Steffan Rhodri: Y 'fraint' o weithio ar The Way
- Cyhoeddwyd
"Fel unrhyw un o'n oedran i mae'r atgofion i gyd o streic y glowyr a beth yw hanes diwydiannol de Cymru. Oherwydd y diwydiant trwm mae de Cymru'r math o gymuned yw e. Mae hwnna 'na fel rhyw fath o ysbryd i bawb o fy oedran i o'r ardal."
Mae'r actor Steffan Rhodri wedi mynd yn ôl i'w wreiddiau yn ddiweddar gyda chyfres o ddramâu am yr ardal lle cafodd ei fagu - Steeltown Murders, Men Up a'i gyfres newydd gyda Michael Sheen, The Way.
Mae The Way yn portreadu'r effaith ar gymuned Port Talbot a'r ardal wedi i weithwyr dur ddadlau gyda perchnogion y gweithfeydd am ddyfodol y diwydiant gan arwain at derfysgoedd a rhaniadau yn y gymuned.
Steffan, sy'n wreiddiol o Dreforus, sy'n chwarae un o'r prif gymeriadau, Geoff Driscoll, sy'n ceisio cyfathrebu gyda pherchnogion y gweithfeydd dur yng nghanol yr anghydfod.
Ac mae'r profiad wedi ei atgoffa o'i fagwraeth yn yr ardal, fel mae'n sôn wrth Cymru Fyw: "O'r cefndir a'r ardal dwi'n dod, ti'n ymwybodol o sut mae de Cymru wedi cael ei greu. Mae de Cymru dim ond fel mae e achos y diwydiant trwm yna neu fel arall byddai fel gweddill Cymru.
"Mae unrhyw un yn yr ardal yn ymwybodol o'r gweithfeydd dur. Roedd y mwg a'r drewdod yn dod drosto. Roedd e'n bresennol iawn ym mywyd unrhyw un yn yr ardal.
"O'n i ddim yn gwybod lot am hanes y diwydiant dur ond oedd e'n amlwg pan yn ffilmio pa mor bwysig yw'r gweithfeydd i Bort Talbot.
Gweithfeydd yn cau
"Bydden i byth wedi dyfalu pa mor gywir fyddai'r predictions yn y ddrama am beth allai digwydd (cyhoeddwyd yn Ionawr fod y gweithfeydd dur yn cau).
"Mewn ffordd drist iawn jest pythefnos cyn i'r gyfres gael ei rhyddhau bod y newyddion yma wedi dod am y gweithfeydd. Roedd lot o bobl fel yr ychwanegion (extras) yn gweithio yn y gweithfeydd a gyda theuluoedd yn gweithio yn y gweithfeydd. Roedd ambell i actor yn dod o Bort Talbot a gyda theulu'n gweithio yn y gweithfeydd.
"Mewn golygfeydd fel y cyfarfod cyhoeddus roedd lot fawr o nhw'n bobl iawn o'r dre. Roedd Michael wedi tynnu pobl o'r gymuned oedd yn fodlon bod yn rhan o'r peth gyda Michael ac roedd hwnna'n rhoi rial gwirionedd i'r peth.
"Mewn un olygfa yn swyddfa'r rheolwr o China roedd pob un o'r ychwanegion yn weithiwr o'r gwaith dur. Oedden nhw 'na yn eu gwisg gwaith, yn eu bŵts ac overalls yn hapus i ddod i sefyll i bacio fi a Mark (yr actor Mark Lewis Jones) lan."
Gweithio gyda Michael Sheen
Mae'r ddrama yn dangos effaith y cynnwrf ar Geoff a'i deulu ac mae Steffan yn disgrifio'r cyfle i chwarae'r cymeriad sy'n llawn trawma am ei orffennol a'r cyfle i weithio gyda Michael Sheen fel 'gwych o brofiad': "O'n i 'di nabod Michael Sheen ers o'n ni'n blant. O'n ni yn ein arddegau gyda'n gilydd yng Nghwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg ond dim ond wedi gweld e yn gymdeithasol ers hynny, byth wedi gweithio gyda fe yn broffesiynol.
