Cymru v Yr Eidal: 'Nid ni yw'r ffefrynnau'
- Cyhoeddwyd
Chwarae pedair, colli pedair. Dyna yw'r sefyllfa i Gymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2024 yn dilyn y golled 24-45 yn erbyn Ffrainc yng Nghaerdydd.
Wedi awr o chwarae roedd Cymru 24-23 ar y blaen, ond yn y chwarter olaf fe ddangosodd tîm Ffrainc ei bŵer gan groesi'r gwyngalch deirgwaith.
Yn siarad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore Llun, rhannodd cyn-flaenwr Cymru, Derwyn Jones ei ymateb.
"Nes i fwynhau'r gêm, yn enwedig yr awr gyntaf, o'n i'n teimlo fod Cymru'n gystadleuol ym mhob agwedd o'r chwarae, ac o'n i'n gobeithio cael buddugoliaeth.
"Ond fe 'nath Warren Gatland a'r tîm hyfforddi ychydig o newidiadau a newidiodd y gêm.
"Newidiodd yr haneri pan oedd Tomos Williams yn cael gêm ardderchog ac roedd Sam Costelow'n cael gêm dda hefyd.
"Mae'n ddiddorol i Warren Gatland ddweud ar ôl y gêm bod Sam Costelow yn cael gêm dda, ond newidiodd e'r ddau chwaraewr yna a dwi jest yn teimlo bod y newidiadau yna wedi newid llif y gêm ac aeth Cymru 'mlaen i golli yn eitha' sylweddol."
Yn ôl Derwyn Jones fe ddylai Gatland ysgwyddo rhywfaint o'r bai am y golled.
"Mae'n siomedig i fi ar ôl y gêm nad oedd Warren Gatland wedi cymryd cyfrifoldeb am hynny a jest yn beio'r chwaraewyr. Roedd Cymru 'di chwarae'n dda yn sicr am rhan fwya'r gêm, a jest yn yr 20 munud olaf oedden ni'n ei ffeindio fe'n anodd.
"Fe [Gatland] sydd 'di dewis y chwaraewyr yma ar gyfer y Chwe Gwlad - mae 'na chwaraewyr mas 'na sy'n hŷn ac sydd â dipyn bach mwy o brofiad.
"'Da ni wedi cael anafiadau mewn rhai safleoedd - pobl fel Christ Tshiunza ddim ar gael, a dydy Gareth Anscombe ddim ar gael wedi anaf yng Nghwpan y Byd."
Gatland dan bwysau?
Er gwaethaf yr anafiadau ac ymddeoliadau diweddar, mae Derwyn Jones yn credu nad yw Gatland wedi delio â'r pwysau diweddar yn effeithiol.
"Fe sy'n gwneud y newidiadau a ma' jest yn od bod o'n beio'r rhanbarthau cwpl wythnosau yn ôl, ac maen nhw'n ymateb yn y wasg, ac smo fe'n teimlo fod Warren Gatland yn delio gyda'r pwysau o fod yn hyfforddwr rhyngwladol fel mae wedi yn y gorffennol.
"Mae wedi gwneud jobyn ardderchog yn y blynyddoedd sydd 'di bod, ond nawr rwy'n credu fod o'n berson gwahanol."
"Dwi'n dal yn teimlo os ydy e'n gwneud y dewisiadau cywir a bod Cymru'n chwarae ar eu gorau, yn ffyddiog bydd Cymru'n cael y fuddugoliaeth."
Mae sefyllfa'n bosib ble all Cymru ennill yn erbyn Yr Eidal ond dal orffen ar waelod y tabl.
Yn wir, petai Paulo Garbisi wedi llwyddo gyda chic gosb hwyr yn erbyn Ffrainc yn nhrydedd rownd y bencampwriaeth byddai Cymru wedi cael y llwy bren yn barod.
"Dy'n ni methu rheoli falle ble ni'n cwpla yn y tabl, ond dwi'n credu bod pawb moen i Gymru ennill y gêm.
"Mae'r chwaraewyr ifanc wedi datblygu a chael lot fawr o brofiad, ac am 60 munud ddoe oedden ni yn y gêm yn erbyn tîm mawr Ffrainc oedd yn gystadleuol yng Nghwpan y Byd.
"Ond mae'r Eidal nawr wedi maeddu Yr Alban, cael gêm gyfartal yn erbyn Ffrainc, felly mae hon yn gêm enfawr a falle nid ni yw'r ffefrynnau yn mynd mewn i'r gêm - sydd yn od i'w ddweud cyn gêm yn erbyn Yr Eidal."
'Pŵer Ffrainc yn ormod i Gymru'
Mae cyn-gapten Cymru, Sam Warburton, yn dweud fod y gêm olaf o'r bencampwriaeth yn erbyn Yr Eidal yn un ble mai'r canlyniad sy'n bwysig, yn hytrach na'r perfformiad.
"Mae'n rhaid i Gymru ennill. Dwi'n gwybod bod ni'n siarad am ddatblygu, ond bydde fe'n wael iawn i golli pob un o'r gemau."
Roedd gagendor yn gorfforol rhwng y ddau dîm yng Nghaerdydd, yn ôl Warburton: "Roedd amddiffyn Cymru'n edrych yn dda yn yr wythnosau cyntaf ac fe wnaethon nhw allu cadw o fewn cyrraedd i'r timau eraill, ond roedd y gwahaniaeth mewn pŵer corfforol yn amlwg i'w weld yn erbyn Ffrainc.
"Mae sgiliau'n bwysig, mae cicio'n bwysig, ond os dydych chi ddim yn ennill y gwrthdrawiadau ac ardal y dacl ry'ch chi mewn trafferth.
"Roedd y tîm ifanc Cymreig yma'n arwrol ond roedd pŵer y Ffrancwyr, yn enwedig oddi ar y fainc, yn anhygoel ac roedd e'n ormod i Gymru."
Mae 21 mlynedd wedi bod ers i Gymru orffen ar waelod tabl y Chwe Gwlad, ac ymysg y garfan hynny oedd Iestyn Harries, Ceri Sweeney, Colin Charvis a Mark Taylor.
Cawn weld ar 16 Mawrth os fydd carfan 2024 yn gallu hawlio buddugoliaeth ac osgoi'r un dynged.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth
- Cyhoeddwyd9 Mawrth