Galw am wella'r system gwynion am Aelodau'r Senedd

  • Cyhoeddwyd
Nerys Evans
Disgrifiad o’r llun,

Nerys Evans fu'n arwain adolygiad damniol wnaeth ganfod "diwylliant o fwlio, aflonyddu a misogynistiaeth" o fewn Plaid Cymru

Dylai Llywodraeth Cymru "ymyrryd" i sicrhau bod y Senedd yn delio'n well gyda chwynion am fwlio ac aflonyddu, yn ôl cyn-AS.

Dywedodd Nerys Evans nad oedd y system bresennol o ddelio gyda chwynion yn erbyn gwleidyddion yn ddigon da, gyda dioddefwyr dal "ddim yn hyderus" yn codi pryderon.

Daw hynny wedi i gyn-AS Plaid Cymru, Rhys ab Owen wynebu gwaharddiad o chwe wythnos o'r Senedd ar ôl i ymchwiliad ganfod ei fod wedi cyffwrdd yn amhriodol a rhegi ar ddwy ddynes pan oedd yn feddw ar noson allan.

Dywedodd Ms Evans fod angen ffordd o ddiswyddo gwleidyddion oedd yn ymddwyn yn amhriodol - rhywbeth sy'n bosib yn San Steffan drwy ddeiseb adalw, ond nid yn y Senedd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae "safonau ymddygiad Aelodau o'r Senedd, gan gynnwys materion disgyblu a staffio, yn fater i'r Senedd a Chomisiwn y Senedd".

Ychwanegodd llefarydd eu bod "wedi gofyn i Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd ymchwilio i fesurau pellach i gryfhau atebolrwydd aelodau unigol yn y dyfodol".

Dywedodd y Senedd eu bod yn "datblygu opsiynau ar gyfer cryfhau atebolrwydd aelodau unigol".

Fe wnaeth ymchwiliad gan y Comisiynydd Safonau Douglas Bain ganfod nad oedd Mr ab Owen wedi dangos unrhyw edifeirwch am y digwyddiad ar 30 Mehefin 2021.

Mae'n gwadu unrhyw "ymddygiad amhriodol" tuag at y ddwy fenyw.

Cafodd manylion ymchwiliad Mr Bain eu cyhoeddi gan Bwyllgor Safonau'r Senedd ddydd Mercher, wnaeth argymell gwaharddiad o 42 diwrnod iddo.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhys ab Owen, sy'n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, ei ethol i'r Senedd am y tro cyntaf yn 2021

Yn 2023 fe wnaeth Nerys Evans arwain adolygiad damniol wnaeth ganfod "diwylliant o fwlio, aflonyddu a misogynistiaeth" o fewn Plaid Cymru - adroddiad wnaeth arwain yn y pen draw at ymddiswyddiad eu harweinydd Adam Price.

Wrth siarad gyda rhaglen Politics Wales ddydd Sul, dywedodd Ms Evans - oedd yn gyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru - fod y blaid nawr yn wynebu "prawf" ynglŷn â diarddel Rhys ab Owen ai peidio.

"Mae systemau yn eu lle bellach, a fi'n disgwyl bydd yr achos penodol yma'n cael ei roi drwy'r broses ddisgyblu yna o fewn grŵp y Senedd a'r blaid," meddai.

"Fi'n hyderus gyda'r newidiadau mae'r blaid wedi rhoi yn eu lle na fyddai hyn yn digwydd eto."

'Dim wedi cael ei wneud am y peth'

Mae'n teimlo fodd bynnag fod angen i'r Senedd ei hun newid y ffordd mae'n delio gydag achosion o'r fath - gyda digwyddiadau o aflonyddu, bwlio ac aflonyddu rhyw yn cael eu hymchwilio drwy system annibynnol yn hytrach na thrwy'r Comisiynydd Safonau.

"'Dyn ni'n gwybod fod aflonyddu rhyw, aflonyddu a bwlio, yn digwydd yn aml yn y Senedd - wedi digwydd ers 25 mlynedd - a prin iawn, iawn mae pobl yn defnyddio'r system gwynion," meddai Ms Evans, sydd bellach yn gyfarwyddwr ar asiantaeth materion cyhoeddus Deryn.

"'Dyn ni wedi cael #MeToo, a'r Pwyllgor Safonau yn edrych ar y materion yma bum mlynedd yn ôl.

"Does dim byd wedi cael ei wneud am y peth yn iawn.

"Mae'n eitha' rhagrithiol bod y Senedd yn cymryd tystiolaeth gan sefydliadau pan maen nhw'n gweld... systemau annigonol ar gyfer delio gydag ymddygiad amhriodol, ac yn gwneud argymhellion i'r sefydliadau yna, pan dydyn nhw ddim wedi cael trefn ar eu hunain."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nerys Evans wedi galw ar Lywodraeth Cymru i "ymyrryd" i sicrhau bod y Senedd yn delio'n well gyda chwynion am fwlio ac aflonyddu

Bellach, meddai Ms Evans, mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried ymyrryd.

"Dyw'r Senedd ddim yn cymryd y peth ddigon o ddifri', er yr holl dystiolaeth bod y system gwynion ddim yn ffit i'w bwrpas," meddai.

"Mae'n rhaid taclo hyn - dyw'r ymddygiad ddim yn stopio. Mae'n cario 'mlaen achos dyw e ddim yn cael ei herio."

'Methu'n llwyr'

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Ben Lake eisoes wedi dweud y dylai Rhys ab Owen - sy'n cynrychioli Canol De Cymru yn y Senedd - fod wedi wynebu colli ei sedd am ei ymddygiad amhriodol.

Ond yn wahanol i San Steffan, ble mae deiseb adalw yn gallu arwain at isetholiad dan y fath amgylchiadau, does dim proses debyg ar gyfer diswyddo Aelodau o'r Senedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae David TC Davies hefyd o'r farn bod angen system ble gall Aelodau'r Senedd golli eu sedd am ymddygiad amhriodol

Mae Ms Evans wedi cefnogi'r alwad am newid y system, ac mae Ysgrifennydd Cymru David TC Davies yn rhannu'r farn honno.

"Mae angen i bawb o fewn gwleidyddiaeth ddilyn safon uchel o ymddygiad bob tro," meddai'r aelod Ceidwadol dros Fynwy.

Gan gyfeirio at gynlluniau Llafur a Phlaid Cymru i ehangu'r Senedd, ychwanegodd: "Maen nhw wedi llwyddo i ddod o hyd i ffordd i wario £100m ar gael cynnydd mawr yn nifer yr Aelodau Senedd.

"Ond maen nhw'n methu'n llwyr â chael ffordd o sicrhau bod y bobl yna'n cadw i'r un safonau uchel rydyn ni'n ei ddisgwyl yn San Steffan."

'Cryfhau atebolrwydd'

Dywedodd llefarydd ar ran y Senedd eu bod yn "cymryd y materion hyn o ddifrif".

"Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wrthi'n gweithio gyda'r Comisiynydd Safonau, pleidiau gwleidyddol a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu opsiynau ar gyfer cryfhau atebolrwydd aelodau unigol.

"Mae hyn yn cwmpasu ystod o faterion gan gynnwys ad-alw aelodau, trefniadau gwahardd a'r sancsiynau sydd ar gael i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad pan fydd cwyn am aelod yn cael ei gadarnhau."