"Oedd e'n rial anrhydedd i weithio gyda fe o'r diwedd. Ac wrth gwrs mae'r rhan yn wych, roedd y stori mor uchelgeisiol a steil yr holl beth mor arbrofol. O fewn hynna i fi oedd cymeriad a rhan oedd yn rili heriol.
"Yn aml iawn gyda teledu ti ddim yn cael cyfle o fewn tri pennod i gael stori gyflawn i gymeriad gyda story arc mor gynnil ond hefyd eang ar yr un pryd. 'Nes i rial fwynhau.
"Roedd y steil yn arbrofol, yn newydd a'n gwthio boundaries.
"Oedd e'n bwysig i Michael i gael cast o Gymru - os na fydde Michael wedi bod yn llywio'r holl beth byddai ambell i actor ddim wedi bod yn Gymry - ond oedd e'n benderfynol bod nhw mor authentic â phosib a bod pob un oedd yn portreu Cymro yn Gymro."
Roedd angerdd Michael Sheen, oedd yn gynhyrchydd ac yn gyfarwyddwr ar The Way, yn ysbrydoliaeth i'r cast yn ôl Steffan: "O'n i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl - mae e'n brofiadol iawn fel actor wrth gwrs ond dwi'n credu achos ei brosiect e oedd e, oedd e gyda rial gofal drosto fe a doedd dim ego ganddo fe o gwbl o ran ei ffordd o weithio.
"Oedd e'n amlwg wedi dysgu lot fel cyfarwyddwr. Mae actor yn dysgu lot o ochr ni o'r camera ac yn absorbio lot o sut mae ffilm a teledu yn gweithio.
"Oedd e wastad yn gwybod pryd i roi dipyn bach o gyngor a chyfarwyddyd bach a pryd i adael llonydd. Ac wrth gwrs oedd rial angerdd gyda fe am yr holl brosiect. Oedd hwnna yn infectious."
Mae'r ddau actor wedi eu dylanwadu'n fawr gan eu dyddiau fel actorion ifanc gyda Cwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg, fel mae Steffan yn dweud: "'Natho ni ymuno ar yr un pryd - 1982 neu 1983.
"Dwi cwpl o flynyddoedd yn hŷn na Michael ond 'natho ni rhyw dri cynhyrchiad gyda'n gilydd. Oedd e'n amlwg fod ganddo ddyfodol disglair iawn fel actor.
"Ac mae'r ddau ohono ni yn werthfawrogol iawn o ddylanwad y diweddar Godfrey Evans, 'nath farw llynedd, ar gymaint ohono ni."
Gwreiddiau
Mae Steffan, sy' efallai mwyaf adnabyddus am ei rôl fel Dave Coaches yn Gavin and Stacey, wedi cael 10 mis o weithio yn ei ardal enedigol oherwydd ffilmio The Way, Men Up a Steeltown Murders, profiad sy' wedi bod yn bwysig iddo: "Mae Men Up, mwy nag un drama (wedi mynd nôl i fy ngwreiddiau) achos oedd y treial clinigol oedd e wedi seilio arno wedi digwydd yn Ysbyty Treforus lle ces i fy ngeni.
"Nes i'r dair job un ar ôl y llall mewn 10 mis ac i gyd yn yr un ardal - o fewn ardal Cwm Tawe a Port Talbot so lle ces i'n fagu. Oedd e'n grêt o brofiad a phob un yn brosiect mor wahanol a chymeriad mor wahanol. Oedd e'n rial fraint - mae'n grêt i gael cyfle i neud y pethe 'ma ar scale mor fawr."
Gwyliwch The Way ar nos Lun am 9pm ar BBC One.