod y cyfnod yna ro'n i'n ffindio hi'n anodd iawn codi arian i elusennau canser y fron gan bod hynny yn fy atgoffa pa mor wael roeddwn i wedi bod.
"Yna dyma feddwl am eiriau Geraint y mab a meddwl bod gwirfoddoli yn Uganda yn ffordd o roi rhywbeth yn ôl. Mae be dwi'n neud yn ffordd i fi ddiolch fy mod i dal yma heddiw."
Mae Marian a'i gŵr wedi bod yn mynd ryw ddwywaith y flwyddyn i Uganda gydag elusennau EFOD a Salt Peter Trust - elusen a gafodd ei ffurfio yng Nghaerdydd ryw 20 mlynedd yn ôl.
"'Dan ni wedi bod yn ffodus iawn o gael grantiau gan Lywodraeth Cymru ac eraill i gynnal clinigau pop-ups yng nghanolfan feddygol Saroti. Mae 'na bobl dlawd yno sydd methu cael dim gofal iechyd ac felly 'dan ni'n mynd â phabell gyda ni neu'n plannu'n hunain o dan coeden ac yn cynnal clinigau.
"'Dan ni newydd ddychwelyd gan gynnal tri chlinig ac mae oddeutu 500 ymhob un - ond be sy'n digwydd wedyn yw bod yna ddilyniant ar Zoom wedi i ni ddod adref ac mae ymgynghoriad ar-lein yn digwydd bob ryw bythefnos neu o leiaf unwaith y mis."
Mae'r ddau yn mynd â chymorth a deunydd meddygol gyda nhw yn ystod eu hymweliadau.
"Mae ffrind i'r gŵr yn feddyg opthalmig - mae o'n gyrru sbectolau darllen i ni bob tro i fynd allan gyda ni a 'dan ni'n mynd â deintydd gyda ni. Mae o'n gallu tynnu hyd at 90 o ddannedd o dan y goeden.
"'Dan ni hefyd yn noddi gŵr o'r enw Charlie a gafodd ei gipio pan yn ifanc gan y Lord's Resistance Army. Mae o bellach ar ei flwyddyn gyntaf yn y brifysgol a mor ddiolchgar am bopeth."
Dysgu sgiliau i eraill
Mae Salt Peter Trust yn elusen Gristnogol ond does dim rhaid i'r sawl sy'n cael triniaeth fod â ffydd.
"Dan ni'n gweithio o ganolfan iechyd ac mae pobl yn talu os allan nhw. Does neb yn cael ei wrthod - dim ots be' ydy crefydd nhw. Mae pawb yn cael eu trin. Dyw'r cymorth ddim yn ddibynnol ar dderbyn y ffydd."
Yr hyn sy'n hynod o bwysig yw hyfforddi pobl i gario ymlaen â'r gwaith, ychwanegodd Marian Vaughan.
"'Dan ni ddim jyst yn mynd allan a gwneud rhyw dair wythnos a dod yn ôl. 'Dan ni'n gadael nhw gyda sgiliau i gario'r gwaith ymlaen. Drwy'r cyfarfodydd ry'n ni'n gallu meithrin y sgiliau.
"Ni ddim eisiau creu dibyniaeth yna - mae hi mor bwysig gadael nhw gyda sgiliau i gario ymlaen â'r gwaith.
"Bob tro dwi'n mynd dwi'n deud 'dyma'r tro olaf' ond 'dan ni'n mynd eto ac eto. Mae yna rhywbeth yn Uganda sydd wedi cyrraedd ein gwaed ni ac mae'n bleser pur cael gwneud y gwaith."
Mae sgwrs Marian Vaughan i'w chlywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ar BBC Sounds.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd22 Medi 2022